Llethr Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fodheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r linach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.
Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.


Yr aelodau cyntaf o'r teulu sydd ar glawr yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a mab yntau, Howel ap Dicws a briododd Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William yn priodi Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth.Yn ddiau, daeth y priodasau hyn lewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws, a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
  Da i Wynedd oedd eni
  Da i Wynedd oedd eni
  Y tair Nest i'n tir ni.
  Y tair Nest i'n tir ni.
Mae hanes manwl y teulu i'w cael yn yr erthygl ar [[Teulu Evans, Llethr Ddu]]. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd aeres Llethr Ddu tua 1650.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.135</ref> Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.
Mae hanes manwl y teulu i'w gael yn yr erthygl ar [[Teulu Evans, Llethr Ddu]]. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd ag aeres Llethr Ddu tua 1650.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.135</ref> Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.


Erbyn 1831, David Williams oedd tenant [[Llethr Ddu]], gan brofi'n bendant fod teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/16997</ref> Yn rhestr bennu' degwm ym 1840, fe ddangosir David Williams fel y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae;r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhesntu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.<ref>Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840</ref>  
Erbyn 1831, David Williams oedd tenant [[Llethr Ddu]], gan brofi'n bendant fod y teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/16997</ref> Yn rhestr bennu'r degwm ym 1840, fe ddangosir mai David Williams oedd y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer a oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae'r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhentu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.<ref>Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840</ref>  


Erbyn 1864 fodd bynnag y mae'n amlwg mai [[Ystad Glynllifon]] oedd yn berchen ar Lethr Ddu, gan fod [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]] wedi adnewyddu prydles ar y fferm i'r tenant Owen Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6426</ref> Roedd Owen Roberts a'i wraig Jane wedi bod yn denantiaid yno ers o leiaf 1858 gan fod cofnod eu bod yno yn y flwyddyn honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/7744/2/10</ref>
Erbyn 1864 fodd bynnag y mae'n amlwg mai [[Ystad Glynllifon]] oedd yn berchen ar Lethr Ddu, gan fod [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]] wedi adnewyddu prydles ar y fferm i'r tenant Owen Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6426</ref> Roedd Owen Roberts a'i wraig Jane wedi bod yn denantiaid yno ers o leiaf 1858 gan fod cofnod eu bod yno yn y flwyddyn honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XM/7744/2/10</ref>


Mae olion hen derasau amaethu sy'n mynd yn ol i gyfnod olion y grŵp o hen gytiau crynion gerllaw'r fferm.<ref> Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.103</ref> sy'n tueddu dangos fod y safle'n hen iawn fel tir amaethu ac erfallai'n tystio i bwysigrwydd Llethr Ddu yn yr Oesoedd Canol.
Mae olion hen derasau amaethu sy'n mynd yn ôl i gyfnod olion y grŵp o hen gytiau crynion gerllaw'r fferm.<ref> Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.103</ref> sy'n tueddu i ddangos fod y safle'n hen iawn fel tir amaethu ac efallai'n tystio i bwysigrwydd Llethr Ddu yn yr Oesoedd Canol.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 13:15, 18 Hydref 2021

Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.

Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws, a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:

Da i Wynedd oedd eni
Y tair Nest i'n tir ni.

Mae hanes manwl y teulu i'w gael yn yr erthygl ar Teulu Evans, Llethr Ddu. Yn y man, mabwysiadwyd y cyfenw Evans ar ôl Evan ap John ap Evan, a briododd ag aeres Llethr Ddu tua 1650.[1] Yn y man, fel canlyniad i briodasau eraill, symudodd y teulu i Langristiolus ym Môn.

Erbyn 1831, David Williams oedd tenant Llethr Ddu, gan brofi'n bendant fod y teulu Evans bellach wedi ymsefydlu ym Môn.[2] Yn rhestr bennu'r degwm ym 1840, fe ddangosir mai David Williams oedd y tenant o hyd. Y perchennog yr adeg honno oedd Mr David Owen, a'r fferm yn ymestyn i 188 acer, yn cynnwys tua 21 acer a oedd wedi eu dyrannu i'r fferm wedi i'r Comin gael ei gau. Mae'r rhestr bennu'n enwi caeau'r fferm ac mae'n werth eu cofnodi yn fan hyn: Caeau'r cae geifr; Cae gorlan llethr ddu; Cae beudy'r ychain; Cae drws y beudy; Weirglodd cae'r beudy; Cae pen mynydd; Cae bach pen lôn; Cae'r odyn; Tan twlc; Weirglodd tan twlc; Weirglodd newydd; Cae cefn tŷ; Cae bach; Cae tan beudy; Weirglodd fain; Weirglodd isa; Cae pant; Cae uwch ben beudy; Cae'r vwter; Cae'r mur; Cae'r hen fuchas; Cae cil y gwter; Cae mawr; Cae'r ffynnon; Cae'r mynydd a Chae uwch ben tŷ - sef 26 o gaeau i gyd, heb gynnwys ambell i ddarn o gorsdir. Roedd David Williams hefyd yn rhentu tua 18 erw arall gan un David Hughes gerllaw, sef tyddyn di-enw efo cae o'r enw Planwydd cae uchaf.[3]

Erbyn 1864 fodd bynnag y mae'n amlwg mai Ystad Glynllifon oedd yn berchen ar Lethr Ddu, gan fod Arglwydd Newborough wedi adnewyddu prydles ar y fferm i'r tenant Owen Roberts.[4] Roedd Owen Roberts a'i wraig Jane wedi bod yn denantiaid yno ers o leiaf 1858 gan fod cofnod eu bod yno yn y flwyddyn honno.[5]

Mae olion hen derasau amaethu sy'n mynd yn ôl i gyfnod olion y grŵp o hen gytiau crynion gerllaw'r fferm.[6] sy'n tueddu i ddangos fod y safle'n hen iawn fel tir amaethu ac efallai'n tystio i bwysigrwydd Llethr Ddu yn yr Oesoedd Canol.

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.135
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/16997
  3. Rhestr bennu plwyf Llanaelhaearn, 1840
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/6426
  5. Archifdy Caernarfon, XM/7744/2/10
  6. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.103