John Griffith Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''John Griffith Owen''' (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Alafon, a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer. Treu...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''John Griffith Owen''' (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Alafon, a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer. | Roedd '''John Griffith Owen''' (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Owen Griffith Owen (Alafon), a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer. | ||
Treuliodd ei blentyndod yn Mhant Glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa Griffith Lewis, Pen-y-groes, ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r ''Genedl'' yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny: | Treuliodd ei blentyndod yn Mhant Glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa Griffith Lewis, Pen-y-groes, ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r ''Genedl'' yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny: |
Fersiwn yn ôl 15:32, 4 Tachwedd 2022
Roedd John Griffith Owen (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Owen Griffith Owen (Alafon), a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer.
Treuliodd ei blentyndod yn Mhant Glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa Griffith Lewis, Pen-y-groes, ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r Genedl yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny:
Ha! wele deil barabl dyn, - i'w ollwng Allan bod sill wedyn; Ei foddus waith rhyfedd sy'n Rhoi syndod, ddrysa undyn.
Dynweryd dôn neu eiriau, - yn fanwl Anfona'r un nodau; A seinia glir lais yn glau O'i lonydd ddirgel enau.
O dan gamp, fe geidw'n gêl - enwog lais, Un ga wlad i'w arddel; Trwy hwn, er mewn tir anwel, Sai' ei ddawn i'r oes a ddêl.[1]
Cyfeiriadau
1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.26-8.