Teulu Huddart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw. | Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw. | ||
Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 13:30, 31 Mawrth 2021
Roedd teulu Huddart wedi ymsefydlu ym Mhlas Bryncir, ar ôl ei brynu ym 1809. Cafodd "Mr Huddart of Brynkir" ei benodi'n ddirprwy arglwydd raglaw ym 1817.[1] Dichon mai Joseph Huddart (marw 1841) oedd hwn, mab y Cadben Joseph Huddart (1741-1816) a brynodd yr ystad, a hynny wedi iddo wneud ffortiwn trwy ddyfeisio peiriant gwneud rhaffau.[2]
Ym 1891, ar farwolaeth George Augustus Huddart, fe werthwyd darnau o'r ystâd pan brynodd Ystad Glynllifon ffermydd Eithinog a Phen-y-bryn Bach, a oedd gynt yn rhan o'r ystad;[3], a phrynodd Chwarel Dorothea dir cynefin defaid yng Nghwm Silyn.[4] Gwerthwyd tiroedd eraill hefyd, yn cynnwys tir yng nghanol Pen-y-groes, a galluogodd hynny i'r prynwyr godi strydoedd newydd o dai y tu ôl i'r Stryd Fawr/Heol y Dŵr, ar gyfer adeiladu ym 1895.[5] Symudodd y teulu o'r ardal ym 1910 wedi marwolaeth G.A. Huddart ym 1908. Defnyddid y plas fel carchar rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; aeth y tŷ'n furddun wedi hynny.[6]
Hyd y gwyddys, mae disgynyddion y teulu'n byw erbyn hyn yng Nghernyw.
Erbyn hyn dim ond y rhannau isaf o furiau Plas Bryncir sy'n sefyll ac mae coed a llwyni wedi cau amdanynt gan roi naws arswydus ac arallfydol i'r lle.