Cymdeithas Hanes Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Cymdeithas Hanes Trefor''' ym 1985 a daeth i ben yn 2011. Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gaf...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Cymdeithas Hanes Trefor''' ym 1985 a daeth i ben yn 2011. | Sefydlwyd '''Cymdeithas Hanes Trefor''' ym 1985 a daeth i ben yn 2011. | ||
Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gafwyd yn Eisteddfod Trefor a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill 1985, sef 50 o gwestiynau i oedolion a 50 o gwestiynau i blant yn ymwneud â hanes pentref Trefor a'r ardal. Fe'u paratowyd gan Geraint Jones, a oedd yn brifathro Ysgol Trefor bryd hynny. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn y Ganolfan i fynd dros yr atebion a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor, a hynny ar Galan Mai 1985. Etholwyd Geraint Jones yn Gadeirydd/Tiwtor, Dafydd O. Roberts yn Drysorydd a Dawi Griffiths yn Ysgrifennydd. | Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gafwyd yn [[Eisteddfod Trefor]] a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill 1985, sef 50 o gwestiynau i oedolion a 50 o gwestiynau i blant yn ymwneud â hanes pentref [[Trefor]] a'r ardal. Fe'u paratowyd gan [[Geraint Jones]], a oedd yn brifathro [[Ysgol Trefor]] bryd hynny. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn y Ganolfan i fynd dros yr atebion a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor, a hynny ar Galan Mai 1985. Etholwyd Geraint Jones yn Gadeirydd/Tiwtor, Dafydd O. Roberts yn Drysorydd a Dawi Griffiths yn Ysgrifennydd. | ||
Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y Ganolfan, ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y Band (hen gapel Bethlehem). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, Guto Roberts, R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon. | Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y Ganolfan, ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y Band (hen gapel Bethlehem). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, [[Guto Roberts]], R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac [[Arfon]]. | ||
Wrth i ddegawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain fynd rhagddo gwelwyd y gymdeithas yn edwino'n raddol fel llawer cymdeithas debyg iddi. Roedd yr aelodau at ei gilydd yn heneiddio a phrinhau a'r gynulleidfa'n teneuo. Felly, ddiwedd 2011, wedi 26 mlynedd o weithredu, penderfynwyd dirwyn y gymdeithas i ben. Bu'n gyfrwng i addysgu, diwyllio a difyrru ac mae colled yn sicr ar ei hôl.< | Wrth i ddegawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain fynd rhagddo gwelwyd y gymdeithas yn edwino'n raddol fel llawer cymdeithas debyg iddi. Roedd yr aelodau at ei gilydd yn heneiddio a phrinhau a'r gynulleidfa'n teneuo. Felly, ddiwedd 2011, wedi 26 mlynedd o weithredu, penderfynwyd dirwyn y gymdeithas i ben. Bu'n gyfrwng i addysgu, diwyllio a difyrru ac mae colled yn sicr ar ei hôl.<ref> Gwybodaeth bersonol wedi'i seilio ar gofnodion cynnar Cymdeithas Hanes Trefor a'i rhaglenni blynyddol.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Hanes]] | |||
[[Categori:Cymdeithasau]] |
Fersiwn yn ôl 17:11, 9 Tachwedd 2021
Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Trefor ym 1985 a daeth i ben yn 2011.
Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gafwyd yn Eisteddfod Trefor a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill 1985, sef 50 o gwestiynau i oedolion a 50 o gwestiynau i blant yn ymwneud â hanes pentref Trefor a'r ardal. Fe'u paratowyd gan Geraint Jones, a oedd yn brifathro Ysgol Trefor bryd hynny. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn y Ganolfan i fynd dros yr atebion a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor, a hynny ar Galan Mai 1985. Etholwyd Geraint Jones yn Gadeirydd/Tiwtor, Dafydd O. Roberts yn Drysorydd a Dawi Griffiths yn Ysgrifennydd.
Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y Ganolfan, ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y Band (hen gapel Bethlehem). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, Guto Roberts, R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon.
Wrth i ddegawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain fynd rhagddo gwelwyd y gymdeithas yn edwino'n raddol fel llawer cymdeithas debyg iddi. Roedd yr aelodau at ei gilydd yn heneiddio a phrinhau a'r gynulleidfa'n teneuo. Felly, ddiwedd 2011, wedi 26 mlynedd o weithredu, penderfynwyd dirwyn y gymdeithas i ben. Bu'n gyfrwng i addysgu, diwyllio a difyrru ac mae colled yn sicr ar ei hôl.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol wedi'i seilio ar gofnodion cynnar Cymdeithas Hanes Trefor a'i rhaglenni blynyddol.