Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch". | Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch". | ||
Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau arferol (e.e. "Thomas Wynn (Arglwydd Newborough) ). | |||
==Ffynonellau== | |||
* Samuel Lewis, ''A Topographical Dictionary of Ireland'' (1837) | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 20:04, 18 Rhagfyr 2017
Arglwydd Newborough yw'r teitl a gafodd Thomas Wynn (Arglwydd Newborough) am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.
Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".
Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau arferol (e.e. "Thomas Wynn (Arglwydd Newborough) ).
Ffynonellau
- Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Ireland (1837)