Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
[[Categori: Safleoedd nodedig]] | [[Categori: Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori: Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori: Daearyddiaeth ddynol]] | ||
[[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Fersiwn yn ôl 20:54, 13 Rhagfyr 2017
Plasty sy’n dyddio o gwmpas 1856 yw Glynllifon.
Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, ac hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1856, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safodd yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw ei adeiladu o gwmpas 1751, a bod yntau wedi cymryd lle annedd hynach a oedd yn gartref i’r Glyniaid.
Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Roedd hefyd yn goleg amaethyddol o ddechrau’r 50au ymlaen, ac mae’r adeiladau eraill sydd ar hen dir y plasty bellach yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Mae’r tŷ ar hyn o bryd yn cael ei hadnewyddu a’i throi mewn gwesty moethus.
Mae’r tŷ hefyd yn gartref i’r ystlumod "lesser horseshoe", ac mae rhannau o’r tŷ o dan warcheidwad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig a ddaeth rhai o’r hen deulu yn ôl i Landwrog a hwy ar eu teithiau.