Gwydir Bach a Gwydir Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Nid oes gan yr enwau unrhyw beth i'w wneud â "gwydr". Yn hytrach, fel yr eglurir yn ''Geiriadur Prifysgol Cymru''<ref> ''Geiriadur Prifysgol Cymru'' ar-lein (cyrchwyd 26/10/2021).</ref>, ystyr "gwydir" neu "gwedir" yw tir isel o'i gyferbynnu â "gorthir", sef tir uchel. Gall hefyd olygu gallt neu bant, a all fod yn goediog. Gwelir yr un elfen yn enw Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy. Mae'r enw'n briodol iawn i dirwedd ffermydd Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Er bod ffermdai'r ddwy fferm yn sefyll ar dir cymharol uchel uwchben y traeth yn Nhrefor mae eu tiroedd yn mynd i lawr gallt y môr yn serth i'r traeth. Mae'r allt y môr sy'n perthyn i Gwydir Mawr hefyd yn parhau'n goediog ac wedi ei gorchuddio i raddau helaeth â choed helyg. Mae gan y ddwy fferm gaeau uwch yn ymestyn at ffiniau'r pentref ac ar gae'n perthyn i Gwydir Mawr y codwyd rhes o dai cyngor yn y 1950au a'u galw'n Maes Gwydir. | Nid oes gan yr enwau unrhyw beth i'w wneud â "gwydr". Yn hytrach, fel yr eglurir yn ''Geiriadur Prifysgol Cymru''<ref> ''Geiriadur Prifysgol Cymru'' ar-lein (cyrchwyd 26/10/2021).</ref>, ystyr "gwydir" neu "gwedir" yw tir isel o'i gyferbynnu â "gorthir", sef tir uchel. Gall hefyd olygu gallt neu bant, a all fod yn goediog. Gwelir yr un elfen yn enw Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy. Mae'r enw'n briodol iawn i dirwedd ffermydd Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Er bod ffermdai'r ddwy fferm yn sefyll ar dir cymharol uchel uwchben y traeth yn Nhrefor mae eu tiroedd yn mynd i lawr gallt y môr yn serth i'r traeth. Mae'r allt y môr sy'n perthyn i Gwydir Mawr hefyd yn parhau'n goediog ac wedi ei gorchuddio i raddau helaeth â choed helyg. Mae gan y ddwy fferm gaeau uwch yn ymestyn at ffiniau'r pentref ac ar gae'n perthyn i Gwydir Mawr y codwyd rhes o dai cyngor yn y 1950au a'u galw'n Maes Gwydir. | ||
Yn Gwydir Bach y trigai [[Tom Bowen Jones]] a'i frawd [[ | Yn Gwydir Bach y trigai [[Tom Bowen Jones]] a'i frawd [[Robert Herbert Jones|Robin]], y ddau'n feirdd medrus yn y mesurau caeth. Enillodd Tom sawl cadair eisteddfodol a daeth yn fuddugol ar yr englyn i'r "Map" yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:46, 26 Hydref 2021
Dwy fferm gymharol fach ar gyrion Trefor yw Gwydir Bach a Gwydir Mawr.
Nid oes gan yr enwau unrhyw beth i'w wneud â "gwydr". Yn hytrach, fel yr eglurir yn Geiriadur Prifysgol Cymru[1], ystyr "gwydir" neu "gwedir" yw tir isel o'i gyferbynnu â "gorthir", sef tir uchel. Gall hefyd olygu gallt neu bant, a all fod yn goediog. Gwelir yr un elfen yn enw Castell Gwydir yn Nyffryn Conwy. Mae'r enw'n briodol iawn i dirwedd ffermydd Gwydir Bach a Gwydir Mawr. Er bod ffermdai'r ddwy fferm yn sefyll ar dir cymharol uchel uwchben y traeth yn Nhrefor mae eu tiroedd yn mynd i lawr gallt y môr yn serth i'r traeth. Mae'r allt y môr sy'n perthyn i Gwydir Mawr hefyd yn parhau'n goediog ac wedi ei gorchuddio i raddau helaeth â choed helyg. Mae gan y ddwy fferm gaeau uwch yn ymestyn at ffiniau'r pentref ac ar gae'n perthyn i Gwydir Mawr y codwyd rhes o dai cyngor yn y 1950au a'u galw'n Maes Gwydir.
Yn Gwydir Bach y trigai Tom Bowen Jones a'i frawd Robin, y ddau'n feirdd medrus yn y mesurau caeth. Enillodd Tom sawl cadair eisteddfodol a daeth yn fuddugol ar yr englyn i'r "Map" yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru ar-lein (cyrchwyd 26/10/2021).