John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''John Robinson''' (1805-1867) yng Nghefneithin, [[Carmel]], yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804</ref> | Ganed '''John Robinson''' (1805-1867) yng Nghefneithin, [[Carmel]], yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804</ref> Yn ei ieuenctid dywedid ei fod yn fachgen gwyllt ac ymladdgar nes iddo benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac ymhen pedair blynedd fe'i codwyd yn flaenor. Daeth i adnabod [[John Jones, Tal-y-sarn]] yn dda, a dichon trwy hynny fe'i dyrchafwyd yn oruchwyliwr [[Chwarel Dorothea]]. Yng Nghyfrifiad 1861, cofnodir ei fod yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Aber-erch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.<ref>Cyfrifiad 1861, Plwyf Llandwrog</ref> Yn ddiweddarach yn ei oes bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]].<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2</ref> | ||
Ni ddylid ei gymysgu | Ni ddylid ei gymysgu â [[John Robinson, perchennog chwareli|John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]], perchennog chwareli a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu a oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf ddwy os nad tair cenhedlaeth oedd John Robinson sy'n destun y darn hwn.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestrau Plwyf Llandwrog.</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 16:06, 4 Mehefin 2022
Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nghefneithin, Carmel, yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.[1] Yn ei ieuenctid dywedid ei fod yn fachgen gwyllt ac ymladdgar nes iddo benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac ymhen pedair blynedd fe'i codwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i dyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Yng Nghyfrifiad 1861, cofnodir ei fod yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Aber-erch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.[2] Yn ddiweddarach yn ei oes bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn Nhal-y-sarn.[3]
Ni ddylid ei gymysgu â John Robinson, Plas Tal-y-sarn, perchennog chwareli a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu a oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf ddwy os nad tair cenhedlaeth oedd John Robinson sy'n destun y darn hwn.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma