Ysgol Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith. | Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith. | ||
Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd [[Benjamin Owen Jones]], brodor o Fethesda | Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd [[Benjamin Owen Jones]], brodor o Fethesda a fu'n brifathro ysgol Dwyran ym Môn cyn dod i Drefor. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913. | ||
Prifathrawon ers hynny<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/126''' [1878-1979]</ref> oedd | Prifathrawon ers hynny<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/126''' [1878-1979]</ref> oedd |
Fersiwn yn ôl 16:01, 15 Chwefror 2022
Ysgol gynradd pentref Trefor wrth droed Yr Eifl a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.[1]
Perchnogion yr ysgol oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, Chwarel yr Eifl ar fynydd Garnfor, y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd John Evan Williams, brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, Winifred Williams, yn wreiddiol o'r un ardal.
Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.
Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd Benjamin Owen Jones, brodor o Fethesda a fu'n brifathro ysgol Dwyran ym Môn cyn dod i Drefor. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913.
Prifathrawon ers hynny[2] oedd
- Robert Lloyd Jones (1913-28), yr awdur enwog;
- Morris William Jones (1928-46),
- Thomas Elias Parry (1946-67),
- Harold Parry Jones (1967-1983),
- Geraint Jones (1983-1997),
- Cai Larsen (1997- 2016),
- Llion Huws (2017 -
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma