Howel Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd genedigol o blwyf Clynnog oedd Howel Gethin, yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol ''Enwogion Sir Gaernarfon'' ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdan...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd genedigol o blwyf Clynnog oedd Howel Gethin, yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol ''Enwogion Sir Gaernarfon'' ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdano. Dywed Myrddin ei fod yn ei flodau fel bardd rhwng 1570 a 1680, sydd yn amlwg yn wallus gan fod hynny'n gyfnod o 110 o flynyddoedd. Dywed Myrddin ymhellach fod rhai o'i gyfansoddiadau i'w cael mewn llawysgrifau a bod un neu ddau o'i gywyddau wedi eu hargraffu. Cyfansoddai farddoniaeth fawl a marwnad i rai o fân uchelwyr yr ardal, megis "Cywydd pedwar Maib Rhys ab Howell ab Madog (Berkin) o Lanystumdwy yn Eifionydd". Barn Myrddin amdano fel bardd oedd ei fod yn loyw a medrus ei grefft yn y mesurau caeth ond ei bod yn debygol fod nifer o wallau wedi llithro i'w waith a gadwyd oherwydd camgymeriadau a wnaed gan gopïwyr diweddarach.  
Bardd genedigol o blwyf [[Clynnog Fawr]] oedd '''Howel Gethin''', yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol ''Enwogion Sir Gaernarfon'' ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdano.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.146.</ref> Dywed Myrddin ei fod yn ei flodau fel bardd rhwng 1570 a 1680, sydd yn amlwg yn wallus gan fod hynny'n gyfnod o 110 o flynyddoedd. Dywed Myrddin ymhellach fod rhai o'i gyfansoddiadau i'w cael mewn llawysgrifau a bod un neu ddau o'i gywyddau wedi eu hargraffu. Cyfansoddai farddoniaeth fawl a marwnad i rai o fân uchelwyr yr ardal, megis "Cywydd pedwar Maib Rhys ab Howell ab Madog (Berkin) o Lanystumdwy yn Eifionydd". Barn Myrddin amdano fel bardd oedd ei fod yn loyw a medrus ei grefft yn y mesurau caeth ond ei bod yn debygol fod nifer o wallau wedi llithro i'w waith a gadwyd oherwydd camgymeriadau a wnaed gan gopïwyr diweddarach.  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', t.146.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:42, 24 Mehefin 2021

Bardd genedigol o blwyf Clynnog Fawr oedd Howel Gethin, yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol Enwogion Sir Gaernarfon ond tenau eithriadol yw'r wybodaeth amdano.[1] Dywed Myrddin ei fod yn ei flodau fel bardd rhwng 1570 a 1680, sydd yn amlwg yn wallus gan fod hynny'n gyfnod o 110 o flynyddoedd. Dywed Myrddin ymhellach fod rhai o'i gyfansoddiadau i'w cael mewn llawysgrifau a bod un neu ddau o'i gywyddau wedi eu hargraffu. Cyfansoddai farddoniaeth fawl a marwnad i rai o fân uchelwyr yr ardal, megis "Cywydd pedwar Maib Rhys ab Howell ab Madog (Berkin) o Lanystumdwy yn Eifionydd". Barn Myrddin amdano fel bardd oedd ei fod yn loyw a medrus ei grefft yn y mesurau caeth ond ei bod yn debygol fod nifer o wallau wedi llithro i'w waith a gadwyd oherwydd camgymeriadau a wnaed gan gopïwyr diweddarach.

Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.146.