Solomon Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor medrus o ardal Rhosgadfan oedd Solomon Jones. Fe'i ganwyd tua'r flwyddyn 1889 a bu farw'n 47 mlwydd oed yn Hydref 1936. Daeth i amlygrwydd yn ieu...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 7: Llinell 7:
Fel cerddor amlwg, cafodd ei urddo â'r enw Alaw Cadfan. I'w bobl ei hun, fodd bynnag, fe'i hanwylid trwy yr enw ''Dolo''.
Fel cerddor amlwg, cafodd ei urddo â'r enw Alaw Cadfan. I'w bobl ei hun, fodd bynnag, fe'i hanwylid trwy yr enw ''Dolo''.


Mae ei fedd i fyny yn y mynydd ym mynwent Hermon, Moeltryfan, ac ar ei garreg torwyd y geiriau hyn : ''Llawen a gwasanaethgar oedd ym myd cerdd ar hyd ei oes''. <ref>Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43</ref>
Mae ei fedd i fyny yn y mynydd ym mynwent Hermon, Moeltryfan, ac ar ei garreg torrwyd y geiriau hyn : ''Llawen a gwasanaethgar oedd ym myd cerdd ar hyd ei oes''. <ref>Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43</ref>


Bu merch iddo, Emily, yn briod ag Owen Griffith Jones o Drefor, a ganwyd iddynt un ferch, Gwyneth. Credir mai yn yr Alban y mae wyres Dolo'n byw.
Bu merch iddo, Emily, yn briod ag Owen Griffith Jones o Drefor, a ganwyd iddynt un ferch, Gwyneth. Credir mai yn yr Alban y mae wyres Dolo'n byw.
{{eginyn}}
{{eginyn}}
[[Categori:Bandiau]]
[[Categori:Bandiau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:06, 30 Ebrill 2022

Cerddor medrus o ardal Rhosgadfan oedd Solomon Jones. Fe'i ganwyd tua'r flwyddyn 1889 a bu farw'n 47 mlwydd oed yn Hydref 1936.

Daeth i amlygrwydd yn ieuanc fel arweinydd llwyddiannus a meistrolgar Côr Meibion Chwarel Penyrorsedd, a mwy nag un côr arall ran hynny, yn enwedig corau plant ac ynglŷn â'r capel. Cyfansoddodd nifer o ganeuon e.e. Casglu a Rhannu (unawd i blant). Yn Chwarel Penyrorsedd y gweithiai a hynny fel gyrrwr yr injan bach. [1]

Roedd hefyd, o'i lencyndod, yn aelod brwd a ffyddlon o Seindorf Moeltryfan yn Rhosgadfan. Ei offeryn oedd y Corn Mawr, y Bâs Dwbwl Bi. Pan fu'n rhaid i'r seindorf honno hepgor gwasanaeth ei harweinydd, Morgan J. Jones, am na ellid fforddio talu iddo, ym 1930, camodd Solomon Jones i'r adwy. Bu'n arwain y band am chwe blynedd hyd ei farwolaeth ym 1936.

Fel cerddor amlwg, cafodd ei urddo â'r enw Alaw Cadfan. I'w bobl ei hun, fodd bynnag, fe'i hanwylid trwy yr enw Dolo.

Mae ei fedd i fyny yn y mynydd ym mynwent Hermon, Moeltryfan, ac ar ei garreg torrwyd y geiriau hyn : Llawen a gwasanaethgar oedd ym myd cerdd ar hyd ei oes. [2]

Bu merch iddo, Emily, yn briod ag Owen Griffith Jones o Drefor, a ganwyd iddynt un ferch, Gwyneth. Credir mai yn yr Alban y mae wyres Dolo'n byw. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Canrif y Chwarelwr gan Emyr Jones 1963 t.109
  2. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43