Anne Elizabeth Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Dr Anne Elizabeth Williams''' yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig. Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rh...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Wedi cyfnod yn gweithio yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Treuliodd flynyddoedd yn ymchwilio i'r maes hwn gan deithio'n helaeth ledled Cymru yn cyfweld a holi pobl (hŷn gan amlaf) am wybodaeth am feddyginiaethau a hanesion yn ymwneud â'r maes yn eu gwahanol ardaloedd. Tyfodd hyn gydag amser yn gasgliad helaeth o dapiau sain a gwybodaeth brintiedig hynod bwysig a fyddai wedi mynd i ddifancoll pe na bai wedi ei chofnodi mewn da bryd cyn i'r to hŷn a feddai'r wybodaeth hon ddiflannu. Bu Anne Elizabeth hefyd yn rhannu ffrwyth ei hymchwil trwy ddarlithio a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion.  

Ar ôl treulio cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, lle cyfarfu â'i phriod, Dr Howard Williams, fe wnaethant hwy a'u mab symud i fyw i (anorffenedig - i'w barhau).
Ar ôl treulio cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, lle cyfarfu â'i phriod, Dr Howard Williams, fe wnaethant hwy a'u mab symud i fyw i '''(anorffenedig - i'w barhau).'''

Fersiwn yn ôl 18:47, 25 Mehefin 2022

Mae Dr Anne Elizabeth Williams yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig.

Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rhieni'n cadw siop. Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, gan raddio yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio am Ddiploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac yna cwblhaodd Ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith Gwilym Tew, bardd o'r bymthegfed ganrif y diogelwyd crynswth ei waith yn llawysgrif Peniarth 51.