Edward Preston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno. | Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno. | ||
Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin]] tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall.<ref>JIC Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, passim</ref> | Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin]] tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef [[Alexander Marshall]].<ref>JIC Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf 1, passim</ref> | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Rheilffyrdd]] | [[Categori:Rheilffyrdd]] |
Fersiwn yn ôl 18:54, 19 Ionawr 2018
Ni wyddys llawer am Edward Preston cyn iddo ddod i ardal Caernarfon ym 1854. Ym 1856, fe gymerodd brydles ar Reilfordd Nantlle, gan sefydlu amserlen i deithwyr ym mis Awst y flwyddyn honno. Ceir nifer o awgrymiadau niwlog cyn hynny fod pobl yn cael teithio ar y rheilffordd ond am y tro cyntaf roedd y trenau hyn yn cael eu hysbysebu (er bod eu rhedeg hwy'n mynd yn groes i'r Ddeddf a awdurdododd adeiladu'r lein ym 1825).
Cafodd Preston gryn wrthwynebiad i'w fenter, gan iddo godi pob lŵp pasio ond un, a thrwy hynny lesteirio llif y wagenni llechi. Roedd gwaeth i ddyfod, fodd bynnag, gan iddo ddechrau trafod adeiladu lein o led safonol o Afon-wen i Gaernarfon, ac mae'n amlwg mai ei fwriad tymor hir oedd i Reilffordd Nantlle gael ei thraflyncu gan lein arall, sef Rheilffordd Sir Gaernarfon, a daeth yn un o gyfarwyddwyr y lein honno.
Ni wyddys llawer amdano ychwaith wedi i Reilffordd Sir Gaernarfon basio i ddwylo Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin tua 1870. Mae'n glir mai dyn busnes oedd o (er iddo hawlio ei fod yn hyddysg mewn rheoli rheilffyrdd yn Swydd Deri yn Iwerddon). Er mai ganddo fo oedd prydleswr lein Nantlle, fe redwyd y lein gan reolwr cyffredinol, sef Alexander Marshall.[1]
- ↑ JIC Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, passim