Prosiect:Amdanom: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cof y Cwmwd''' ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. I ganfod sut i ychwanegu at, neu gywiro ffeithiau mewn, erthygl, neu ddysgu sut i greu erthyglau newydd, cliciwch [[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|'''yma''']].
Sefydlwyd '''Cof y Cwmwd''' ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.  
 
Y ddau amcan a sefydlwyd ar gyfer '''Cof y Cwmwd''' yw:
* creu bas data sylweddol o wybodaeth am hanes a thraddodiadau Uwchgwyrfai, yn niffyg unrhyw lyfrau cyfoes ar hanes cyffredinol y cwmwd
* hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Ein bwriad yw gweld '''Cof y Cwmwd''' yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol [[Clynnog-fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]]. Mae hyn yn cynnwys [[Dyffryn Nantlle]] i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r [[Bontnewydd]] ac at y môr.
 
Penodwyd Carl Morris, Cymro Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef WikiMedia, rhadwedd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici. Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, rheolwr WikiMedia yng Nghymru, sydd wedi cymryd diddordeb rhagweithiol yn yr fenter hon.
 
Y nod cychwynnol yw llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Mehefin 2018, pan fydd grant y Loteri'n dod i ben. Nid yr adeg honno fodd bynnag fydd y Cof ei hun yn dod i ben. Bydd yn dal i gael ei gynnal i'r dyfodol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro.
 
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae '''Cof y Cwmwd''' yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y peth yn hollol gyfarwydd i chi.
 
Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir.
 
Am gyfarwyddiadau am sut i gyfrannu at '''Cof y Cwmwd''', cliciwch [[Cyfrannu at Cof y Cwmwd|'''yma''']]. Mae manylion pellach hefyd ar y dudalen ''Cymorth'' - cliciwch ar y ddolen ar y chwith.
 
Dylid nodi nad ydym wedi mabwysiadu trwydded hollol agored Comin Creu, sef CC-BY-SA, oherwydd dymuniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri i rwystro defnydd masnachol o'r wefan. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i bobl roi gwybodaeth ar ein gwefan heb gyfyngiad, fel y gallwn ni roi caniatâd i bobl ddefnyddio deunydd ar gyfer pethau a gyhoeddir. Rhaid gwneud hyn gan fod y gair masnachol, yn ôl diffiniad Comin Creu, yn cynnwys unrhyw ddefnydd lle mae arian yn newid dwylo - e.e. lle mae ysgol yn codi tâl am raglen cyngerdd gyda llun o'r wefan!

Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .
Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net .

Fersiwn yn ôl 10:22, 17 Rhagfyr 2017

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.

Y ddau amcan a sefydlwyd ar gyfer Cof y Cwmwd yw:

  • creu bas data sylweddol o wybodaeth am hanes a thraddodiadau Uwchgwyrfai, yn niffyg unrhyw lyfrau cyfoes ar hanes cyffredinol y cwmwd
  • hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Penodwyd Carl Morris, Cymro Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef WikiMedia, rhadwedd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici. Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, rheolwr WikiMedia yng Nghymru, sydd wedi cymryd diddordeb rhagweithiol yn yr fenter hon.

Y nod cychwynnol yw llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Mehefin 2018, pan fydd grant y Loteri'n dod i ben. Nid yr adeg honno fodd bynnag fydd y Cof ei hun yn dod i ben. Bydd yn dal i gael ei gynnal i'r dyfodol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro.

Mae Cof y Cwmwd yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae Cof y Cwmwd yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y peth yn hollol gyfarwydd i chi.

Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir.

Am gyfarwyddiadau am sut i gyfrannu at Cof y Cwmwd, cliciwch yma. Mae manylion pellach hefyd ar y dudalen Cymorth - cliciwch ar y ddolen ar y chwith.