Fferi Abermenai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:tyfferi.jpg|bawd|400px|de|Yr hen dŷ fferi]] | [[Delwedd:tyfferi.jpg|bawd|400px|de|Yr hen dŷ fferi]] | ||
[[Delwedd:Morrissiart.jpeg|bawd|400px|de|Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai]] | [[Delwedd:Morrissiart.jpeg|bawd|400px|de|Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai]] | ||
'''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon, | '''Abermenai''' yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]]. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon ac, yn y gorffennol, bu'n fan croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Lŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o [[Aberdesach]] i ben draw penrhyn [[Belan]] ar lan Abermenai. | ||
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd | Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd. | ||
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai], adalwyd 09.04.2018</ref> Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1939), t.469.</ref> Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng | Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.<ref>Wicipedia, ''Abermenai'' [https://cy.wikipedia.org/wiki/Abermenai], adalwyd 09.04.2018</ref> Pan fu farw Gruffudd yn 1137, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1939), t.469.</ref> Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng nghyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.<ref>H.R. Davies, ''The Conway and the Menai Ferries'' (Caerdydd, 1966),t.78</ref> | ||
Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu | Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu i awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er, wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth coron Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares. Yn Saesneg, yr adeg hon, gelwid Abermenai yn 'Southcrook'.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.30</ref> Erbyn 1437, fodd bynnag, rhentodd brenin Lloegr y fferi i Thomas Aldenham (dyn a oedd yn aelod o'r llys brenhinol yn Llundain), ac erbyn 1442 roedd dyn o'r enw Thomas Spicer yn gyd-denant gydag Aldenham. Mae hyn yn ddiddorol gan fod teulu Spicer yn un o hen deuluoedd masnachol Caernarfon, sy'n awgrymu fod rheolaeth y fferi'n rhannol yn nwylo lleol. Roedd y cyfrifon, sy'n tystio i hyn hyd heddiw, fodd bynnag, yn gyfrifoldeb rhingyll (sef swyddog brenin Lloegr oedd yn hel trethi a rhenti drosto) a weithredai dros cwmwd Dindaethwy yn Ynys Môn. Yn weinyddol, felly, cyfrifid Abermenai yn rhan o adnoddau Môn yn hytrach nag Uwchgwyrfai, ac yr oedd tŷ ar gyfer cychwr y fferi.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.46, 57.</ref> Roedd tŷ fferi yn Abermenai (mae'n debyg ar ochr Môn) cyn 1493, a hwnnw'n adeilad o gerrig, gan fod arian wedi ei wario ar ei atgyweirio'r flwyddyn honno.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.81</ref> | ||
Bu nifer o brydleswyr, rhai'n Gymry a rhai'n aelodau o'r llys brenhinol yn Llundain, yn rhentu'r fferi dros y ddau gan mlynedd nesaf - er nad oeddynt hwy'n bersonol yn gweithio fel y cychwyr. Mewn ewyllys o 1593 <ref>Ewyllys Huw Lloid, Bodwyn uchaf, Trewalchmai, PCC 12 Stott)</ref>, nodir enwau'r cychwyr am y tro cyntaf, efallai - sef Richard ap Thomas, Lewis ap Evan Lloid ac Evan ap Llywelyn - gan nad oeddynt wedi cadw tŷ'r fferi mewn cyflwr da, a byddai'n costio £20.13.4c i'w atgyweirio. | |||
Mae [[Mapiau Uwchgwyrfai|mapiau o Uwchgwyrfai]] yn tueddu | Mae [[Mapiau Uwchgwyrfai|mapiau o Uwchgwyrfai]] yn tueddu i ddangos ffordd neu drac i Abermenai yn ystod y 18-19g (er enghraifft map John Ogilby, 1720)<ref>copi yn Archifdy Caernarfon</ref>. Erbyn y 18g hefyd, cawn fwy o fanylion am y fferi. Roedd tŷ fferi o ryw fath o bobtu'r culfor, ac yn ogystal â chychod yn croesi'n syth, croesai cychod hefyd o ochr Môn i harbwr Caernarfon ar ddydd Sadwrn, sef diwrnod marchnad Caernarfon. Yn 1711, roedd dau gwch ar gael ar gyfer y gwasanaeth, ond roedd angen am un newydd, a fyddai'n costio o leiaf £50. <ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', tt.194-5.</ref> Roedd croesi'n gallu bod yn beryglus, gyda dyluniad y cychod eu hunain, yn ogystal â'r tywydd, yn gallu creu problemau. Yn ôl William Bingley, cafwyd trychineb ym 1664 pan suddodd cwch Abermenai: | ||
"Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan | "Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan ddigwyddodd camddealltwriaeth parthed codi ceiniog yn ychwanegol nad oedd y teithwyr yn fodlon ei dalu. Yn ystod y cecru llithrodd y cwch i fan lle roedd y dŵr yn ddwfn, lle trodd drosodd ac, er ei fod y pryd hynny ond ychydig lathenni o'r lan, bu farw saith deg naw o'r teithwyr, a dim ond un lwyddodd i ddianc. Credai'r werin mai cosb ddwyfol oedd hyn gan fod y cwch wedi ei adeiladu gyda choed a ddygwyd o Abaty Llanddwyn."<ref>W. Bingley, ''North Wales'', Cyf. I, t.280.</ref> | ||
Croesi ar fferi Abermenai wnaeth Daniel Defoe pan ymwelodd â Chaernarfon ar ei ffordd i Fôn tua 1724 "o ran ymyrraeth'' er mwyn gweld Iwerddon o gyfeiriad arall - er nad oedd o wedi llwyddo oherwydd y tywydd yng Nghaergybi!<ref>Daniel Defoe, ''A tour through the whole island of Great Britain'', llythyr 6, (golygyddiad gwe, Priysgol Adelaide), [https://ebooks.adelaide.edu.au/d/defoe/daniel/britain/index.html], adalwyd 09.04.2018</ref> | |||
Digwyddodd | Digwyddodd trychineb arall i gwch Abermenai 5 Rhagfyr 1785, ac eto, dim ond un a oroesodd y suddo. Digwyddodd hyn drachefn ar un o'r croesiadau i dref Caernarfon ar gyfer y farchnad. Aeth y cwch yn sownd ar dywod yng nghanol y Fenai ar adeg llanw isel ond, ar ôl treulio noson ddychrynllyd o anghysurus, fe foddodd pawb ond un, sef Hugh Williams, Tŷ'n Llwydan, Aberffraw, pan ddaeth y llanw i mewn.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', tt. 308-9 (ar ol Bingley, tt.281-6)</ref> | ||
Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828 | Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828 nid oedd modd casglu unrhyw rent am fferi Abermenai.<ref>H.R. Davies, ''op. cit.'', t.309.</ref> Mae'n ymddangos mai yng nghanol y 19g y daeth y fferi i ben. Nid oes unrhyw drac bellach at ben draw penrhyn Belan a phob ôl o ddefnydd o'r fferi wedi diflannu o ochr ddeheuol y culfor. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 17:10, 7 Ionawr 2022
Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon ac, yn y gorffennol, bu'n fan croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Lŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.
Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.
Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd yn 1137, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng nghyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gostau megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]
Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu i awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er, wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth coron Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares. Yn Saesneg, yr adeg hon, gelwid Abermenai yn 'Southcrook'.[4] Erbyn 1437, fodd bynnag, rhentodd brenin Lloegr y fferi i Thomas Aldenham (dyn a oedd yn aelod o'r llys brenhinol yn Llundain), ac erbyn 1442 roedd dyn o'r enw Thomas Spicer yn gyd-denant gydag Aldenham. Mae hyn yn ddiddorol gan fod teulu Spicer yn un o hen deuluoedd masnachol Caernarfon, sy'n awgrymu fod rheolaeth y fferi'n rhannol yn nwylo lleol. Roedd y cyfrifon, sy'n tystio i hyn hyd heddiw, fodd bynnag, yn gyfrifoldeb rhingyll (sef swyddog brenin Lloegr oedd yn hel trethi a rhenti drosto) a weithredai dros cwmwd Dindaethwy yn Ynys Môn. Yn weinyddol, felly, cyfrifid Abermenai yn rhan o adnoddau Môn yn hytrach nag Uwchgwyrfai, ac yr oedd tŷ ar gyfer cychwr y fferi.[5] Roedd tŷ fferi yn Abermenai (mae'n debyg ar ochr Môn) cyn 1493, a hwnnw'n adeilad o gerrig, gan fod arian wedi ei wario ar ei atgyweirio'r flwyddyn honno.[6]
Bu nifer o brydleswyr, rhai'n Gymry a rhai'n aelodau o'r llys brenhinol yn Llundain, yn rhentu'r fferi dros y ddau gan mlynedd nesaf - er nad oeddynt hwy'n bersonol yn gweithio fel y cychwyr. Mewn ewyllys o 1593 [7], nodir enwau'r cychwyr am y tro cyntaf, efallai - sef Richard ap Thomas, Lewis ap Evan Lloid ac Evan ap Llywelyn - gan nad oeddynt wedi cadw tŷ'r fferi mewn cyflwr da, a byddai'n costio £20.13.4c i'w atgyweirio.
