Carnifal Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Am flynyddoedd lawer bu'r Carnifal, a'r Mabolgampau a'i dilynai, yn ddigwyddiad pwysig yn Nhrefor ac roedd edrych ymlaen mawr at yr achlysur bob blwyddyn....'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Am flynyddoedd lawer bu'r Carnifal, a'r Mabolgampau a'i dilynai, yn ddigwyddiad pwysig yn Nhrefor ac roedd edrych ymlaen mawr at yr achlysur bob blwyddyn. Fe'i cynhelid ganol Gorffennaf, fel rheol ar y Sadwrn ar ôl i'r ysgolion gau am yr haf. Arferai'r cystadleuwyr ac eraill ymgynnull yn y llecyn agored o flaen Offis y Gwaith a byddai'r orymdaith yn cychwyn gyda Band Trefor ar y blaen. Byddai'n mynd ar hyd Trem y Môr ac yna i fyny Ffordd yr Eifl i Ben Hendra (sef sgwar y pentref). Yno byddai'r orymdaith yn troi i'r chwith, i lawr heibio i'r hen Bin Dŵr, heibio i gapel Gosen ac ar hyd Croeshigol nes cyrraedd y cae chwarae lle cynhelid y carnifal. Os byddai'r tywydd yn wlyb cynhelid y carnifal yn y Neuadd Bentref, ac yna'r Ganolfan wedi i honno agor ym 1983. Yn ogystal â chystadleuwyr unigol ceid ambell i fflôt yn cymryd rhan hefyd; am rai blynyddoedd bu gan Ferched y Wawr fflôt, gan ddefnyddio tractor a threlar fferm Y Morfa, a rheini wedi eu haddurno i gyflwyno rhyw thema arbennig am y flwyddyn dan sylw. Yn ogystal â chystadleuwyr lleol - a byddai ambell un yn ffyddlon i'r carnifal am flynyddoedd lawer - deuai cystadleuwyr o ardaloedd cyfagos i'r carnifal hefyd. (Rhaid cofio bod gan nifer o bentrefi eraill yn y gymdogaeth garnifalau bryd hynny - megis Clynnog, Llithfaen, Beddgelert, Nefyn a Chricieth.) Ar ôl i'r carnifal ddod i ben at ddiwedd y p'nawn cynhelid mabolgampau wedyn ar y Cae Chwarae. Ceid amrywiaeth o rasys i bob oedran, yn ogystal â rasys teircoes, rasys berfa a rasys mewn sachau i enwi rhai'n unig. Ambell dro cafwyd ambell gystadleuaeth bur boetslyd - fel bwyta bynsan wedi'i gorchuddio â thriog gyda'ch dwylo wedi'u clymu tu ôl i'ch cefn. Afraid dweud nad oedd y rhain yn boblogaidd iawn gyda'r mamau a oedd yn gorfod golchi'r dillad budron wedyn! Deuai'r mabolgampau i ben efo'r ras filltir - sef rhedeg bedair gwaith rownd y cae. Prin y gwelid unrhyw un bryd hynny mewn trowsus cwta a sgidiau rhedeg; yn wir nid oedd yn beth dieithr gweld ambell un yn rhedeg y ras filltir mewn sgidiau hoelion mawr. Arferiad arall a fu'n rhan o'r carnifal am flynyddoedd oedd rhoi cant o lo yn anrheg i'r unigolyn hynaf ar y cae ar y diwrnod. Cofiaf yn blentyn fel y byddai hen ŵr a oedd yn byw ym Mhen Bont yn Nhrefor bryd hynny gael y cant o lo am lawer blwyddyn yn olynol. Gwaetha'r modd, fel llawer o achlysuon pentrefol eraill, daeth y carnifal a'r mabolgampau i ben tua diwedd y 1980au.  
Am flynyddoedd lawer bu'r Carnifal, a'r Mabolgampau a'i dilynai, yn ddigwyddiad pwysig yn Nhrefor ac roedd edrych ymlaen mawr at yr achlysur bob blwyddyn. Fe'i cynhelid ganol Gorffennaf, fel rheol ar y Sadwrn ar ôl i'r ysgolion gau am yr haf. Arferai'r cystadleuwyr ac eraill ymgynnull yn y llecyn agored o flaen Offis y Gwaith a byddai'r orymdaith yn cychwyn gyda Band Trefor ar y blaen. Byddai'n mynd ar hyd Trem y Môr ac yna i fyny Ffordd yr Eifl i Ben Hendra (sef sgwar y pentref). Yno byddai'r orymdaith yn troi i'r chwith, i lawr heibio i'r hen Bin Dŵr, heibio i gapel Gosen ac ar hyd Croeshigol nes cyrraedd y cae chwarae lle cynhelid y carnifal. Os byddai'r tywydd yn wlyb cynhelid y carnifal yn y Neuadd Bentref, ac yna'r Ganolfan wedi i honno agor ym 1983. Yn ogystal â chystadleuwyr unigol ceid ambell i fflôt yn cymryd rhan hefyd; am rai blynyddoedd bu gan Ferched y Wawr fflôt, gan ddefnyddio tractor a threlar fferm Y Morfa, a rheini wedi eu haddurno i gyflwyno rhyw thema arbennig am y flwyddyn dan sylw. Yn ogystal â chystadleuwyr lleol - a byddai ambell un yn ffyddlon i'r carnifal am flynyddoedd lawer - deuai cystadleuwyr o ardaloedd cyfagos i'r carnifal hefyd. (Rhaid cofio bod gan nifer o bentrefi eraill yn y gymdogaeth garnifalau bryd hynny - megis Clynnog, Llithfaen, Beddgelert, Nefyn a Chricieth.) Ar ôl i'r carnifal ddod i ben at ddiwedd y p'nawn cynhelid mabolgampau wedyn ar y Cae Chwarae. Ceid amrywiaeth o rasys i bob oedran, yn ogystal â rasys teircoes, rasys berfa a rasys mewn sachau i enwi rhai'n unig. Ambell dro cafwyd ambell gystadleuaeth bur boetslyd - fel bwyta bynsan yn hongian ar gortyn ac wedi'i gorchuddio â thriog gyda'ch dwylo wedi'u clymu tu ôl i'ch cefn. Afraid dweud nad oedd y rhain yn boblogaidd iawn gyda'r mamau a oedd yn gorfod golchi'r dillad budron wedyn! Deuai'r mabolgampau i ben efo'r ras filltir - sef rhedeg bedair gwaith rownd y cae. Prin y gwelid unrhyw un bryd hynny mewn trowsus cwta a sgidiau rhedeg; yn wir nid oedd yn beth dieithr gweld ambell un yn rhedeg y ras filltir mewn sgidiau hoelion mawr. Arferiad arall a fu'n rhan o'r carnifal am flynyddoedd oedd rhoi cant o lo yn anrheg i'r unigolyn hynaf ar y cae ar y diwrnod. Cofiaf yn blentyn fel y byddai hen ŵr a oedd yn byw ym Mhen Bont yn Nhrefor bryd hynny yn cael y cant o lo am lawer blwyddyn yn olynol. Gwaetha'r modd, fel llawer o achlysuon pentrefol eraill, daeth y carnifal a'r mabolgampau i ben tua diwedd y 1980au.  

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Gwybodaeth bersonol.
Gwybodaeth bersonol.

Fersiwn yn ôl 14:34, 2 Gorffennaf 2021

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol.