Adeiladu llongau yn Nhrefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Yn wahanol i drefi morwrol fel Nefyn, Pwllheli a Phorthmadog nid oedd traddodiad sylweddol o adeiladu llongau yn Nhrefor. Fodd bynnag, yn ei gyfrol bwysig ''Hen Longau Sir Gaernarfon'' mae David Thomas yn cyfeirio at dair llong a adeiladwyd ar lan y môr yn Nhrefor. Adeiladwyd y gyntaf o'r rhain ym 1854, ddwy flynedd cyn adeiladu tai cyntaf pentref newydd Trefor. Slŵp fechan un mast 20 tunnell oedd hon ac, yn unol â'r arfer o roi enwau Saesneg i longau a chychod, fe'i galwyd yn "Arvon Lass". Nodir iddi gael ei cholli ar y môr ond ni cheir unrhyw fanylion pryd y digwyddodd hynny.
Yn wahanol i drefi morwrol fel Nefyn, Pwllheli a Phorthmadog nid oedd traddodiad sylweddol o adeiladu llongau yn Nhrefor. Fodd bynnag, yn ei gyfrol bwysig ''Hen Longau Sir Gaernarfon'' mae David Thomas yn cyfeirio at dair llong a adeiladwyd ar lan y môr yn Nhrefor. Adeiladwyd y gyntaf o'r rhain ym 1854 gan Evan Thomas, ddwy flynedd cyn adeiladu tai cyntaf pentref newydd Trefor. Slŵp fechan un mast 20 tunnell oedd hon ac, yn unol â'r arfer o roi enwau Saesneg i longau a chychod, fe'i galwyd yn "Arvon Lass". Nodir iddi gael ei cholli ar y môr ond ni cheir unrhyw fanylion pryd y digwyddodd hynny. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, ym 1866, adeiladodd Evan Thomas long lawer mwy yn Nhrefor, sef sgwner 93 tunnell a alwyd yn "Zion Hill". Y llong arall a gofnodir gan David Thomas oedd yr "Ion", brigantîn 23 tunnell a adeiladwyd ym 1874 gan H. Thomas. Adeiladwyd y llong hon yn benodol i fasnachu â Lerpwl ac roedd llawer o longau bychain tebyg iddi yn hwylio'n ôl a blaen bryd hynny rhwng Lerpwl a mân borthladdoedd Môn, Arfon a Llŷn.

Fersiwn yn ôl 15:11, 10 Mai 2021

Yn wahanol i drefi morwrol fel Nefyn, Pwllheli a Phorthmadog nid oedd traddodiad sylweddol o adeiladu llongau yn Nhrefor. Fodd bynnag, yn ei gyfrol bwysig Hen Longau Sir Gaernarfon mae David Thomas yn cyfeirio at dair llong a adeiladwyd ar lan y môr yn Nhrefor. Adeiladwyd y gyntaf o'r rhain ym 1854 gan Evan Thomas, ddwy flynedd cyn adeiladu tai cyntaf pentref newydd Trefor. Slŵp fechan un mast 20 tunnell oedd hon ac, yn unol â'r arfer o roi enwau Saesneg i longau a chychod, fe'i galwyd yn "Arvon Lass". Nodir iddi gael ei cholli ar y môr ond ni cheir unrhyw fanylion pryd y digwyddodd hynny. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, ym 1866, adeiladodd Evan Thomas long lawer mwy yn Nhrefor, sef sgwner 93 tunnell a alwyd yn "Zion Hill". Y llong arall a gofnodir gan David Thomas oedd yr "Ion", brigantîn 23 tunnell a adeiladwyd ym 1874 gan H. Thomas. Adeiladwyd y llong hon yn benodol i fasnachu â Lerpwl ac roedd llawer o longau bychain tebyg iddi yn hwylio'n ôl a blaen bryd hynny rhwng Lerpwl a mân borthladdoedd Môn, Arfon a Llŷn.