Edmund Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn ''Enwogion Sir Gaernarfon'' iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda, ond yn yr erthygl arno yn ''Y Bywgraffiadur Gymreig'' dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786. Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog chwarel Y Cilgwyn. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros waith copr Drws-y-coed. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean ''Comisiwn Crist i'w Apostolion'' i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb:
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn ''Enwogion Sir Gaernarfon'' iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda, ond yn yr erthygl arno yn ''Y Bywgraffiadur Gymreig'' dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786. Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog chwarel Y Cilgwyn. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros waith copr Drws-y-coed. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean, ''Comisiwn Crist i'w Apostolion'', i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb:


     Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund
     Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund

Fersiwn yn ôl 11:09, 24 Mehefin 2021

Gweinidog gyda'r Bedyddwyr Albanaidd oedd Edmund Francis. Dywed Myrddin Fardd yn Enwogion Sir Gaernarfon iddo gael ei eni yn Hafoty Drwsgl ym mhlwyf Llanwnda, ond yn yr erthygl arno yn Y Bywgraffiadur Gymreig dywedir mai gŵr o Fôn ydoedd mae'n fwy na thebyg gan i'w fam, Lydia Francis, gael ei bedyddio yn Amlwch ac yno hefyd y bedyddiwyd yntau ar 8 Hydref 1786. Dechreuodd bregethu cyn 1790 ac ar 1 Rhagfyr 1795 fe'i hurddwyd yn gynorthwywr i Christmas Evans, a oedd bryd hynny'n coleddu daliadau'r Sandemaniaid, neu'r Bedyddwyr Albanaidd. Glynodd Edmund Francis wrth y daliadau hynny gydol ei oes. Symudodd i Gaernarfon ym 1799 i weithio fel clerc i fasnachwr llechi, Richard Roberts, a oedd hefyd yn berchennog chwarel Y Cilgwyn. Pan fu farw Roberts ym 1815, sefydlodd Francis fusnes ŷd a blawd ac roedd yn gweithredu hefyd dros waith copr Drws-y-coed. Tua 1801 sefydlodd Francis eglwysi i'r Bedyddwyr Albanaidd yng Nghaernarfon a Llanllyfni gan weithredu fel gweinidog arnynt. Er nad oedd yn bregethwr dawnus yn ôl y sôn, credai'n angerddol yn ei ddaliadau ac roedd ganddo synnwyr cyffredin cadarn a gwybodaeth gyffredinol eang. Cyfieithodd waith Archibald McLean, Comisiwn Crist i'w Apostolion, i'r Gymraeg. Bu farw 5 Rhagfyr 1831 a'i gladdu ym mynwent y Bedyddwyr Albanaidd yn Llanllyfni, lle ceir yr englyn a ganlyn ar ei gofeb:

    Gwir astud ffyddiog Gristion - oedd Edmund
          Ddiwyd, mwyn a ffyddlon;
      Cywir ei fryd, carai ei fron
      Ddaioni i'w gyd-ddynion. 

= Cyfeiriadau

John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.88. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.252.