John Jones (Maldwynog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd '''John Jones (Maldwynog)''' (1858-1894). Roedd o’n fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), y teulu’n byw gydag Edward Lloyd, brawd Catherine, a oedd yn ffermio Wylfa, Glan’rafon, Carno.<ref>Cyfrifiad plwyf Carno, 1861</ref>
Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd '''John Jones (Maldwynog)''' (1858-1894). Roedd yn fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), gyda'r teulu’n byw gydag Edward Lloyd, brawd Catherine, a oedd yn ffermio Wylfa, Glan’rafon, Carno.<ref>Cyfrifiad plwyf Carno, 1861</ref>


Nid hawdd yw canfod symudiadau gweithwyr sydd ag enwau cyffredin megis John Jones, ond mae’n bosibl iddo dreulio amser yn y de. Cyhoeddodd englyn yn y ''Pontypridd Chronicle'' yn gynnar ym 1882.<ref>''Pontypridd Chronicle'', 24.1.1882, t.3</ref>, a phrin y byddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod yn (neu wedi bod yn) byw yn ardal y papur hwnnw am gyfnod.
Nid hawdd yw canfod symudiadau gweithwyr sydd ag enwau cyffredin megis John Jones, ond mae’n bosibl iddo dreulio amser yn y de. Cyhoeddodd englyn yn y ''Pontypridd Chronicle'' yn gynnar ym 1882.<ref>''Pontypridd Chronicle'', 24.1.1882, t.3</ref>, a phrin y byddai wedi gwneud hynny oni bai ei fod yn byw yn ardal y papur hwnnw ar y pryd, neu wedi bod yn byw yno.


Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] i chwilio yno am waith. Yno briododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf [[Llanllyfni]] ym 1859. Cawson nhw un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891</ref> Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo fo ei hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]] ym 1888<ref>''Y Genedl Gymreig'', 2.1.1889, t.6</ref> a Chylchwyl [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon]] y Nadolig canlynol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 1.1.1890, t.8</ref>
Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] i chwilio am waith. Yno priododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf [[Llanllyfni]] ym 1859. Cawsant un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891</ref> Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]] ym 1888<ref>''Y Genedl Gymreig'', 2.1.1889, t.6</ref> a Chylchwyl [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon]] y Nadolig canlynol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 1.1.1890, t.8</ref>
Dichon iddo gyflawni sawl gamp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur ''Y Celt'' fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi mabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol!<ref>''Y Celt'', 8.1.1886, t.8</ref> Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur talentau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig''ym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>
Dichon iddo gyflawni sawl camp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur ''Y Celt'' fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi ei fabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol!<ref>''Y Celt'', 8.1.1886, t.8</ref> Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig''ym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>


Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog edrych am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ar ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.<ref>''South Wales Daily News'', 26.2.1894, t6</ref> Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.<ref>''Tarian y Gweithiwr'', 12.7.1894, t.2</ref>
Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog chwilio am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.<ref>''South Wales Daily News'', 26.2.1894, t6</ref> Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.<ref>''Tarian y Gweithiwr'', 12.7.1894, t.2</ref>


Mae un erthygl y dylid sôn amdano yng nghyd-destun Maldwynog, sef adroddiad am gyfarfod o'r Gymdeithas Geltaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1896 pan draddodwyd nifer o sgyrsiau byr dan y teitl "Bards of Wales Unknown to Fame". Yno ceir crynodeb byr o bapur gan Miss Gwladys Evans ar Maldwynog, "neu Mr. John Jones, Penygroes", lle nodir ei fod wedi marw yn nhanchwa'r Albion. Meddai:
Mae un erthygl y dylid sôn amdani yng nghyd-destun Maldwynog, sef adroddiad am gyfarfod o'r Gymdeithas Geltaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1896 pan draddodwyd nifer o sgyrsiau byr dan y teitl "Bards of Wales Unknown to Fame". Yno ceir crynodeb byr o bapur gan Miss Gwladys Evans ar Maldwynog, "neu Mr. John Jones, Penygroes", lle nodir ei fod wedi marw yn nhanchwa'r Albion. Meddai:
  Cafodd fawr o freintiau'n ifanc, ond roedd ei wybodaeth o'r Ysgrythur ac am ddiwinyddiaeth, yn ôl y sôn, yn well na'r arferol; ac mae'n ymddanmgos iddo weithredu'n unol â'r wybodaeth honno, gan iddo gael ei barchu fel dyn gwirioneddol grefyddol.... Mae o wedi cyfansoddi nifer o ddarnau hir mewn amryw o fesurau, ond ei gryfder oedd yn y mesur caeth. Derbyniodd lawer o wobrau pwysig".<ref> Cyfieithiad o adroddiad yn ''University College of Wales Magazine'', Ionawr 1897, t.72</ref>
  Ni chafodd fawr o freintiau'n ifanc, ond roedd ei wybodaeth o'r Ysgrythur ac am ddiwinyddiaeth, yn ôl y sôn, yn well na'r arferol; ac mae'n ymddangos iddo weithredu'n unol â'r wybodaeth honno, gan iddo gael ei barchu fel dyn gwirioneddol grefyddol.... Mae wedi cyfansoddi nifer o ddarnau hir mewn amryw o fesurau, ond ei gryfder oedd yn y mesurau caeth. Derbyniodd lawer o wobrau pwysig".<ref> Cyfieithiad o adroddiad yn ''University College of Wales Magazine'', Ionawr 1897, t.72</ref>


Cawn gip ar ei ddawn i gynganeddu mewn stori ddifyr yn ''Y Werin'':
Cawn gip ar ei ddawn i gynganeddu mewn stori ddifyr yn ''Y Werin'':

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:04, 1 Tachwedd 2022

Gŵr o blwyf Carno, Sir Drefaldwyn oedd John Jones (Maldwynog) (1858-1894). Roedd yn fab i Thomas Jones, saer a Catherine Jones (Lloyd gynt), gyda'r teulu’n byw gydag Edward Lloyd, brawd Catherine, a oedd yn ffermio Wylfa, Glan’rafon, Carno.[1]

Nid hawdd yw canfod symudiadau gweithwyr sydd ag enwau cyffredin megis John Jones, ond mae’n bosibl iddo dreulio amser yn y de. Cyhoeddodd englyn yn y Pontypridd Chronicle yn gynnar ym 1882.[2], a phrin y byddai wedi gwneud hynny oni bai ei fod yn byw yn ardal y papur hwnnw ar y pryd, neu wedi bod yn byw yno.

Beth bynnag am hynny, rywbryd ar ôl 1880 roedd John Jones wedi symud o Sir Drefaldwyn i Ddyffryn Nantlle i chwilio am waith. Yno priododd ei wraig Catherine, a aned ym mhlwyf Llanllyfni ym 1859. Cawsant un mab, Owen, a aned ym 1885. Cartref y teulu oedd tŷ yn Rhes Yorkshire, Llanllyfni.[3] Chwarelwr oedd Maldwynog wrth ei waith, ond magodd enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill mewn ambell i eisteddfod a chylchwyl, megis Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol Capel Bethel (MC), Pen-y-groes ym 1888[4] a Chylchwyl Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon y Nadolig canlynol.[5] Dichon iddo gyflawni sawl camp farddonol, ond rhaid bod yn wyliadwrus gan fod dyn arall yn arddel y ffugenw “Maldwynog”, a hwnnw’n cyfrannu at bapurau newydd ac anfon adroddiadau am newyddion lleol gydol yr amser oedd John Jones (Maldwynog) yn ysgrifennu. Yn wir, cafwyd cwyn ym mhapur Y Celt fod yna ddau Faldwynog wrthi, ac na ddylid dewis enw barddol a oedd eisoes wedi ei fabwysiadu gan rywun arall - er bod hynny’n bur gyffredin ymysg beirdd lleol![6] Cafwyd sylwadau digon ffafriol amdano fel bardd yn ystod ei oes, a phan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreigym 1888, fe’i gosodwyd yn nawfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[7]

Rywbryd yn ystod y 1890au cynnar, penderfynodd Maldwynog chwilio am waith tua’r de, gan adael ei deulu bach adref ym Mhen-y-groes. Cafodd waith fel glöwr yng nglofa’r Albion, Cilfynydd, gan gymryd lodjin yn 14 Stryd Jones, Cilfynydd. Ymdaflodd i fywyd yr ardal, gan fynychu capel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghilfynydd. Yno, ddiwedd mis Mehefin 1894 bu tanchwa neu ffrwydrad o nwy yn y lofa a lladdwyd dros gant o ddynion, yn cynnwys Maldwynog.[8] Fe adawodd ei wraig a’i fab Owen yn naw oed, ac yntau ei hun ond yn 37 oed. Yn ôl y sôn yn y papurau, cludwyd ei gorff adref i Ddyffryn Nantlle i’w gladdu.[9]

Mae un erthygl y dylid sôn amdani yng nghyd-destun Maldwynog, sef adroddiad am gyfarfod o'r Gymdeithas Geltaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1896 pan draddodwyd nifer o sgyrsiau byr dan y teitl "Bards of Wales Unknown to Fame". Yno ceir crynodeb byr o bapur gan Miss Gwladys Evans ar Maldwynog, "neu Mr. John Jones, Penygroes", lle nodir ei fod wedi marw yn nhanchwa'r Albion. Meddai:

Ni chafodd fawr o freintiau'n ifanc, ond roedd ei wybodaeth o'r Ysgrythur ac am ddiwinyddiaeth, yn ôl y sôn, yn well na'r arferol; ac mae'n ymddangos iddo weithredu'n unol â'r wybodaeth honno, gan iddo gael ei barchu fel dyn gwirioneddol grefyddol.... Mae wedi cyfansoddi nifer o ddarnau hir mewn amryw o fesurau, ond ei gryfder oedd yn y mesurau caeth. Derbyniodd lawer o wobrau pwysig".[10]

Cawn gip ar ei ddawn i gynganeddu mewn stori ddifyr yn Y Werin:

Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â Trebor Aled brydnawn Mawrth diweddaf, ac i'r cyntaf anerch yr olaf drwy ddweyd: "Mai hi braidd yn hafaidd hin", i'r hyn atebodd Trebor "Mwy hafaidd na Mehefin".[11]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Carno, 1861
  2. Pontypridd Chronicle, 24.1.1882, t.3
  3. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1891
  4. Y Genedl Gymreig, 2.1.1889, t.6
  5. Y Genedl Gymreig, 1.1.1890, t.8
  6. Y Celt, 8.1.1886, t.8
  7. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  8. South Wales Daily News, 26.2.1894, t6
  9. Tarian y Gweithiwr, 12.7.1894, t.2
  10. Cyfieithiad o adroddiad yn University College of Wales Magazine, Ionawr 1897, t.72
  11. Y Werin, 22.2.1890, t.4