John Owen Williams (Mawrthfab): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed ‘’’John Owen Williams’’’ (1848-1925) yn Llanidan, yn fab i Daniel Williams (g.1819), yntau o Lanidan yn wreiddiol a Catherine (g.1817) e...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed ‘’’John Owen Williams’’’ (1848-1925) yn Llanidan, yn fab i Daniel Williams (g.1819), yntau o Lanidan yn wreiddiol a Catherine (g.1817) ei wraig, yn wreiddiol o Gaernarfon. Ym 1841, roedd Daniel y tad yn byw gyda’i fam Jane a’i frodyr yn Bryngolau, Llanidan. Dichon mai teulu o gryddion a chyfrwywyr oeddent.  
Ganed '''John Owen Williams''' (1848-1925) yn Llanidan, yn fab i Daniel Williams (g.1819), yntau o Lanidan yn wreiddiol a Catherine (g.1817) ei wraig, yn wreiddiol o Gaernarfon. Ym 1841, roedd Daniel y tad yn byw gyda’i fam Jane a’i frodyr yn Bryngolau, Llanidan. Dichon mai teulu o gryddion a chyfrwywyr oeddent.  


John oedd mab hynaf Daniel a Catherine, ac erbyn i’w chwaer (hefyd yn Catherine) gael ei geni i dair blynedd yn ddiweddarach, roedd y teulu wedi symud o Lanidan i Gaergybi, ac (ymhen flwyddyn neu ddwy) i Gemaes, lle ganwyd William ym 1854 a Daniel ym 1856. Disgrifir y tad, Daniel, fel groser a phobydd yn y Cyfrifiad ym 1861.
John oedd mab hynaf Daniel a Catherine, ac erbyn i’w chwaer (hefyd yn Catherine) gael ei geni i dair blynedd yn ddiweddarach, roedd y teulu wedi symud o Lanidan i Gaergybi, ac (ymhen flwyddyn neu ddwy) i Gemaes, lle ganwyd William ym 1854 a Daniel ym 1856. Disgrifir y tad, Daniel, fel groser a phobydd yn y Cyfrifiad ym 1861.
Llinell 5: Llinell 5:
Erbyn 1871, roedd John wedi symud i bentref [[Pen-y-groes]] oedd yn tyfu’n ganolfan fasnachol [[Dyffryn Nantlle]] ar y pryd, gan agor siop groser yn siop y Canister Coch, y drws nesaf ond dau i [[Tafarn y Llew Coch|Dafarn y Llew Coch]]. Roedd ei frawd Daniel wedi symud ato fo, ac yn gweithio fel prentis groser.
Erbyn 1871, roedd John wedi symud i bentref [[Pen-y-groes]] oedd yn tyfu’n ganolfan fasnachol [[Dyffryn Nantlle]] ar y pryd, gan agor siop groser yn siop y Canister Coch, y drws nesaf ond dau i [[Tafarn y Llew Coch|Dafarn y Llew Coch]]. Roedd ei frawd Daniel wedi symud ato fo, ac yn gweithio fel prentis groser.


Fe briododd ag Ann Thomas, [[Tal-y-sarn]], ond o Benmorfa’n wreiddiol, tua’r Nadolig 1879, ac yn rhifyn ‘’Y Genedl Gymreig’’, 1/1/1880, fe welir englyn gan “Cyfaill” yn sôn am y briodas:
Fe briododd ag Ann Thomas, [[Tal-y-sarn]], ond o Benmorfa’n wreiddiol, tua’r Nadolig 1879, ac yn rhifyn ''Y Genedl Gymreig'' 1/1/1880, fe welir englyn gan “Cyfaill” yn sôn am y briodas:
::::::''Wi! Mawrthfab, arab wron – awenawl,''     
::::::''Wi! Mawrthfab, arab wron – awenawl,''     
::::::::''Unwyd â’i Ann dirion,''   
::::::::''Unwyd â’i Ann dirion,''   
:::::::''Boed i’r ddau wenau Duw Ion,''  
:::::::''Boed i’r ddau wenau Duw Ion,''  
:::::::''Ac oes hir o gysuron.'' "''<ref>’’op.cit.’’, t.7</ref>
:::::::''Ac oes hir o gysuron.'' "''<ref>’'op.cit.'', t.7</ref>


Sylwer ei fod erbyn hyn wedi mabwysiadu’r enw barddol “Mawrthfab” ac yn wir bu’n defnyddio’r ffugenw mor gynnar ag 1872 pan anfonodd penillion am Lyn Cwm Silyn at y Faner. <ref>’’Baner ac Amserau Cymru’’, 3.8.1872, t.6</ref> O hynny allan, roedd ei waith, englynion gan amlaf, yn ymddangos yng ngholofnau papurau Cymraeg y Gogledd. Enghraifft o hyn yw ei englyn am dŷ Prydyddes y Gro, Cemaes, tŷ ar lan y môr yr oedd y llanw’n ei gyrraedd yn gyson:
Sylwer ei fod erbyn hyn wedi mabwysiadu’r enw barddol “Mawrthfab” ac yn wir bu’n defnyddio’r ffugenw mor gynnar ag 1872 pan anfonodd penillion am Lyn Cwm Silyn at y Faner. <ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 3.8.1872, t.6</ref> O hynny allan, roedd ei waith, englynion gan amlaf, yn ymddangos yng ngholofnau papurau Cymraeg y Gogledd. Enghraifft o hyn yw ei englyn am dŷ Prydyddes y Gro, Cemaes, tŷ ar lan y môr yr oedd y llanw’n ei gyrraedd yn gyson:
::::::''Tŷ swynol yw tŷ Siani – tŷ bara,''     
::::::''Tŷ swynol yw tŷ Siani – tŷ bara,''     
::::::::''Tŷ burum, tŷ pobi;''   
::::::::''Tŷ burum, tŷ pobi;''   
:::::::''Ymdrechir am ei drochi,''  
:::::::''Ymdrechir am ei drochi,''  
:::::::''Gan donau maith llaith y lli’.'' "''<ref>’’Y Genedl Gymreig’’, 21.4.1881, t.8</ref>
:::::::''Gan donau maith llaith y lli’.'' "''<ref>''Y Genedl Gymreig'', 21.4.1881, t.8</ref>


Fodd bynnag, nid oedd ei gynigion cynnar yn derbyn canmoliaeth y colofnwyr barddol yn y papurau bob tro. Cafodd ei gystwyo’n o sownd yn ‘’Y Drych’’ ym 1875 am anfon englyn o’i eiddo i’r golofn farddol lle oedd tair o’r pedair llinell wedi eu copïo’n air am air o un o englynion Robert ap Gwilym Ddu! <ref>Y Drych’’, 28.10.1875, t.6</ref>
Fodd bynnag, nid oedd ei gynigion cynnar yn derbyn canmoliaeth y colofnwyr barddol yn y papurau bob tro. Cafodd ei gystwyo’n o sownd yn ''Y Drych'' ym 1875 am anfon englyn o’i eiddo i’r golofn farddol lle oedd tair o’r pedair llinell wedi eu copïo’n air am air o un o englynion Robert ap Gwilym Ddu! <ref>''Y Drych'', 28.10.1875, t.6</ref>
Parhau i farddoni, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ac anfon cyfansoddiadau at y papurau newydd wnaeth Mawrthfab, hyd 1910 o leiaf. <ref>’’Papur Pawb’’, 26.11.1910, t.2</ref> Fel aeth yr amser ymlaen, fe ddatblygodd yn fardd digon cymeradwy’n lleol. Mewn rhestr o feirdd y Dyffryn a gyhoeddwyd ym 1888, fe’i gosodwyd yn wythfed allan o 18 o feirdd lleol. <ref> ‘’Y Genedl Gymreig’’, 8.2.1888, t.7</ref>
Parhau i farddoni, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ac anfon cyfansoddiadau at y papurau newydd wnaeth Mawrthfab, hyd 1910 o leiaf. <ref>’’Papur Pawb’’, 26.11.1910, t.2</ref> Fel aeth yr amser ymlaen, fe ddatblygodd yn fardd digon cymeradwy’n lleol. Mewn rhestr o feirdd y Dyffryn a gyhoeddwyd ym 1888, fe’i gosodwyd yn wythfed allan o 18 o feirdd lleol. <ref> ''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>


Yr un modd, parhaodd i redeg ei siop groser yn rhif 5 Sgwâr y Farchnad erbyn 1881. Erbyn 1911, roedd yn dal efo siop groser yn Sgwâr y Farchnad, yn rhif 15 erbyn hynny. Am hir, fel masnachwr craff, yr oedd ei eirda i effeithioldeb Evan’s Quinine Bitters yn ymddangos mewn hysbyseb dudalen lawn ym mhapurau’r Gogledd, <ref>ee ‘’Y Genedl Gymreig’’, 8.12.1888, t.8</ref> ac yntau’n ddigon craff i beidio â deud ei fod yn gwerthu’r cyfryw foddion!
Yr un modd, parhaodd i redeg ei siop groser yn rhif 5 Sgwâr y Farchnad erbyn 1881. Erbyn 1911, roedd yn dal efo siop groser yn Sgwâr y Farchnad, yn rhif 15 erbyn hynny. Am hir, fel masnachwr craff, yr oedd ei eirda i effeithioldeb Evan’s Quinine Bitters yn ymddangos mewn hysbyseb dudalen lawn ym mhapurau’r Gogledd, <ref>ee ''Y Genedl Gymreig'', 8.12.1888, t.8</ref> ac yntau’n ddigon craff i beidio â deud ei fod yn gwerthu’r cyfryw foddion!


