Evan Jones (Ieuan Nebo): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-canmlwyddiant-capel-nebo.htm], cyrchwyd 16.2.2020</ref>
Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-canmlwyddiant-capel-nebo.htm], cyrchwyd 16.2.2020</ref>


Roedd ganddo dau fab, Roert Lloyd (g.1875) and [[Evan Lloyd Jones]] (g.1885). Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon" yn ystod Diwygiad 1904-5.<ref>''Cardiff Times'', 14.1.1905, t.8</ref>
Roedd ganddo dau fab, Robert Lloyd (g.1875) ac [[Evan Lloyd Jones]] (g.1885). Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon" yn ystod Diwygiad 1904-5.<ref>''Cardiff Times'', 14.1.1905, t.8</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 10:32, 20 Hydref 2022

Roedd y chwarelwr Evan Jones (Ieuan Nebo) (1854-1910) yn fardd ac yn biler yr achos yng Nghapel Nebo, ym mhentref Nebo.

Cafodd ei eni ym Mhenmorfa. Ym 1861, roedd yn byw mewn tŷ o'r enw Pen-y-cefn, Penmorfa gyda'i dad Evan Jones (a aned ym Mhenmorfa ym 1828) a'i wraig Dorothy, a hanai o Lanaelhaearn, ac a aned ym 1827. [1]

Erbyn 1871, roedd y tad wedi marw, a Dorothy a'i mab Evan yn byw mewn tŷ o'r enw Gardd Iago, Nebo. Bu'n byw wedyn ym Mryn Person, Nebo, lle fermiai dyddyn bychan 2 neu 3 erw, yn ogystal agweithio mewn chwarel. Erbyn 1881, roedd wedi priodi Margaret, a hanai o blwyf Llanllyfni, ac yr oedd ganddynt fab Robert Lloyd, oedd yn 6 oed.[2]

Dyn grymusaf yr eglwys yng Nghapel Nebo ydoedd yn ddiamheuol. Yr oedd yn cael ei gydnabod fel llenor, bardd a cherddor, ac yn ddiwinydd o radd uchel, ac yn llawn o wasanaeth bob amser. Serch ei aml ddoniau, ni edrychid arno fel bardd mawr fodd bynnag, gan i un sylwebydd yn ei osod yn ail ar bymtheg allan o ddeunaw o feirdd y Dyffryn ym 1888, a hynny yn nhrefn rhagoriaeth.[3] Mae'n debyg iddo fod yn well gerddor na bardd, a cheir adroddiadau niferus yn y papurau newydd amdano'n artist mewn cyngherddau lleol y dyffryn, lle honnir y gallai fod yn adlonwr difyr a doniol.

Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.[4]

Roedd ganddo dau fab, Robert Lloyd (g.1875) ac Evan Lloyd Jones (g.1885). Cafodd Evan Lloyd ei ddisgrifio fel "the young Nantlle revivalist" ac yn "arweinydd ieuenctid De Sir Gaernarfon" yn ystod Diwygiad 1904-5.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Penmorfa, 1861
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871-81
  3. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  4. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 16.2.2020
  5. Cardiff Times, 14.1.1905, t.8