Gwyndaf Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae eglwys plwyf [[Llanwnda]] yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i '''Sant Gwyndaf''' (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma. | Mae eglwys plwyf [[Llanwnda]] yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i '''Sant Gwyndaf''' (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma. | ||
Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i | Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Lŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd â Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur. | ||
Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn fod yn fyw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes | Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn fod yn fyw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Digon posibl hefyd bod gwir yn yr awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC. | ||
Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy sydd yno bellach gyda'r enw hwnnw. | Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy sydd yno bellach gyda'r enw hwnnw. |
Fersiwn yn ôl 14:31, 1 Ionawr 2022
Mae eglwys plwyf Llanwnda yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i Sant Gwyndaf (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma.
Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Lŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd â Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur.
Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn fod yn fyw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Digon posibl hefyd bod gwir yn yr awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC.
Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy sydd yno bellach gyda'r enw hwnnw.
Ffynonellau
- Chris Barber a David Pykitt, Journey to Avalon, (York Beach, 1997), t.230-1.