Capel Seion (MC), Gurn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Capel Methodistaidd yn ardal [[Gurn Goch]] yw '''Capel Seion'''. Bellach mae'r achos wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd ac mae'r capel | Capel Methodistaidd yn ardal [[Gurn Goch]] yw '''Capel Seion'''. Bellach mae'r achos wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd ac mae'r capel yn dŷ erbyn hyn. | ||
Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad i ddiwygiad 1818 - a adwaenid fel Diwygiad Beddgelert, gan mai yno y dechreuodd gan ymledu drwy'r ardaloedd cyfagos. Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn. | Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad i ddiwygiad 1818 - a adwaenid fel Diwygiad Beddgelert, gan mai yno y dechreuodd gan ymledu drwy'r ardaloedd cyfagos. Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn. | ||
Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu ffermdy'r ''Hen Derfyn'' gerllaw, gyda’r ysgol Sul yn cael ei chynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned. (Gweler yr erthygl ar Achos Methodistaidd Hen Derfyn yn Cof y Cwmwd.) | Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu ffermdy'r ''Hen Derfyn'' gerllaw, gyda’r ysgol Sul yn cael ei chynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned. (Gweler yr erthygl ar [[Achos Methodistaidd Hen Derfyn]] yn Cof y Cwmwd.) | ||
Cafodd [[Eben Fardd]] ei dderbyn yn aelod ym 1840 neu 1841, a bron yn syth fe'i codwyd yn flaenor. Ym 1845, ar agoriad [[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr|capel newydd ym mhentref Clynnog]] fe symudodd dau flaenor at yr achos newydd, sef Ebeneser Thomas (Eben Fardd) a James Williams. Roedd y ddau gapel yn rhan o'r un 'daith'.<ref>W. Hobley, . ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 76, 84</ref> | Cafodd [[Eben Fardd]] ei dderbyn yn aelod ym 1840 neu 1841, a bron yn syth fe'i codwyd yn flaenor. Ym 1845, ar agoriad [[Capel Ebeneser (MC), Clynnog Fawr|capel newydd ym mhentref Clynnog]] fe symudodd dau flaenor at yr achos newydd, sef Ebeneser Thomas (Eben Fardd) a James Williams. Roedd y ddau gapel yn rhan o'r un 'daith'.<ref>W. Hobley, . ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910) tt. 76, 84</ref> |
Fersiwn yn ôl 17:56, 6 Mai 2021
Capel Methodistaidd yn ardal Gurn Goch yw Capel Seion. Bellach mae'r achos wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd ac mae'r capel yn dŷ erbyn hyn.
Credir i’r addoldy hwn ei adeiladu o ganlyniad i ddiwygiad 1818 - a adwaenid fel Diwygiad Beddgelert, gan mai yno y dechreuodd gan ymledu drwy'r ardaloedd cyfagos. Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1826 a rhoddwyd prydles o 101 mlynedd ar y Capel am 6 swllt y flwyddyn.
Cyn addoli yn y Capel hwn, roedd Methodistiaid yr ardal yn mynychu ffermdy'r Hen Derfyn gerllaw, gyda’r ysgol Sul yn cael ei chynnal yn nhai gwahanol aelodau o’r gymuned. (Gweler yr erthygl ar Achos Methodistaidd Hen Derfyn yn Cof y Cwmwd.)
Cafodd Eben Fardd ei dderbyn yn aelod ym 1840 neu 1841, a bron yn syth fe'i codwyd yn flaenor. Ym 1845, ar agoriad capel newydd ym mhentref Clynnog fe symudodd dau flaenor at yr achos newydd, sef Ebeneser Thomas (Eben Fardd) a James Williams. Roedd y ddau gapel yn rhan o'r un 'daith'.[1]
Ail-adeiladwyd y Capel a chodwyd tŷ capel ar y safle yn 1875, ar gost o £700. Credir i’r ddyled gael ei thalu'n ôl i gyd o fewn 7 mlynedd o agor y Capel[2].
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma