Ffatri Wlân Clynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Fel y gwelsom uchod, yr oedd hi'n dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau yn adeg honno gan blant [[Ysgol Ynys-yr-arch]] yn ei hunangofiant:
Fel y gwelsom uchod, yr oedd hi'n dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau yn adeg honno gan blant [[Ysgol Ynys-yr-arch]] yn ei hunangofiant:
  Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Tryfan'' (Pen-y-groes, 1981), t.24</ref>
  Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.<ref>O. Roger Owen, ''O Ben Moel Tryfan'' (Pen-y-groes, 1981), t.24</ref>
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Echoes from a Water Wheel'' (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29</ref> Dyddia'r bil o 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd [[Melin Faesog]] gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd.  
Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Echoes from a Water Wheel'' (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29</ref> Dyddiad y bil yw 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd [[Melin Faesog]] gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd. Sylwer ar dop y bil y rhestr o bethau yr oedd y ffatri'n eu cynhyrchu.  





Fersiwn yn ôl 20:47, 24 Mai 2021

Hen fil Ffatri Wlân Clynnog, 1891

Safai Ffatri Wlân Clynnog ym mhentrefan Tai Lôn. Tröwyd olwyn ddŵr y ffatri gan Afon Rheon. Mae'n sicr ei bod hi wedi ei sefydlu erbyn 1841, pan oedd John Roberts, gwehydd yno yn byw mewn eiddo a elwid yn "Factory" yn Nhai Lôn,[1] ac erbyn 1850 roedd hi'n fusnes ddigon pwysig i gael ei chyfrif mewn rhestr o felinau gwlân y sir.[2] Ym 1851, roedd John Roberts yno o hyd, ac yn cael ei ddisgrifio fel meistr-wehydd gwlân. Nid oedd ei fab Joseph, a fyddai'n ei olynu, yn byw yno ar y pryd; ond deng mlynedd yn ddiweddarach, roedd Joseph yn ôl adref, yn gweithio i'w dad fel gweithiwr ffatri wlân. Yr oedd ei dad tua 74 oed ac erbyn 1871, roedd wedi trosglwyddo'r ffatri i'w fab Joseph, a oedd wedi penderfynu am ryw reswm neu'i gilydd ddefnyddio'r cyfenw patronymig Jones yn lle Roberts - ond roedd ei dad, John Roberts, 84 oed erbyn hynny, yn dal yno. Roedd wedi colli ei wraig, ac yn cael ei ddisgrifio'n syml fel gwehydd gwlân - yn methu ymddeol yn llwyr, mae'n debyg. Yn ogystal â John Roberts, roedd pedwar o wehyddion cyflogedig yn byw yn y ffatri efo'r teulu. Ym 1891, roedd un gweithiwr yn byw yno gyda'r teulu. Ym 1901, roedd y ffatri'n dal i weithio, ond y flwyddyn honno fe ddisgrifiodd cyfrifwr y Cyfrifiad Joseph fel gwneuthurwr gwlanen ("Flannel Manufacturer"). Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd Joseph wedi marw ac yr oedd yna berchennog newydd ar fusnes y ffatri, sef John Hughes, dyn 43 oed a ddisgrifiodd ei hun ar y ffurflen Cyfrifiad fel "Ffatrwr/Masnachwr" ac yn feistr-grefftwr. Dyn o'r Bala ydoedd, ond roedd ei wraig Martha'n hanu o Fethesda.[3]

Fel y gwelsom uchod, yr oedd hi'n dal i weithio ym 1911. Meddai O. Roger Owen, wrth sôn am dripiau yn adeg honno gan blant Ysgol Ynys-yr-arch yn ei hunangofiant:

Cawsom hefyd fynd i weld ffatri wlân Tai Lôn, gweld yr amryw beiriannau, a'r perchennog yn egluro i ni sut y defnyddid hwy. Olwyn ddŵr fawr oedd yn troi'r peiriannau.[4]

Mae Sophia Pari-Jones wedi cynnwys llun o fil y felin sydd yn dangos llun y ffatri. Fe'i atgynhyrchir ar y dudalen hon.[5] Dyddiad y bil yw 1891, ryw 20 mlynedd cyn ymweliad y Roger Owen ifanc â'r ffatri, ond mae'n bosibl bod yr engrafiad wedi ei wneud gryn amser cyn hynny. John Jones, melinydd Melin Faesog gerllaw, oedd y sawl oedd yn ddyledus i Joseph Jones, perchennog y ffatri ar y pryd. Sylwer ar dop y bil y rhestr o bethau yr oedd y ffatri'n eu cynhyrchu.


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Clynnog Fawr, 1841
  2. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), t.240
  3. Cyfrifiadau plwyf Clynnog Fawr, 1851-1911
  4. O. Roger Owen, O Ben Moel Tryfan (Pen-y-groes, 1981), t.24
  5. Sophia Pari-Jones, Echoes from a Water Wheel (Bangor, 2011), llun rhwng tt.28/29