John Jones (Ioan Eifion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd '''John Jones (Ioan Eifion)''' 1839-1909. Bu'n byw ym Mhen-y-groes a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd y...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd '''John Jones (Ioan Eifion)''' 1839-1909.  
Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd '''John Jones (Ioan Eifion)''' 1839-1909.  


Bu'n byw ym Mhen-y-groes a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd yn aelod amlwg ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac roedd yn selog hefyd o blaid dirwest. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth ond yn ôl Cybi ni ddaeth i amlygrwydd neilltuol fel bardd ac ni fu'n cystadlu am brif wobrau fel coronau a chadeiriau. Fodd bynnag, cyhoeddodd lyfryn o ffrwyth ei awen dan y teitl ''Y Blaguryn''. Dywed Cybi ymhellach iddo ef weld peth o'i waith anghyhoeddedig mewn llawysgrifau a gedwid gan John Williams, Eirianlys, Tal-y-sarn. Cyfansoddodd Ioan Eifion hefyd gywydd coffa i Fanny Jones, gwraig y pregethwr nodedig John Jones, Tal-y-sarn, a cheir dyfyniadau ohono yn y cofiant i Fanny Jones a ysgrifennwyd gan Llew Owain - sy'n enghraifft brin o gofiant i wraig o'r 19g. Un arall o gynhyrchion Ioan Eifion oedd llyfr bach o'r enw ''Gemau Doethineb'', sy'n cynnwys detholiad o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith moeswersol eu natur. <sup>[1]</sup>
Bu'n byw ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd yn aelod amlwg ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac roedd yn selog hefyd o blaid dirwest. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth ond yn ôl Cybi ni ddaeth i amlygrwydd neilltuol fel bardd ac ni fu'n cystadlu am brif wobrau fel coronau a chadeiriau. Fodd bynnag, cyhoeddodd lyfryn o ffrwyth ei awen dan y teitl ''Y Blaguryn''. Dywed Cybi ymhellach iddo ef weld peth o'i waith anghyhoeddedig mewn llawysgrifau a gedwid gan John Williams, Eirianlys, [[Tal-y-sarn]]. Cyfansoddodd Ioan Eifion hefyd gywydd coffa i [[Fanny Jones]], gwraig y pregethwr nodedig [[John Jones, Tal-y-sarn]], a cheir dyfyniadau ohono yn y cofiant i Fanny Jones a ysgrifennwyd gan Llew Owain - sy'n enghraifft brin o gofiant i wraig o'r 19g. Un arall o gynhyrchion Ioan Eifion oedd llyfr bach o'r enw ''Gemau Doethineb'', sy'n cynnwys detholiad o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith moeswersol eu natur.<ref>Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), tt.67-9.</ref>
 
Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig'' ym 1888, fe’i gosodwyd yn safle 16 allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref> Dichon felly i hynny dystio i'w allu fel bardd.


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), tt.67-9.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Gofaint]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:37, 3 Tachwedd 2022

Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd John Jones (Ioan Eifion) 1839-1909.

Bu'n byw ym Mhen-y-groes a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd yn aelod amlwg ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac roedd yn selog hefyd o blaid dirwest. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth ond yn ôl Cybi ni ddaeth i amlygrwydd neilltuol fel bardd ac ni fu'n cystadlu am brif wobrau fel coronau a chadeiriau. Fodd bynnag, cyhoeddodd lyfryn o ffrwyth ei awen dan y teitl Y Blaguryn. Dywed Cybi ymhellach iddo ef weld peth o'i waith anghyhoeddedig mewn llawysgrifau a gedwid gan John Williams, Eirianlys, Tal-y-sarn. Cyfansoddodd Ioan Eifion hefyd gywydd coffa i Fanny Jones, gwraig y pregethwr nodedig John Jones, Tal-y-sarn, a cheir dyfyniadau ohono yn y cofiant i Fanny Jones a ysgrifennwyd gan Llew Owain - sy'n enghraifft brin o gofiant i wraig o'r 19g. Un arall o gynhyrchion Ioan Eifion oedd llyfr bach o'r enw Gemau Doethineb, sy'n cynnwys detholiad o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith moeswersol eu natur.[1]

Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn safle 16 allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[2] Dichon felly i hynny dystio i'w allu fel bardd.

Cyfeiriadau

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.67-9.
  2. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7