Capel Gosen (A), Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Capel Gosen (A), Y Groeslon.jpg|bawd|de|400px|Capel Gosen, 2018, wedi ei werthu]] | [[Delwedd:Capel Gosen (A), Y Groeslon.jpg|bawd|de|400px|Capel Gosen, 2018, wedi iddo gael ei werthu]] | ||
Capel Annibynnol ym mhentref [[Y Groeslon]] yw’r '''Capel Gosen.''' | Capel Annibynnol ym mhentref [[Y Groeslon]] yw’r '''Capel Gosen.''' |
Fersiwn yn ôl 08:43, 5 Ebrill 2021
Capel Annibynnol ym mhentref Y Groeslon yw’r Capel Gosen.
Cychwynnwyd yr achos gan David Griffith, Foel, ym 1843, a rhentodd dŷ, sef Tai Newyddion (a elwid wedyn yn Gasgin) yn Rhosnenan fel man addoli, ond ymfudodd i America ym 1845. Roedd George Rhydero wedyn yn gefnogol iawn. Cafwyd rhodd o dir gan un Catherine Hughes, Grugan Wen, a chodwyd capel a enwyd Gosen ym 1849. Nid y capel presennol oedd hwnnw, fodd bynnag, ond yr adeilad a alwyd wedyn yn Gosen Bach neu Church Room (gan i'r Eglwys ei ddefnyddio fel man cyfarfod ger y Ficerdy). Nid oedd erioed yn achos cryf yn ôl pob sôn, ond trwy ei gysylltu â chapel arall, Capel Pisgah (A), Carmel, ym 1873, fe sicrhawyd gwasanaeth gweinidog.[1]
Adeiladwyd capel newydd yn nes at ganol pentref y Groeslon ym 1899, gan Griffith Roberts, adeiladydd o Ben-y-groes, ac erbyn hynny roedd yr aelodaeth wedi codi i 65. Ym 1907, cafwyd gweinidog ar Gosen yn unig, sef y Parch. W. Jones, Llansamlet ac fe'i ddilynwyd gan y Parch. W. Walters, Rhosneigr o 1913-21. Ar ôl hynny, nid oedd gan yr eglwys weinidog.
Cafwyd trafferth i glirio'r dyledion wedi codi'r ail gapel a chael digon o arian at alwadau newydd ac felly, o 1931 ymlaen cynhaliwyd Prawfgyngerdd yr Ieuainc yn flynyddol i godi arian, a hynny hyd at y 1960au cynnar, oedd yn un o ddigwyddiadau sefydlog yng nghalendr diwylliannol y pentref.[2].
Gwerthwyd y capel yn 2018, gan nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio ar gyfer oedfaon. Roedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli yn Neuadd Y Groeslon ers rhai blynyddoedd erbyn hynny, ond mae'r achos yn parhau, yr unig achos crefyddol sydd ar ôl yn y Groeslon.