Canolfan Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Agorwyd '''Canolfan Trefor''' ym 1983 gan gymryd lle'r hen neuadd bentref sinc a choed ("Y Rhyt" fel y'i gelwid yn lleol) a oedd wedi gwasanaethu fel neua...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Agorwyd '''Canolfan Trefor''' ym 1983 gan gymryd lle'r hen neuadd bentref sinc a choed ("Y Rhyt" fel y'i gelwid yn lleol) a oedd wedi gwasanaethu fel neuadd er 1921, er mai fel adeilad dros dro y bwriadwyd hi bryd hynny. (Gweler yr ethygl ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor yn Cof y Cwmwd.) Adeiladwyd y ganolfan newydd mewn cornel o'r cae chwarae lle'r arferai llain fowlio fod cynta a chynhaliwyd nifer o weithgareddau i ddathlu ei hagor ym 1983, gan gynnwys cyngerdd gyda Seindorf Trefor a nifer o ddoniau lleol yn cymryd rhan ynddo. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y diweddar Maldwyn Williams, Glanfa, Trefor a oedd, ynghyd â'i wraig, Margaret, wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sicrhau canolfan newydd i'r pentref. Sicrhawyd adeilad newydd a solet yn lle'r hen neuadd a oedd wedi dirywio'n enbyd yn ystod blynyddoedd olaf ei hanes. Fel yr hen "Hyt" mae amrywiaeth helaeth o weithgareddau wedi cael eu cynnal yn y ganolfan dros y blynyddoedd ac mae'n gartref i Ysgol Feithrin y pentref a nifer o gymdeithasau'n cyfarfod yno. Mae ynddi hefyd ystafell snwcer gyda'r byrddau wedi cael eu symud yno o'r hen neuadd. Erbyn hyn mae'r ganolfan hithau yn tynnu at ddeugain oed a gwnaed nifer o welliannau iddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cael cegin newydd a hwylus.<sup>[1]</sup>  
Agorwyd '''Canolfan Trefor''' ym 1983 gan gymryd lle'r hen neuadd bentref sinc a choed ("Y Rhyt" fel y'i gelwid yn lleol) a oedd wedi gwasanaethu fel neuadd er 1921, er mai fel adeilad dros dro y bwriadwyd hi bryd hynny. (Gweler yr erthygl ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor yn Cof y Cwmwd.) Adeiladwyd y ganolfan newydd mewn cornel o'r cae chwarae lle'r arferai llain fowlio fod gynt a chynhaliwyd nifer o weithgareddau i ddathlu ei hagor ym 1983, gan gynnwys cyngerdd gyda Seindorf Trefor a nifer o ddoniau lleol yn cymryd rhan ynddo. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y diweddar Maldwyn Williams, Glanfa, Trefor a oedd, ynghyd â'i wraig, Margaret, wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sicrhau canolfan newydd i'r pentref. Sicrhawyd adeilad newydd a solet yn lle'r hen neuadd a oedd wedi dirywio'n enbyd yn ystod blynyddoedd olaf ei hanes. Fel yr hen "Hyt" mae amrywiaeth helaeth o weithgareddau wedi cael eu cynnal yn y ganolfan dros y blynyddoedd ac mae'n gartref i Ysgol Feithrin y pentref a nifer o gymdeithasau'n cyfarfod yno. Mae ynddi hefyd ystafell snwcer gyda'r byrddau wedi cael eu symud yno o'r hen neuadd. Erbyn hyn mae'r ganolfan hithau yn tynnu at ddeugain oed a gwnaed nifer o welliannau iddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cael cegin newydd a hwylus.<sup>[1]</sup>  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Gwybodaeth bersonol
1. Gwybodaeth bersonol

Fersiwn yn ôl 12:53, 30 Gorffennaf 2021

Agorwyd Canolfan Trefor ym 1983 gan gymryd lle'r hen neuadd bentref sinc a choed ("Y Rhyt" fel y'i gelwid yn lleol) a oedd wedi gwasanaethu fel neuadd er 1921, er mai fel adeilad dros dro y bwriadwyd hi bryd hynny. (Gweler yr erthygl ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor yn Cof y Cwmwd.) Adeiladwyd y ganolfan newydd mewn cornel o'r cae chwarae lle'r arferai llain fowlio fod gynt a chynhaliwyd nifer o weithgareddau i ddathlu ei hagor ym 1983, gan gynnwys cyngerdd gyda Seindorf Trefor a nifer o ddoniau lleol yn cymryd rhan ynddo. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol gan y diweddar Maldwyn Williams, Glanfa, Trefor a oedd, ynghyd â'i wraig, Margaret, wedi chwarae rhan flaenllaw mewn sicrhau canolfan newydd i'r pentref. Sicrhawyd adeilad newydd a solet yn lle'r hen neuadd a oedd wedi dirywio'n enbyd yn ystod blynyddoedd olaf ei hanes. Fel yr hen "Hyt" mae amrywiaeth helaeth o weithgareddau wedi cael eu cynnal yn y ganolfan dros y blynyddoedd ac mae'n gartref i Ysgol Feithrin y pentref a nifer o gymdeithasau'n cyfarfod yno. Mae ynddi hefyd ystafell snwcer gyda'r byrddau wedi cael eu symud yno o'r hen neuadd. Erbyn hyn mae'r ganolfan hithau yn tynnu at ddeugain oed a gwnaed nifer o welliannau iddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cael cegin newydd a hwylus.[1]

Cyfeiriadau

1. Gwybodaeth bersonol