Twrog Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Credir i '''Twrog''' fyw yn ystod y 6-7g, a'i fod yn fab i Ithel Hael, a ddaeth i Gymru o Lydaw. Roedd yn frawd i'r saint Tanwg, Tecwyn, Tegai a Baglan. B...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Saint]]

Fersiwn yn ôl 22:34, 18 Rhagfyr 2017

Credir i Twrog fyw yn ystod y 6-7g, a'i fod yn fab i Ithel Hael, a ddaeth i Gymru o Lydaw. Roedd yn frawd i'r saint Tanwg, Tecwyn, Tegai a Baglan. Baglan yw nawdd-sant Llanfaglan yn Isgwyrfai.

Mae nifer o eglwysi eraill yn gysylltiedig ag ef, sef Maentwrog (Meirionnydd), Bodwrog (Sir Fôn) a chapel (sydd bellach yn furddun) ar Garreg y Capel (Chapel Rock) yn aber yr Afon Hafren ger Beachley, swydd Caerloyw (nid nepell o Gas-Gwent).

Mae'n debyg iddo fod yn aelod o gymuned yr Eglwys Geltaidd ar Ynys Enlli.

Ei wylmabsant oedd 26 Mehefin (ac hefyd 15 Awst).

Ffynonellau

  • Erthygl Wicipedia [[1]]
  • Erthygl Wikipedia [[2]]