Richard Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Richard Evans''' (?-?1619) yn ficer [[Llanaelhaearn]]. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy wedi priodi Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o [[Elernion]], a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion werdi i'r tŷ hwnnw gael ei adeiladu'n wreiddiol a hynny tua ddiwedd y 16g.<ref>G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99</ref> Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans.
Yr oedd '''Richard Evans''' (?-?1619) yn ficer [[Llanaelhaearn]]. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy wedi priodi Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o [[Elernion]], a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion wedi i'r tŷ hwnnw gael ei adeiladu'n wreiddiol a hynny tua ddiwedd y 16g.<ref>G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99</ref> Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans. Bu'n cymryd diddordeb yn ei eiddo, a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyf [[Llanwnda]], ac ef oedd yn gyfrifol am godi [[Melin y Bont-faen]] tua dechrau'r 17g.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131</ref>


Priododd Richard Evans Ann, merch y Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwyddo ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth oedd yn fwy bras fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd Catherine, merch [[William Glynn]], [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175</ref>
Priododd Richard Evans Ann, merch y Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwyddo ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth oedd yn fwy bras fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd Catherine, merch [[William Glynn]], [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175</ref>

Fersiwn yn ôl 12:38, 30 Mehefin 2022

Yr oedd Richard Evans (?-?1619) yn ficer Llanaelhaearn. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy wedi priodi Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o Elernion, a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion wedi i'r tŷ hwnnw gael ei adeiladu'n wreiddiol a hynny tua ddiwedd y 16g.[1] Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans. Bu'n cymryd diddordeb yn ei eiddo, a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyf Llanwnda, ac ef oedd yn gyfrifol am godi Melin y Bont-faen tua dechrau'r 17g.[2]

Priododd Richard Evans Ann, merch y Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwyddo ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth oedd yn fwy bras fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd Catherine, merch William Glynn, Glynllifon.[3]

Cyfeiriadau

  1. G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99
  2. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175