Mae mapiau o Uwchgwyrfai yn tueddu i ddangos ffordd neu drac i Abermenai yn ystod y 18-19g (er enghraifft map John Ogilby, 1720)[8]. Erbyn y 18g hefyd, cawn fwy o fanylion am y fferi. Roedd tŷ fferi o ryw fath o bobtu'r culfor, ac yn ogystal â chychod yn croesi'n syth, croesai cychod hefyd o ochr Môn i harbwr Caernarfon ar ddydd Sadwrn, sef diwrnod marchnad Caernarfon. Yn 1711, roedd dau gwch ar gael ar gyfer y gwasanaeth, ond roedd angen am un newydd, a fyddai'n costio o leiaf £50. [9] Roedd croesi'n gallu bod yn beryglus, gyda dyluniad y cychod eu hunain, yn ogystal â'r tywydd, yn gallu creu problemau. Yn ôl William Bingley, cafwyd trychineb ym 1664 pan suddodd cwch Abermenai:
"Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan ddigwyddodd camddealltwriaeth parthed codi ceiniog yn ychwanegol nad oedd y teithwyr yn fodlon ei dalu. Yn ystod y cecru llithrodd y cwch i fan lle roedd y dŵr yn ddwfn, lle trodd drosodd ac, er ei fod y pryd hynny ond ychydig lathenni o'r lan, bu farw saith deg naw o'r teithwyr, a dim ond un lwyddodd i ddianc. Credai'r werin mai cosb ddwyfol oedd hyn gan fod y cwch wedi ei adeiladu gyda choed a ddygwyd o Abaty Llanddwyn."[10]
Croesi ar fferi Abermenai wnaeth Daniel Defoe pan ymwelodd â Chaernarfon ar ei ffordd i Fôn tua 1724 "o ran ymyrraeth er mwyn gweld Iwerddon o gyfeiriad arall - er nad oedd o wedi llwyddo oherwydd y tywydd yng Nghaergybi![11]
Digwyddodd trychineb arall i gwch Abermenai 5 Rhagfyr 1785, ac eto, dim ond un a oroesodd y suddo. Digwyddodd hyn drachefn ar un o'r croesiadau i dref Caernarfon ar gyfer y farchnad. Aeth y cwch yn sownd ar dywod yng nghanol y Fenai ar adeg llanw isel ond, ar ôl treulio noson ddychrynllyd o anghysurus, fe foddodd pawb ond un, sef Hugh Williams, Tŷ'n Llwydan, Aberffraw, pan ddaeth y llanw i mewn.[12]
Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828 nid oedd modd casglu unrhyw rent am fferi Abermenai.[13] Mae'n ymddangos mai yng nghanol y 19g y daeth y fferi i ben. Nid oes unrhyw drac bellach at ben draw penrhyn Belan a phob ôl o ddefnydd o'r fferi wedi diflannu o ochr ddeheuol y culfor.
Cyfeiriadau
- ↑ Wicipedia, Abermenai [1], adalwyd 09.04.2018
- ↑ J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1939), t.469.
- ↑ H.R. Davies, The Conway and the Menai Ferries (Caerdydd, 1966),t.78
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.30
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.46, 57.
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.81
- ↑ Ewyllys Huw Lloid, Bodwyn uchaf, Trewalchmai, PCC 12 Stott)
- ↑ copi yn Archifdy Caernarfon
- ↑ H.R. Davies, op. cit., tt.194-5.
- ↑ W. Bingley, North Wales, Cyf. I, t.280.
- ↑ Daniel Defoe, A tour through the whole island of Great Britain, llythyr 6, (golygyddiad gwe, Priysgol Adelaide), [2], adalwyd 09.04.2018
- ↑ H.R. Davies, op. cit., tt. 308-9 (ar ol Bingley, tt.281-6)
- ↑ H.R. Davies, op. cit., t.309.