Mae’n amlwg o sawl hanes yn y papurau ei fod yn ffigwr cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle, ac yn ochri gyda’r Rhyddfrydwyr. Bu’n aelod yng [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes|Nghapel Bethel]] ac fe’i codwyd yn flaenor. <ref>Y Dinesydd Cymreig’’, 16.10.1918, t.8</ref>
Mae’n amlwg o sawl hanes yn y papurau ei fod yn ffigwr cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle, ac yn ochri gyda’r Rhyddfrydwyr. Bu’n aelod yng [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes|Nghapel Bethel]] ac fe’i codwyd yn flaenor. <ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 16.10.1918, t.8</ref>


Cafodd Ann ei wraig ac yntau un ferch, Catherine Ann, a anwyd ar 2 Mawrth 1886<ref>’’North Wales Express’’, 26.3.1886, t.6</ref>. Yn y man, aeth y ferch i Swydd Caint fel athrawes. Bu Mawrthfab farw ar 13 Mehefin 1925, yn 82 oed, gan adael ei wraig Catherine Williams yn weddw ar ei ôl. £220 oedd gwerth ei eiddo yn ôl y dogfennau profiant. <ref>Calendr Profiant 1925, ar gael yn Archifdy Caernarfon</ref>
Cafodd Ann ei wraig ac yntau un ferch, Catherine Ann, a anwyd ar 2 Mawrth 1886<ref>''North Wales Express'', 26.3.1886, t.6</ref>. Yn y man, aeth y ferch i Swydd Caint fel athrawes. Bu Mawrthfab farw ar 13 Mehefin 1925, yn 82 oed, gan adael ei wraig Catherine Williams yn weddw ar ei ôl. £220 oedd gwerth ei eiddo yn ôl y dogfennau profiant. <ref>Calendr Profiant 1925, ar gael yn Archifdy Caernarfon</ref>


Er mor anghyfarwydd yw’r ffugenw erbyn hyn, yr oedd o leiaf dri Mawrthfab arall wrthi tua’r un adeg – yn Llanfair Talhaearn, yn Helygain, Sir y Fflint, ac o bosib tua Aberpennar yn y de, heb sôn am y bardd Mawrthfab o Feirion! Rhaid gochel rhag cymysgu rhyngddynt.
Er mor anghyfarwydd yw’r ffugenw erbyn hyn, yr oedd o leiaf dri Mawrthfab arall wrthi tua’r un adeg – yn Llanfair Talhaearn, yn Helygain, Sir y Fflint, ac o bosib tua Aberpennar yn y de, heb sôn am y bardd Mawrthfab o Feirion! Rhaid gochel rhag cymysgu rhyngddynt.

Fersiwn yn ôl 13:41, 14 Hydref 2022

Ganed John Owen Williams (1848-1925) yn Llanidan, yn fab i Daniel Williams (g.1819), yntau o Lanidan yn wreiddiol a Catherine (g.1817) ei wraig, yn wreiddiol o Gaernarfon. Ym 1841, roedd Daniel y tad yn byw gyda’i fam Jane a’i frodyr yn Bryngolau, Llanidan. Dichon mai teulu o gryddion a chyfrwywyr oeddent.

John oedd mab hynaf Daniel a Catherine, ac erbyn i’w chwaer (hefyd yn Catherine) gael ei geni i dair blynedd yn ddiweddarach, roedd y teulu wedi symud o Lanidan i Gaergybi, ac (ymhen flwyddyn neu ddwy) i Gemaes, lle ganwyd William ym 1854 a Daniel ym 1856. Disgrifir y tad, Daniel, fel groser a phobydd yn y Cyfrifiad ym 1861.

Erbyn 1871, roedd John wedi symud i bentref Pen-y-groes oedd yn tyfu’n ganolfan fasnachol Dyffryn Nantlle ar y pryd, gan agor siop groser yn siop y Canister Coch, y drws nesaf ond dau i Dafarn y Llew Coch. Roedd ei frawd Daniel wedi symud ato fo, ac yn gweithio fel prentis groser.

Fe briododd ag Ann Thomas, Tal-y-sarn, ond o Benmorfa’n wreiddiol, tua’r Nadolig 1879, ac yn rhifyn Y Genedl Gymreig 1/1/1880, fe welir englyn gan “Cyfaill” yn sôn am y briodas:

Wi! Mawrthfab, arab wron – awenawl,
Unwyd â’i Ann dirion,
Boed i’r ddau wenau Duw Ion,
Ac oes hir o gysuron. "[1]

Sylwer ei fod erbyn hyn wedi mabwysiadu’r enw barddol “Mawrthfab” ac yn wir bu’n defnyddio’r ffugenw mor gynnar ag 1872 pan anfonodd penillion am Lyn Cwm Silyn at y Faner. [2] O hynny allan, roedd ei waith, englynion gan amlaf, yn ymddangos yng ngholofnau papurau Cymraeg y Gogledd. Enghraifft o hyn yw ei englyn am dŷ Prydyddes y Gro, Cemaes, tŷ ar lan y môr yr oedd y llanw’n ei gyrraedd yn gyson:

Tŷ swynol yw tŷ Siani – tŷ bara,
Tŷ burum, tŷ pobi;
Ymdrechir am ei drochi,
Gan donau maith llaith y lli’. "[3]

Fodd bynnag, nid oedd ei gynigion cynnar yn derbyn canmoliaeth y colofnwyr barddol yn y papurau bob tro. Cafodd ei gystwyo’n o sownd yn Y Drych ym 1875 am anfon englyn o’i eiddo i’r golofn farddol lle oedd tair o’r pedair llinell wedi eu copïo’n air am air o un o englynion Robert ap Gwilym Ddu! [4] Parhau i farddoni, gan gystadlu mewn eisteddfodau lleol a rhanbarthol ac anfon cyfansoddiadau at y papurau newydd wnaeth Mawrthfab, hyd 1910 o leiaf. [5] Fel aeth yr amser ymlaen, fe ddatblygodd yn fardd digon cymeradwy’n lleol. Mewn rhestr o feirdd y Dyffryn a gyhoeddwyd ym 1888, fe’i gosodwyd yn wythfed allan o 18 o feirdd lleol. [6]

Yr un modd, parhaodd i redeg ei siop groser yn rhif 5 Sgwâr y Farchnad erbyn 1881. Erbyn 1911, roedd yn dal efo siop groser yn Sgwâr y Farchnad, yn rhif 15 erbyn hynny. Am hir, fel masnachwr craff, yr oedd ei eirda i effeithioldeb Evan’s Quinine Bitters yn ymddangos mewn hysbyseb dudalen lawn ym mhapurau’r Gogledd, [7] ac yntau’n ddigon craff i beidio â deud ei fod yn gwerthu’r cyfryw foddion!

Mae’n amlwg o sawl hanes yn y papurau ei fod yn ffigwr cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle, ac yn ochri gyda’r Rhyddfrydwyr. Bu’n aelod yng Nghapel Bethel ac fe’i codwyd yn flaenor. [8]

Cafodd Ann ei wraig ac yntau un ferch, Catherine Ann, a anwyd ar 2 Mawrth 1886[9]. Yn y man, aeth y ferch i Swydd Caint fel athrawes. Bu Mawrthfab farw ar 13 Mehefin 1925, yn 82 oed, gan adael ei wraig Catherine Williams yn weddw ar ei ôl. £220 oedd gwerth ei eiddo yn ôl y dogfennau profiant. [10]

Er mor anghyfarwydd yw’r ffugenw erbyn hyn, yr oedd o leiaf dri Mawrthfab arall wrthi tua’r un adeg – yn Llanfair Talhaearn, yn Helygain, Sir y Fflint, ac o bosib tua Aberpennar yn y de, heb sôn am y bardd Mawrthfab o Feirion! Rhaid gochel rhag cymysgu rhyngddynt.

Cyfeiriadau

  1. ’'op.cit., t.7
  2. Baner ac Amserau Cymru, 3.8.1872, t.6
  3. Y Genedl Gymreig, 21.4.1881, t.8
  4. Y Drych, 28.10.1875, t.6
  5. ’’Papur Pawb’’, 26.11.1910, t.2
  6. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  7. ee Y Genedl Gymreig, 8.12.1888, t.8
  8. Y Dinesydd Cymreig, 16.10.1918, t.8
  9. North Wales Express, 26.3.1886, t.6
  10. Calendr Profiant 1925, ar gael yn Archifdy Caernarfon