Tyddyn Tudur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Tyddyn Tudur''' yn fferm ar Ystad Glynllifon, ryw chwarter milltir i'r de o'r Plas. Ar adegau, defnyddid y tŷ fel tŷ gweddw...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Ni ddylid ei gymysgu efo Tafarn Tudur, fferm arall yn y plwyf yr ochr draw i waliau'r Parc ar y lôn bost i gyfeiriad [[Pen-y-groes]].<ref>Gwybodaeth gan J.Dilwyn Williams</ref> | Ni ddylid ei gymysgu efo Tafarn Tudur, fferm arall yn y plwyf yr ochr draw i waliau'r Parc ar y lôn bost i gyfeiriad [[Pen-y-groes]].<ref>Gwybodaeth gan J.Dilwyn Williams</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
Fersiwn yn ôl 08:40, 20 Mehefin 2022
Roedd Tyddyn Tudur yn fferm ar Ystad Glynllifon, ryw chwarter milltir i'r de o'r Plas. Ar adegau, defnyddid y tŷ fel tŷ gweddw Teulu Glynllifon, gan ei fod (mae'n debyg) yn ddigon cyfleus heb i fam yr etifedd orfod byw dan yr un to ag ef! I Dyddyn Tudur aeth Dâm Siân (Jane Glynn, gweddw Syr William Glynn) wedi i'w mab hynaf, Thomas Glynn, briodi. Bu i Edmund Glynn, ei mab ieuengaf, fyw yno hyd yn oed wedi i'w fam farw, nes i yntau briodi a phrynu'r Hendre yn y Dolydd. Hyd yn oed wedyn, aeth o'n ôl yno tra oedd yr Hendre'n cael ei ehangu tua 1654. Roedd yn gyfleus iddo fo hefyd gan fod Thomas Glynn wedi marw ym 1648 gan adael teulu ifanc ac mae'n amlwg fod Edmund wedi estyn cryn gymorth i'r teulu bach.[1]
Pan nad oedd ei angen ar gyfer y weddw, gosodid y lle i denantiaid. Un o'r teuluoedd olaf i fyw yno oedd teulu Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, a symudodd yno i fyw o Llwyn-y-gwalch ger Y Groeslon ym 1813 am gyfnod o 5 mlynedd.[2]
Chwalwyd yr adeiladau maes o law (efallai yn y 1830au) wrth i'r Parc gael ei ddatblygu, er mwyn creu tirlun mwy agored.
Ni ddylid ei gymysgu efo Tafarn Tudur, fferm arall yn y plwyf yr ochr draw i waliau'r Parc ar y lôn bost i gyfeiriad Pen-y-groes.[3]