R. Silyn Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hanai '''Richard Silyn Hughes''' (1933-2006) o bentref [[Tal-y-sarn]] yn wreiddiol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i fywyd fel oedolyn yn Ardudwy. Roedd | Hanai '''Richard Silyn Hughes''' (1933-2006) o bentref [[Tal-y-sarn]] yn wreiddiol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i fywyd fel oedolyn yn Ardudwy. Roedd yn unig blentyn Robert Hughes, (ganwyd 1877 ym mhlwyf Llandwrog), crydd yn Nhal-y-sarn, a'i wraig Lily (Parry) (1908-1960). Trwy ei dad, roedd yn gefnder i [[Arthur Festin Hughes]], y polymath swil o bentref [[Llanllyfni]]. Cafodd ei dad ei fagu gan ei nain, Katie Hughes, Coetmor, Tal-y-sarn<ref>''Lleu'' Rhif 523, Hydref 2020</ref> a diddorol yw nodi mai "Coetmor" oedd yr enw a roddwyd gan Silyn Roberts ar ei dŷ ym Mhenrhyndeudraeth. | ||
Bu'n athro ysgrythur ysbrydoledig yn Ysgol Ardudwy tan 1971. Ym 1974 | Bu'n athro ysgrythur ysbrydoledig yn Ysgol Ardudwy tan 1971. Ym 1974 symudodd i Goleg Harlech fel darlithydd Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Cymraeg yn dilyn ymadawiad [[Dafydd Elis Thomas]].<ref>''Lleufer'', Cyf. 26. Rhif 1, (1974-5), t.51 </ref> Bu hefyd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i achub Y Las-ynys, cartref Ellis Wynne yn Nhalsarnau. | ||
Mae'r actores a'r awdures, Llio Silyn, yn ferch iddo.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | Mae'r actores a'r awdures, Llio Silyn, yn ferch iddo.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> |
Fersiwn yn ôl 16:27, 12 Chwefror 2022
Hanai Richard Silyn Hughes (1933-2006) o bentref Tal-y-sarn yn wreiddiol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i fywyd fel oedolyn yn Ardudwy. Roedd yn unig blentyn Robert Hughes, (ganwyd 1877 ym mhlwyf Llandwrog), crydd yn Nhal-y-sarn, a'i wraig Lily (Parry) (1908-1960). Trwy ei dad, roedd yn gefnder i Arthur Festin Hughes, y polymath swil o bentref Llanllyfni. Cafodd ei dad ei fagu gan ei nain, Katie Hughes, Coetmor, Tal-y-sarn[1] a diddorol yw nodi mai "Coetmor" oedd yr enw a roddwyd gan Silyn Roberts ar ei dŷ ym Mhenrhyndeudraeth.
Bu'n athro ysgrythur ysbrydoledig yn Ysgol Ardudwy tan 1971. Ym 1974 symudodd i Goleg Harlech fel darlithydd Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Cymraeg yn dilyn ymadawiad Dafydd Elis Thomas.[2] Bu hefyd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i achub Y Las-ynys, cartref Ellis Wynne yn Nhalsarnau.
Mae'r actores a'r awdures, Llio Silyn, yn ferch iddo.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma