Endaf Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Brodor o bentref Tal-y-sarn oedd yr athro a'r awdur '''Endaf Jones'''. Ym 1993 yn Eisteddfod De Powys, Llanelwedd fe enillodd Wobr Daniel Owen gyda'i...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Brodor o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd yr athro a'r awdur '''Endaf Jones'''.
Brodor o bentref [[Tal-y-sarn]] oedd yr athro a'r awdur '''Endaf Jones'''.


Ym 1993 yn Eisteddfod De Powys, Llanelwedd fe enillodd Wobr Daniel Owen gyda'i nofel ''Mewn Cornel Fechan Fach''. Camp nid bychan oedd hyn ag ystyried fod y wobr wedi ei hatal yn y ddwy eisteddfod genedlaethol flaenorol gan fod neb yn deilwng - yn wir, rhwng 1980 a 2000, fe ataliwyd y wobr ddim llai na chwech o weithiau.<ref>Rhestr o enillwyr Gwobr Daniel Owen, Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/archif/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-gwobr-goffa-daniel-owen], cyrchwyd 15.11.2021</ref> Nofel fer am ddirywiad y gymdeithas Gymreig yn ardal ei febyd wrth i dechnoleg chwarae rhan bwysig ym mywyd pobl a dylanwad y capel yn edwino. Canmolodd y beirniaid y ffordd gynnil o adrodd stori a gallu Endaf Jones i ddefnyddio tafodiaith ei fro enedigol heb i hynny or-lethu darllenwyr mewn rhannau eraill o'r wlad. Dichon bod yr awdur wedi siomi bod un beirniad wedi teimlo y dylid atal y wobr (er iddo weld rhinweddau'r gwaith), ond barn y ddau arall (Hywel Teifi Edwards a Marion Eames) oedd bod y gwaith yn dangos addewid pendant a gallu storïol sylweddol.<ref>Eisteddfod Genedlaethol, ''Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993'', tt.83-90</ref> Ysywaeth, ni chyhoeddodd yr awdur nofel arall.
Ym 1993 yn Eisteddfod De Powys, Llanelwedd fe enillodd Wobr Daniel Owen gyda'i nofel ''Mewn Cornel Fechan Fach''. Camp nid bychan oedd hyn ag ystyried fod y wobr wedi ei hatal yn y ddwy eisteddfod genedlaethol flaenorol gan fod neb yn deilwng - yn wir, rhwng 1980 a 2000, fe ataliwyd y wobr ddim llai na chwech o weithiau.<ref>Rhestr o enillwyr Gwobr Daniel Owen, Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/archif/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-gwobr-goffa-daniel-owen], cyrchwyd 15.11.2021</ref> Nofel fer ydyw am ddirywiad y gymdeithas Gymreig yn ardal ei febyd wrth i dechnoleg chwarae rhan bwysig ym mywyd pobl a dylanwad y capel yn edwino. Canmolodd y beirniaid y ffordd gynnil o adrodd stori a gallu Endaf Jones i ddefnyddio tafodiaith ei fro enedigol heb i hynny or-lethu darllenwyr mewn rhannau eraill o'r wlad. Dichon bod yr awdur wedi ei siomi bod un beirniad wedi teimlo y dylid atal y wobr (er iddo weld rhinweddau'r gwaith), ond barn y ddau arall (Hywel Teifi Edwards a Marion Eames) oedd bod y gwaith yn dangos addewid pendant a gallu storïol sylweddol.<ref>Eisteddfod Genedlaethol, ''Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993'', tt.83-90</ref> Ysywaeth, ni chyhoeddodd yr awdur nofel arall.


Wedi oes fel athro yng nghyffiniau Abertawe (lle bu'n byw ar Heol y Sgeti), fe ddychwelodd i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] ar ôl ymddeol, gan wneud ei gartref ym Mryn Dyffryn, [[Y Groeslon]], lle chwaraeodd ran lawn ym mywyd y pentref, gan gefnogi pob gweithgaredd diwylliannol. Bu farw yn ystod mis Tachwedd 2021.<ref>Gwybodaeth leol</ref>
Wedi oes fel athro yng nghyffiniau Abertawe (lle bu'n byw ar Heol y Sgeti), fe ddychwelodd i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] ar ôl ymddeol, gan wneud ei gartref ym Mryn Dyffryn, [[Y Groeslon]], lle chwaraeodd ran lawn ym mywyd y pentref, gan gefnogi pob gweithgaredd diwylliannol. Bu farw yn ystod mis Tachwedd 2021.<ref>Gwybodaeth leol</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:29, 15 Tachwedd 2021

Brodor o bentref Tal-y-sarn oedd yr athro a'r awdur Endaf Jones.

Ym 1993 yn Eisteddfod De Powys, Llanelwedd fe enillodd Wobr Daniel Owen gyda'i nofel Mewn Cornel Fechan Fach. Camp nid bychan oedd hyn ag ystyried fod y wobr wedi ei hatal yn y ddwy eisteddfod genedlaethol flaenorol gan fod neb yn deilwng - yn wir, rhwng 1980 a 2000, fe ataliwyd y wobr ddim llai na chwech o weithiau.[1] Nofel fer ydyw am ddirywiad y gymdeithas Gymreig yn ardal ei febyd wrth i dechnoleg chwarae rhan bwysig ym mywyd pobl a dylanwad y capel yn edwino. Canmolodd y beirniaid y ffordd gynnil o adrodd stori a gallu Endaf Jones i ddefnyddio tafodiaith ei fro enedigol heb i hynny or-lethu darllenwyr mewn rhannau eraill o'r wlad. Dichon bod yr awdur wedi ei siomi bod un beirniad wedi teimlo y dylid atal y wobr (er iddo weld rhinweddau'r gwaith), ond barn y ddau arall (Hywel Teifi Edwards a Marion Eames) oedd bod y gwaith yn dangos addewid pendant a gallu storïol sylweddol.[2] Ysywaeth, ni chyhoeddodd yr awdur nofel arall.

Wedi oes fel athro yng nghyffiniau Abertawe (lle bu'n byw ar Heol y Sgeti), fe ddychwelodd i Ddyffryn Nantlle ar ôl ymddeol, gan wneud ei gartref ym Mryn Dyffryn, Y Groeslon, lle chwaraeodd ran lawn ym mywyd y pentref, gan gefnogi pob gweithgaredd diwylliannol. Bu farw yn ystod mis Tachwedd 2021.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Rhestr o enillwyr Gwobr Daniel Owen, Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [1], cyrchwyd 15.11.2021
  2. Eisteddfod Genedlaethol, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 1993, tt.83-90
  3. Gwybodaeth leol