Pont Ffordd yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae ''Pont Ffordd yr Eifl neu Pont Kit'' yn croesi Afon Tâl yng ngwaelod Ffordd yr Eifl yn Nhrefor. Cafodd y bont ei chodi'n wreiddiol gan gwmni Chware...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae ''Pont Ffordd yr Eifl neu Pont Kit'' yn croesi Afon Tâl yng ngwaelod Ffordd yr Eifl yn Nhrefor.  
Mae '''Pont Ffordd yr Eifl neu Pont Kit''' yn croesi Afon Tâl yng ngwaelod Ffordd yr Eifl yn Nhrefor.  

Cafodd y bont ei chodi'n wreiddiol gan gwmni Chwarel yr Eifl wrth i bentref newydd Trefor ddatblygu o 1856 ymlaen, er mwyn cysylltu'r pentref a'r chwarel. Dichon bod rhyd yno cyn hynny. Wrth i brif stryd y pentref, sef Ffordd yr Eifl (neu Farren Street yn wreiddiol - wedi ei henwi ar ôl George Farren, rheolwr y gwaith), gael ei datblygu, adeiladwyd rhannau ohoni y ddwy ochr i'r afon ac roedd y bont hon yn cysylltu rhan isaf a rhannau uchaf y stryd. Cafodd y bont ei lledu a'i chryfhau ar fwy nac un achlysur. Am rai blynyddoedd yn ail hanner yr 20g fe'i gelwid gan lawer yn y pentref yn "Bont Kit", a hynny ar ôl Kit Parry (1922-97) a oedd yn byw yn Hendy, y tŷ agosaf at y bont. Am gyfnod bu Kit Parry yn cadw siop fechan ar lain o dir dros y ffordd â Hendy ar lan yr afon (gweler yr erthygl ar Siopau yn Nhrefor).

Fersiwn yn ôl 15:11, 12 Mawrth 2022

Mae Pont Ffordd yr Eifl neu Pont Kit yn croesi Afon Tâl yng ngwaelod Ffordd yr Eifl yn Nhrefor.