Capel Cwm Coryn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:770471 995f909f.jpg|bawd|de|350px]]
[[Delwedd:770471 995f909f.jpg|bawd|de|350px]]


Capel y Methodistiaid Calfinaidd yw '''Capel Cwm Coryn''', [[Llanaelhaearn]]. Ym 1831, torrodd diwygiad allan yn capel cyn lledu trwy'r fro.<ref>Robert Hughes, ''Hunan-Gofiant ynghyda Phregethau a Barddoniaeth y Diweddar Barch. Robert Hughes, (Robin Goch), Uwchlaw’rffynon'', (Pwllheli, 1893) tt.33-5</ref>
Capel a oedd yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd oedd'''Capel Cwm Coryn''', [[Llanaelhaearn]].  
 
Adeiladwyd yn 1811, a chafodd ei adnewyddu yn 1871. Cyfeirnod grid y Capel yw SH40324517.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/6856/details/cwmcoryn-chapel-calvinistic-methodist Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.]</ref>
=== Dechrau'r achos ===
 
Yn dilyn ymadawiad Robert Owen, Bryngadfa, â phlwyf Llanaelhaearn (gweler yr erthygl ar Seiat Fethodistaidd Bryngadfa yn Cof y Cwmwd), ni bu llawer o lewyrch ar bethau yn yr ardal am rai blynyddoedd, gyda gweddill seiadwyr Bryngadfa wedi symud i Frynengan mae'n fwy na thebyg.
 
Fodd bynnag, ail-daniwyd yr achos Methodistaidd yn ardal Llanaelhaearn tua'r flwyddyn 1807 pan ddaeth John Elias - a aned yn Crymllwyn Bach, plwyf Aber-erch - i bregethu yn ffermdy Pentre-bach. O ganlyniad sefydlwyd Ysgol Sul ym meudy fferm Moelfre-bach gerllaw gan Robert Roberts, Pentre-bach a Dafydd Prichard y Gof. Yn ystod y blynyddoedd 1807-11 pregethwyd yn nifer o ffermdai'r ardal ac arweiniodd hynny at godi capel cyntaf Cwmcoryn ym 1811. Adeilad bychan ac amrwd tu hwnt oedd y capel cyntaf - "tebycach i fwth bugail i'w gysgodi rhag gwres ac ystorm yng nghanol ymherodraeth y geifr gwylltion nag i Dem i addoli y gwir a bywiol Dduw" - ym marn Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon. Gwnaed cais am drwyddedu'r capel diaddurn hwn ar 13 Ebrill ac fe'i caniatawyd ar 25 Awst yr un flwyddyn. Mae Edmund Hyde Hall yn cyfeirio at achos Cwmcoryn yn ei ddisgrifiad o'i daith drwy'r plwyf ym 1809 neu 1811, gan ddweud mai honno oedd yr unig gynulleidfa ymneilltuol o fewn plwyf Llanaelhaearn.<sup>[1]</sup>
 
=== Hanes diweddarach ===
 
Cynyddodd yr achos cynnar yn Cwmcoryn ac, ym 1831, torrodd diwygiad allan yn capel cyn ymledu drwy'r fro.<ref>Robert Hughes, ''Hunan-Gofiant ynghyda Phregethau a Barddoniaeth y Diweddar Barch. Robert Hughes, (Robin Goch), Uwchlaw’rffynon'', (Pwllheli, 1893) tt.33-5</ref>
Drigain mlynedd ar ôl agor y capel cyntaf, codwyd capel newydd, helaethach ar y safle ym 1871. Parhaodd achos Cwmcoryn i wasanaethu'r gymuned o ffermydd gwasgarog ar y llethrau uwchlaw Llanaelhaearn am dros ganrif a hanner, a bu'n gyrchfan i gyngherddau a chymanfaoedd canu, yn ogystal ag oedfaon ar y Sul, er gwaethaf ei safle anghysbell. Am gyfnod bu'n rhan o ofalaeth a oedd yn cynnwys eglwysi Gosen, Trefor a'r Babell, Llanaelhaearn hefyd. Fodd bynnag, gyda'r gynulleidfa'n heneiddio a phrinhau daeth yr achos i ben oddeutu diwedd y 1980au ac mae'r capel yn dŷ ers blynyddoedd bellach. Cyfeirnod grid y Capel yw SH40324517.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/6856/details/cwmcoryn-chapel-calvinistic-methodist Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.]</ref>


==Eginyn==  
==Eginyn==  


==Cyfeiriadau==  
==Cyfeiriadau==  
 
1. Goronwy P. Owen, ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'', (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.204-5.





Fersiwn yn ôl 14:55, 16 Ebrill 2021

Capel a oedd yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd oeddCapel Cwm Coryn, Llanaelhaearn.

Dechrau'r achos

Yn dilyn ymadawiad Robert Owen, Bryngadfa, â phlwyf Llanaelhaearn (gweler yr erthygl ar Seiat Fethodistaidd Bryngadfa yn Cof y Cwmwd), ni bu llawer o lewyrch ar bethau yn yr ardal am rai blynyddoedd, gyda gweddill seiadwyr Bryngadfa wedi symud i Frynengan mae'n fwy na thebyg.

Fodd bynnag, ail-daniwyd yr achos Methodistaidd yn ardal Llanaelhaearn tua'r flwyddyn 1807 pan ddaeth John Elias - a aned yn Crymllwyn Bach, plwyf Aber-erch - i bregethu yn ffermdy Pentre-bach. O ganlyniad sefydlwyd Ysgol Sul ym meudy fferm Moelfre-bach gerllaw gan Robert Roberts, Pentre-bach a Dafydd Prichard y Gof. Yn ystod y blynyddoedd 1807-11 pregethwyd yn nifer o ffermdai'r ardal ac arweiniodd hynny at godi capel cyntaf Cwmcoryn ym 1811. Adeilad bychan ac amrwd tu hwnt oedd y capel cyntaf - "tebycach i fwth bugail i'w gysgodi rhag gwres ac ystorm yng nghanol ymherodraeth y geifr gwylltion nag i Dem i addoli y gwir a bywiol Dduw" - ym marn Robert Hughes, Uwchlaw'r ffynnon. Gwnaed cais am drwyddedu'r capel diaddurn hwn ar 13 Ebrill ac fe'i caniatawyd ar 25 Awst yr un flwyddyn. Mae Edmund Hyde Hall yn cyfeirio at achos Cwmcoryn yn ei ddisgrifiad o'i daith drwy'r plwyf ym 1809 neu 1811, gan ddweud mai honno oedd yr unig gynulleidfa ymneilltuol o fewn plwyf Llanaelhaearn.[1]

Hanes diweddarach

Cynyddodd yr achos cynnar yn Cwmcoryn ac, ym 1831, torrodd diwygiad allan yn capel cyn ymledu drwy'r fro.[1] Drigain mlynedd ar ôl agor y capel cyntaf, codwyd capel newydd, helaethach ar y safle ym 1871. Parhaodd achos Cwmcoryn i wasanaethu'r gymuned o ffermydd gwasgarog ar y llethrau uwchlaw Llanaelhaearn am dros ganrif a hanner, a bu'n gyrchfan i gyngherddau a chymanfaoedd canu, yn ogystal ag oedfaon ar y Sul, er gwaethaf ei safle anghysbell. Am gyfnod bu'n rhan o ofalaeth a oedd yn cynnwys eglwysi Gosen, Trefor a'r Babell, Llanaelhaearn hefyd. Fodd bynnag, gyda'r gynulleidfa'n heneiddio a phrinhau daeth yr achos i ben oddeutu diwedd y 1980au ac mae'r capel yn dŷ ers blynyddoedd bellach. Cyfeirnod grid y Capel yw SH40324517.[2]

Eginyn

Cyfeiriadau

1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.204-5. [[Categori: Safleoedd crefyddol]

  1. Robert Hughes, Hunan-Gofiant ynghyda Phregethau a Barddoniaeth y Diweddar Barch. Robert Hughes, (Robin Goch), Uwchlaw’rffynon, (Pwllheli, 1893) tt.33-5
  2. Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.