Côr Meibion Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Côr Meibion Dyffryn Nantlle''' ym Mhen-y-groes,  ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.
Sefydlwyd '''Côr Meibion Dyffryn Nantlle''' ym Mhen-y-groes,  ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.


Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth oedd dod at eu gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.
Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth fyddai dod at ei gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.


Gwahoddwyd [[C.H. Leonard]], brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i [[Ysgol Ramadeg Pen-y-groes]] ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan anatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Fe elwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.
Gwahoddwyd [[C.H. Leonard]], brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i [[Ysgol Ramadeg Pen-y-groes]] ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan annatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Gelwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.


Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin, Eidaleg yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg, o dan ei arweiniad.
Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr, a oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Dan ei arweiniad bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin ac Eidaleg, yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg.


Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu, ac erbyn 1969 gwnaed i 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngerddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. <ref>http://www.nantlle.com/cor-meibion-dyffryn-nantlle-cymraeg-hanes.htm Ysgrif gan Hywel Parry</ref>
Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu am y tro cyntaf, ac erbyn 1969 roedd wedi gwneud 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngherddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. <ref>http://www.nantlle.com/cor-meibion-dyffryn-nantlle-cymraeg-hanes.htm Ysgrif gan Hywel Parry</ref>


Ceir cofnod yn y ''Radio Times'' am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937, fel a ganlyn:  
Ceir cofnod fel a ganlyn yn y ''Radio Times'' am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937:  


  Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.<ref>http://genome.ch.bbc.co.uk/39ecef9bc3d543cd8a6ae5a78e9113c4 </ref>
  Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.<ref>http://genome.ch.bbc.co.uk/39ecef9bc3d543cd8a6ae5a78e9113c4 </ref>


[[Sinema'r Plaza]] oedd unig sinema'r cwmwd; fe'i lleolid y tu ôl i dafarn y [[Tafarn y Victoria|Victoria]] yng nghanol [[Pen-y-groes]].
[[Sinema'r Plaza]] oedd unig sinema'r cwmwd; roedd y tu ôl i dafarn y [[Tafarn y Victoria|Victoria]] yng nghanol [[Pen-y-groes]].





Fersiwn yn ôl 11:40, 30 Ebrill 2022

Sefydlwyd Côr Meibion Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, ym 1932, a blynyddoedd celyd y dirwasgiad ym mro'r chwareli a fu'n grud i'r côr.

Gan fod gwaith yn brin ac oriau hamdden yn hir, penderfynodd criw o ddynion ieuanc mai da o beth fyddai dod at ei gilydd i ganu - er fod canu yn anodd a'r dyfodol mor ansicr.

Gwahoddwyd C.H. Leonard, brodor o Rydaman a ddaeth yn athro Ffiseg i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes ym 1922, i arwain y côr. Trwy ei ymroddiad a'i drylwyredd ef yn anad neb, y tyfodd y côr yn gymdeithas glos, ac yn rhan annatod o fywyd Dyffryn Nantlle. Gelwid y côr weithiau yn "Gôr Leonard", ar ôl yr arweinydd cynnar.

Wedi ychydig o gystadlu llwyddiannus ym mhrif wyliau'r genedl yn y blynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd yr arweinydd ar adeiladu "repertoire" gyfoethog i'r côr, a oedd yn cynnwys 22 o leisiau. Dan ei arweiniad bu i'r aelodau feistroli caneuon Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Lladin ac Eidaleg, yn ogystal â rhai Saesneg a Chymraeg.

Ym 1934 gwahoddwyd y côr i ddarlledu am y tro cyntaf, ac erbyn 1969 roedd wedi gwneud 300 o ddarllediadau, yn ogystal â thelediadau a chyngherddau ym mhrif drefi a phentrefi Cymru a Lloegr. [1]

Ceir cofnod fel a ganlyn yn y Radio Times am gyngerdd a ddarlledwyd ar 8 Mawrth 1937:

Arweinydd, C. H. Leonard gyda W. H. J. Jenkins (ffidil) o Sinema'r Plaza, Penygroes.[2]

Sinema'r Plaza oedd unig sinema'r cwmwd; roedd y tu ôl i dafarn y Victoria yng nghanol Pen-y-groes.


Ar ôl dyddiau C.H. Leonard, arweinid y côr gan Arthur Wyn Parry, ac wedyn gan Eurgain Eames, sydd yn dal wrth yr awennau.[3]

Cyfeiriadau