Edmund Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Y Parch Edmund Francis i Edmund Francis heb adael dolen ailgyfeirio
 
(Dim gwahaniaeth)

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:40, 24 Mehefin 2021

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn Enwogion Sir Gaernarfon iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda,[1] ond yn yr erthygl arno yn Y Bywgraffiadur Gymreig dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786.[2] Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog Chwarel Cilgwyn. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros waith copr Drws-y-coed. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean, Comisiwn Crist i'w Apostolion, i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb:

    Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund
          Ddiwyd, mwyn a ffyddlon;
      Cywir ei fryd, carai ei fron
      Ddaioni i'w gyd-ddynion. 

= Cyfeiriadau

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.88.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, (Llundain, 1953),t.252.