Tom Bowen Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'', casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem": | Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r ''Herald Cymraeg'', casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem": | ||
Dinistr Caersalem dynion - a welaist, | Dinistr Caersalem dynion - a welaist, | ||
A'u rhyfeloedd creulon; | |||
Cei fyd dianrhaith weithion | |||
Ar bwys yr hen eglwys hon. | |||
Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. <ref>Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, ''O Windy a Gweithdy’r Gân'' (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),</ref>. | Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. <ref>Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, ''O Windy a Gweithdy’r Gân'' (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),</ref>. |
Fersiwn yn ôl 17:22, 19 Mai 2022
Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd Tom Bowen Jones (ganed 1921), Gwydir bach, Trefor. Yr oedd yn frawd i Robert Herbert Jones, bardd arall crefftus, a adwaenid fel Robin Gwydir Bach.[1]
Cychwynnodd farddoni'n ifanc. Medd Cynan mewn erthygl yn Lleufer:
"Ond yn wir i chi...dyma hogyn pedair ar bymtheg oed ataf â'r englyn campus hwn...i: Fynwent y Milwyr O! Dirioned yw'r huno - sy o fewn Y ddwys fynwent honno, Y gwelw griw mewn gwelâu gro O'r ffosydd yn gorffwyso. Amaethwr ifanc, Ton Bowen Jones, yw'r awdur."[2]
Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd Map a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn[3].
Map Yn hwn o hyd chwilio a wnaf -ar fy hynt Am ryw fan a geisiaf; Ond ynddo chwilio ni chaf Yn niwl y siwrne olaf.
Englyn arall nodedig o'i eiddo yw'r un a dorrwyd ar gofeb Eben Fardd ym mynwent eglwys Clynnog Fawr. Yn nechrau'r 1950au, yn dilyn ymgyrch a arweiniwyd gan Glan Rhythallt ar dudalennau'r Herald Cymraeg, casglwyd arian i lanhau'r gofadail sylweddol sydd ar y bardd a chynhaliwyd cystadleuaeth yr un pryd i gyfansoddi englyn i'w dorri ar y gofeb. Cafwyd nifer sylweddol o gynigion, ond englyn Tom Bowen Jones a ddyfarnwyd yn fuddugol gan y beirniad, John Eilian. Mae'n gampwaith o englyn ac yn adleisio testun awdl fwyaf Eben Fardd, sef "Dinistr Jerwsalem":
Dinistr Caersalem dynion - a welaist, A'u rhyfeloedd creulon; Cei fyd dianrhaith weithion Ar bwys yr hen eglwys hon.
Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. [4].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma