Brêc Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Darn o graig naturiol sy'n mynd i lawr yn weddol isel at y môr ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) yn Nhrefor yw'r Brêc Bach. Mae'n lle poblogaidd i b...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Darn o graig naturiol sy'n mynd i lawr yn weddol isel at y môr ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) yn Nhrefor yw'r Brêc Bach. Mae'n lle poblogaidd i bysgotwyr. Daw mecryll yn nes i'r lan at ddiwedd y tymor (tua Awst/Medi) ac mae modd eu dal oddi ar y clogwyn. Hefyd daw rhai yno i bysgota am ddraenogod y môr (''sea bass'') a morleisiod. Galwyd y graig yn Brêc Bach gan fod Brêc (''breakwater'') arall dipyn mwy i'w chael ym mhen dwyreiniol y clogwyn, nid nepell o draeth Trefor. Adeiladwaith o goncrid yw'r brêc yma a godwyd i atal cerrig rhag cael eu cludo gyda'r llanw at y cei pan oedd y chwarel yn gweithredu a llawer o longau'n galw yno am lwythi o gerrig. Mae dwy ran i'r Brêc, gyda'r rhan uchaf, ym môn y clogwyn, rai troedfeddi'n uwch na'r rhan is, sy'n ymestyn rai llathenni ymhellach allan i'r môr. Ffurfiwyd y Brêc drwy suddo hen ysgarff o'r enw ''Mary Foxley'' ac yn ei llenwi â choncrid. Er ei bod wedi wynebu stormydd Bae Caernarfon ers degawdau lawer, mae'r Brêc yn ymddangos fel pe bai mewn cyflwr pur dda o hyd.  
Darn o graig naturiol sy'n mynd i lawr yn weddol isel at y môr ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) yn Nhrefor yw'r Brêc Bach. Mae'n lle poblogaidd i bysgotwyr. Daw mecryll yn nes i'r lan at ddiwedd y tymor (tua Awst/Medi) ac mae modd eu dal oddi ar y clogwyn. Hefyd daw rhai yno i bysgota am ddraenogod y môr (''sea bass'') a morleisiod. Galwyd y graig yn Brêc Bach gan fod Brêc (''breakwater'') arall dipyn mwy i'w chael ym mhen dwyreiniol y clogwyn, nid nepell o draeth Trefor. Adeiladwaith o goncrid yw'r brêc yma a godwyd i atal cerrig rhag cael eu cludo gyda'r llanw at y cei pan oedd y chwarel yn gweithredu a llawer o longau'n galw yno am lwythi o gerrig. Mae dwy ran i'r Brêc, gyda'r rhan uchaf, ym môn y clogwyn, rai troedfeddi'n uwch na'r rhan is, sy'n ymestyn rai llathenni ymhellach allan i'r môr. Ffurfiwyd y Brêc drwy suddo hen ysgarff o'r enw ''Mary Foxley'' ac yn ei llenwi â choncrid.<sup>[1]</sup> Er ei bod wedi wynebu stormydd Bae Caernarfon ers degawdau lawer, mae'r Brêc yn ymddangos fel pe bai mewn cyflwr pur dda o hyd.  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


Elfed Gruffydd, ''Ar Hyd Ben 'Rallt'', (Llyfrau Llafar Gwlad, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t.11.
1. Elfed Gruffydd, ''Ar Hyd Ben 'Rallt'', (Llyfrau Llafar Gwlad, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t.11.; Gwybodaeth bersonol

Fersiwn yn ôl 10:12, 15 Ebrill 2021

Darn o graig naturiol sy'n mynd i lawr yn weddol isel at y môr ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) yn Nhrefor yw'r Brêc Bach. Mae'n lle poblogaidd i bysgotwyr. Daw mecryll yn nes i'r lan at ddiwedd y tymor (tua Awst/Medi) ac mae modd eu dal oddi ar y clogwyn. Hefyd daw rhai yno i bysgota am ddraenogod y môr (sea bass) a morleisiod. Galwyd y graig yn Brêc Bach gan fod Brêc (breakwater) arall dipyn mwy i'w chael ym mhen dwyreiniol y clogwyn, nid nepell o draeth Trefor. Adeiladwaith o goncrid yw'r brêc yma a godwyd i atal cerrig rhag cael eu cludo gyda'r llanw at y cei pan oedd y chwarel yn gweithredu a llawer o longau'n galw yno am lwythi o gerrig. Mae dwy ran i'r Brêc, gyda'r rhan uchaf, ym môn y clogwyn, rai troedfeddi'n uwch na'r rhan is, sy'n ymestyn rai llathenni ymhellach allan i'r môr. Ffurfiwyd y Brêc drwy suddo hen ysgarff o'r enw Mary Foxley ac yn ei llenwi â choncrid.[1] Er ei bod wedi wynebu stormydd Bae Caernarfon ers degawdau lawer, mae'r Brêc yn ymddangos fel pe bai mewn cyflwr pur dda o hyd.

Cyfeiriadau

1. Elfed Gruffydd, Ar Hyd Ben 'Rallt, (Llyfrau Llafar Gwlad, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t.11.; Gwybodaeth bersonol