Thomas Jones, stiward chwarel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn chwarel Trefor tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith. | Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith. | ||
Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith gan Farren | Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i [[Trefor|Drefor]] a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. Fodd bynnag, yn ddiweddarach adferwyd Thomas Jones i'w swydd fel stiward neu fforman yn y chwarel. | ||
Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Roedd yn dywydd gwlyb a niwlog pan ddigwyddodd y ddamwain ac er y cafwyd rhai honiadau hefyd ei fod wedi bod yn yfed cyn y digwyddiad ni phrofwyd hynny naill ffordd na'r llall. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, ac mewn tystiolaeth dywedodd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, iddi glywed sgrechfeydd enbyd wrth i Thomas Jones syrthio. Ganwyd pump o blant iddo ef ac Elin ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. <sup>[2]</sup> | |||
<ref>Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar ''"Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"''.</ref>> | |||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
2. Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Stiwardiaid chwareli]] | [[Categori:Stiwardiaid chwareli]] | ||
[[Categori:Chwarelydda]] | [[Categori:Chwarelydda]] | ||
[[Categori:Undebaeth a streiciau]] | [[Categori:Undebaeth a streiciau]] |
Fersiwn yn ôl 16:10, 30 Tachwedd 2021
Penodwyd Thomas Jones, gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn chwarel Trefor tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.
Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i Drefor a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. Fodd bynnag, yn ddiweddarach adferwyd Thomas Jones i'w swydd fel stiward neu fforman yn y chwarel.
Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Roedd yn dywydd gwlyb a niwlog pan ddigwyddodd y ddamwain ac er y cafwyd rhai honiadau hefyd ei fod wedi bod yn yfed cyn y digwyddiad ni phrofwyd hynny naill ffordd na'r llall. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, ac mewn tystiolaeth dywedodd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, iddi glywed sgrechfeydd enbyd wrth i Thomas Jones syrthio. Ganwyd pump o blant iddo ef ac Elin ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. [2]
[1]>
Cyfeiriadau
2. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes
- ↑ Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar "Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880".