Teulu Tan-y-clawdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Amaethwyr]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Tyddynwyr]]

Fersiwn yn ôl 13:53, 16 Awst 2021

"Teulu o dyddynwyr cyffredin anghyffredin oedd teulu Tan-y-clawdd ar lethrau'r Bwlch Mawr ger Clynnog Fawr yn Arfon. Cyffredin am eu bod wedi dilyn yr un ffordd o fyw â'u teidiau a'u cyndeidiau. Anghyffredin am eu bod yn gymeriadau hollol wreiddiol, dirodres, ffraeth a hen-ffasiwn."

Fel yna y dechreuodd Marian Elias Roberts ei llyfr hynod ddifyr ar Deulu Tan-y-clawdd.[1] Yn y llyfr cawn nid yn unig bortread o'r triawd nodedig a fu'n byw a ffermio yn nhyddyn Tan-y-clawdd am dalp da o'r ugeinfed ganrif, sef William a Martha Pritchard a'u hunig ferch, Nan, ond yn ogystal cawn ddarlun byw o'r gymdeithas amaethyddol wledig a ffynnai ar lethrau'r Bwlch Mawr yn ardal Capel Uchaf, ClynnogFawr am ddegawdau nes i ddatblygiadau modern a mewnlifiad estronol i'r ardal ei chwalu a'i diwreiddio.

Yn nghyfnod William a Martha Pritchard roedd Tan-y-clawdd yn dyddyn sylweddol o tua 80 acer er bod llawer ohono'n dir llechweddog a garw a pheth yn gors. Cadwent tua thrigain o ddefaid mynydd a phump o wartheg godro. Hyd yn oed mor ddiweddar â'r 1960au roeddent yn dal i gorddi a gwneud 'menyn (yn wir, gwnaed ffilm fer o ddiwrnod corddi yn Nhan-y-clawdd tua'r adeg hynny), toi teisi gwair ac ŷd gyda brwyn, nôl dŵr o'r ffynnon, berwi dillad ar y tân a'u sgwrio efo styllen yn y twb golchi, a dibynnu i raddau helaeth ar y bwydydd traddodiadol o fara, menyn, llefrith, tatws, wyau a chig moch.

Seiliwyd llawer o'r wybodaeth a'r atgofion a geir yn y llyfr ar recordiad tâp a wnaeth Marian Elias Roberts - a oedd wedi ei magu yn fferm Hafod-y-Wern gerllaw - ym 1964 i Amgueddfa Werin Cymru o driawd Tan-y-clawdd yn dweud tipyn o'u hanes. Roedd William Pritchard (1898-1967) wedi'i fagu ar dyddyn Bronyrerw gerllaw Tan-y-clawdd, ac yn ŵyr i Huw Jones - "yr Hen Fron 'r Erw" a anfarwolwyd yng ngherdd Alafon iddo. Gadawodd William Pritchard yr ysgol yn bedair ar ddeg oed i fynd i weini a chawn ei hanes yn was yn rhai o ffermydd mwy yr ardal megis Maesog, Bryn Hafod, Tyddyn Hen a Brysgyni, a hynny i raddau helaeth yn ei eiriau plaen a hollol an-sentimental ei hun. Un o Saron, Llanwnda oedd ei wraig, Martha (1904-1970), a oedd yn perthyn o bell iddo. Cafodd hithau'n ogystal fywyd caled ac adroddodd hithau ei hatgofion am fod yn forwyn mewn sawl lle trwm ei waith a phrin ei fwyd gyda'r un arddeliad â'i gŵr gan ddiawlio ambell le ac ambell feistres lem yn hyglyw fel roedd angen. Plaen i'r eithaf oedd disgrifiad William Pritchard o'i garwriaeth â Martha - "yr hen ddynas 'ma" fel y cyfeiriai ati weithiau. "Mi ddoth hi i Glan'rafon (Brynaera) i weini. Wedyn mi gesh i afa'l arni ac mi ddalish ati a'r diwadd oedd priodi".

Wedi'r briodas yn Nhan-y-clawdd y cartrefodd y ddau weddill eu hoes ac yno ar 10 Awst 1935 y ganed eu hunig blentyn, Nan (neu Ann fel y bedyddiwyd hi ar ôl ei nain). Etifeddodd Nan hithau blaendra ac iaith liwgar ei rhieni a chofir o hyd ymysg yr ardalwyr am ei sylwadau gwreiddiol a bachog. Ond cofir hefyd am ei chymwynasgarwch a'i charedigrwydd tuag at gyfeillion a chymdogion ac am ei dycnwch yn gweithio ar y llechweddau ym mhob tywydd. Cafodd anhwylder ar y frest yn ddynes gymharol ifanc a bu farw ar 8 Mawrth 1982 yn Ysbyty Brynseiont, Caernarfon yn ddim ond 47 oed. Fel y dywed Marian Elias Roberts ar ddiwedd ei llyfr am deulu Tan-y-clawdd, gyda marwolaeth Nan collwyd yr "olaf un o hen deulu Bronyrerw yn ogystal â'r olaf o hen gymeriadau annwyl, caredig, ffraeth a hen-ffasiwn tyddynnod a ffermydd llethrau'r Bwlch Mawr, Capel Uchaf, a oedd mor wahanol i ffermwyr a thrigolion tiroedd breision y gwastadeddau."

Cyfeiriadau

  1. Marian Elias Roberts, Teulu Tan-y-clawdd, (Gwasg yr Utgorn, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2010).