Neuadd Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor disgrifiwyd fel y prynwyd hen ''messroom'', sef adeilad mawr o sinc a choed a fu'n eiddo i'r...' |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Stori ddigon cyffelyb a gafwyd yn hanes Neuadd Llanaelhaearn oherwydd oddeutu'r un adeg ag y daeth yr "Rhyt", fel y'i bedyddiwyd yn lleol, i Drefor cafwyd adeilad cyffelyb o Barc Kinmel i Lanaelhaearn hefyd i wasanaethu fel neuadd bentref a pharhaodd yr adeilad hwnnw hefyd am oddeutu'r un cyfnod â neuadd Trefor. Roedd yr adeilad sinc a choed a gafwyd yn Llanaelhaearn ychydig yn llai o ran ei hyd na neuadd Trefor ac fe'i codwyd ar fin y ffordd fawr drwy'r pentref, gyferbyn â becws a siop Glanrhyd. Yn wahanol i neuadd Trefor nid oedd neuadd Llanaelhaearn wedi ei rhannu'n ddwy ystafell os cofiaf yn iawn, ond fel yn achos Trefor roedd ynddi lwyfan hwylus a chegin fach. Ar hyd y blynyddoedd paentiwyd neuadd Trefor yn wyrdd tywyll, ond llwyd oedd lliw un Llanaelhaearn. | Stori ddigon cyffelyb a gafwyd yn hanes Neuadd Llanaelhaearn oherwydd oddeutu'r un adeg ag y daeth yr "Rhyt", fel y'i bedyddiwyd yn lleol, i Drefor cafwyd adeilad cyffelyb o Barc Kinmel i Lanaelhaearn hefyd i wasanaethu fel neuadd bentref a pharhaodd yr adeilad hwnnw hefyd am oddeutu'r un cyfnod â neuadd Trefor. Roedd yr adeilad sinc a choed a gafwyd yn Llanaelhaearn ychydig yn llai o ran ei hyd na neuadd Trefor ac fe'i codwyd ar fin y ffordd fawr drwy'r pentref, gyferbyn â becws a siop Glanrhyd. Yn wahanol i neuadd Trefor nid oedd neuadd Llanaelhaearn wedi ei rhannu'n ddwy ystafell os cofiaf yn iawn, ond fel yn achos Trefor roedd ynddi lwyfan hwylus a chegin fach. Ar hyd y blynyddoedd paentiwyd neuadd Trefor yn wyrdd tywyll, ond llwyd oedd lliw un Llanaelhaearn. | ||
Fel yn achos neuadd Trefor cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn neuadd Llanaelhaearn ac roedd yn fan cyfarfod i nifer o gymdeithasau lleol. Fodd bynnag, fel gyda'r "Rhyt" yn Nhrefor cafwyd problemau cynyddol yn Llanaelhaearn gyda chyflwr yr adeilad yn dirywio dros y blynyddoedd a chostau cyson | Fel yn achos neuadd Trefor cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn neuadd Llanaelhaearn ac roedd yn fan cyfarfod i nifer o gymdeithasau lleol. Fodd bynnag, fel gyda'r "Rhyt" yn Nhrefor, cafwyd problemau cynyddol yn Llanaelhaearn gyda chyflwr yr adeilad yn dirywio dros y blynyddoedd a chostau cyson arno. Y diwedd fu iddi hithau fel neuadd Trefor gael ei dymchwel oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl. Ar y safle erbyn hyn mae adeilad Antur Aelhaearn a Meddygfa Llanaelhaearn. Bellach addaswyd festri Capel y Babell yn ganolfan hwylus i'r pentref. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
Gwybodaeth bersonol | Gwybodaeth bersonol |
Fersiwn yn ôl 11:44, 20 Gorffennaf 2021
Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Neuadd a Chae Chwarae Trefor disgrifiwyd fel y prynwyd hen messroom, sef adeilad mawr o sinc a choed a fu'n eiddo i'r fyddin ym Mharc Kinmel, fel neuadd bentref i Drefor yn y blynyddoedd yn syth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac i'r adeilad hwnnw gael ei ail-godi yn y pentref a'i agor ym 1921. Nodwyd hefyd mai'r bwriad ar y pryd oedd iddo wasanaethu fel neuadd bentref yn Nhrefor am gyfnod byr nes ceid digon o arian i adeiladu neuadd barhaol. Ond arall fu'r hanes ac fe'i defnyddiwyd fel neuadd am dros hanner canrif, nes i'r Ganolfan newydd gael ei hagor ym 1983.
Stori ddigon cyffelyb a gafwyd yn hanes Neuadd Llanaelhaearn oherwydd oddeutu'r un adeg ag y daeth yr "Rhyt", fel y'i bedyddiwyd yn lleol, i Drefor cafwyd adeilad cyffelyb o Barc Kinmel i Lanaelhaearn hefyd i wasanaethu fel neuadd bentref a pharhaodd yr adeilad hwnnw hefyd am oddeutu'r un cyfnod â neuadd Trefor. Roedd yr adeilad sinc a choed a gafwyd yn Llanaelhaearn ychydig yn llai o ran ei hyd na neuadd Trefor ac fe'i codwyd ar fin y ffordd fawr drwy'r pentref, gyferbyn â becws a siop Glanrhyd. Yn wahanol i neuadd Trefor nid oedd neuadd Llanaelhaearn wedi ei rhannu'n ddwy ystafell os cofiaf yn iawn, ond fel yn achos Trefor roedd ynddi lwyfan hwylus a chegin fach. Ar hyd y blynyddoedd paentiwyd neuadd Trefor yn wyrdd tywyll, ond llwyd oedd lliw un Llanaelhaearn.
Fel yn achos neuadd Trefor cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn neuadd Llanaelhaearn ac roedd yn fan cyfarfod i nifer o gymdeithasau lleol. Fodd bynnag, fel gyda'r "Rhyt" yn Nhrefor, cafwyd problemau cynyddol yn Llanaelhaearn gyda chyflwr yr adeilad yn dirywio dros y blynyddoedd a chostau cyson arno. Y diwedd fu iddi hithau fel neuadd Trefor gael ei dymchwel oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl. Ar y safle erbyn hyn mae adeilad Antur Aelhaearn a Meddygfa Llanaelhaearn. Bellach addaswyd festri Capel y Babell yn ganolfan hwylus i'r pentref.
Cyfeiriadau
Gwybodaeth bersonol