Melin-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Credir fod melin o'r enw '''Melin-y-coed''' wedi bod ar dir [[Fferm Y Morfa, Trefor]], ar lan [[Afon Tâl]]. Byddai'n gwneud pob synnwyr bod melin falu grawn yn y gymdogaeth, ac mae enw tyddyn arall gerllaw, Bryn Gwenith (sy'n ffinio â thir y Morfa), yn dystiolaeth y byddai angen am felin yno. Ysywaeth, er bod darn o dir o'r enw Cors y Felin ar lan yr afon, ac mai enw arall ar Bryn Gwenith yw Tyddyn-y-felin, nid oes unrhyw dystiolaeth amlwg ar y llawr o ble'n union y safai'r felin.<ref>Gwybodaeth yn erthygl ar [[Tyddyn y Morfa]], Trefor.</ref> Efallai mai'r dystiolaeth orau am ei lleoliad oedd enw ar glwt o dir yn union ar lan yr afon, i'r de-ddwyrain o fferm y Morfa. Ceir ar restr y Degwm (tua 1839) ddarn bach o dir 3 rŵd o ran ei arwynebedd ac wedi ei orchuddio â choed o'r enw "Clwt yr hen felin". Rhan o fferm y Morfa ydoedd, y tenant ar y pryd oedd Hugh Jones, a'r perchennog oedd [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]]. Mae'n amlwg nad oedd y felin wedi bod yn malu am amser maith cyn 1839, gan nad oes adeilad wedi'i farcio ar y map.<ref>Map Degwm Llanaelhaearn, [https://places.library.wales/viewer/4641883#?cv=&h=2&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4641883%2Fmanifest.json&xywh=2415%2C12256%2C5334%2C3051]</ref>
Credir fod melin o'r enw '''Melin-y-coed''' wedi bod ar dir [[Fferm Y Morfa, Trefor]], ar lan [[Afon Tâl]]. Byddai'n gwneud pob synnwyr bod melin falu grawn yn y gymdogaeth, ac mae enw tyddyn arall gerllaw, Bryn Gwenith (sy'n ffinio â thir y Morfa), yn dystiolaeth y byddai angen am felin yno. Ysywaeth, er bod darn o dir o'r enw Cors y Felin ar lan yr afon, ac mai enw arall ar Bryn Gwenith yw Tyddyn-y-felin, nid oes unrhyw dystiolaeth amlwg ar y llawr o ble'n union y safai'r felin.<ref>Gwybodaeth yn erthygl ar [[Tyddyn y Morfa]], Trefor.</ref> Efallai mai'r dystiolaeth orau am ei lleoliad oedd enw ar glwt o dir yn union ar lan yr afon, i'r de-ddwyrain o fferm y Morfa. Ceir ar restr y Degwm (tua 1839) ddarn bach o dir, 3 rŵd o ran ei arwynebedd ac wedi ei orchuddio â choed, o'r enw "Clwt yr hen felin". Rhan o fferm y Morfa ydoedd, y tenant ar y pryd oedd Hugh Jones, a'r perchennog oedd [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]]. Mae'n amlwg nad oedd y felin wedi bod yn malu am amser maith cyn 1839, gan nad oes adeilad wedi'i farcio ar y map.<ref>Map Degwm Llanaelhaearn, [https://places.library.wales/viewer/4641883#?cv=&h=2&c=&m=&s=&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4641883%2Fmanifest.json&xywh=2415%2C12256%2C5334%2C3051]</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:32, 20 Mawrth 2022

Credir fod melin o'r enw Melin-y-coed wedi bod ar dir Fferm Y Morfa, Trefor, ar lan Afon Tâl. Byddai'n gwneud pob synnwyr bod melin falu grawn yn y gymdogaeth, ac mae enw tyddyn arall gerllaw, Bryn Gwenith (sy'n ffinio â thir y Morfa), yn dystiolaeth y byddai angen am felin yno. Ysywaeth, er bod darn o dir o'r enw Cors y Felin ar lan yr afon, ac mai enw arall ar Bryn Gwenith yw Tyddyn-y-felin, nid oes unrhyw dystiolaeth amlwg ar y llawr o ble'n union y safai'r felin.[1] Efallai mai'r dystiolaeth orau am ei lleoliad oedd enw ar glwt o dir yn union ar lan yr afon, i'r de-ddwyrain o fferm y Morfa. Ceir ar restr y Degwm (tua 1839) ddarn bach o dir, 3 rŵd o ran ei arwynebedd ac wedi ei orchuddio â choed, o'r enw "Clwt yr hen felin". Rhan o fferm y Morfa ydoedd, y tenant ar y pryd oedd Hugh Jones, a'r perchennog oedd Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough. Mae'n amlwg nad oedd y felin wedi bod yn malu am amser maith cyn 1839, gan nad oes adeilad wedi'i farcio ar y map.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth yn erthygl ar Tyddyn y Morfa, Trefor.
  2. Map Degwm Llanaelhaearn, [1]