Iwan Wyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fe ganed '''Iwan Wyn Parry''' yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar o...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''Iwan Wyn Parry''' yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, [[Arthur Wyn Parry]]. Cafodd ei fagu yn [[Y Groeslon]]. Ar ôl mynychu [[Ysgol y Groeslon]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau. | |||
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn | Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y ''Meseia''. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran. Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd. |
Fersiwn yn ôl 10:44, 21 Mawrth 2021
Ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ôl mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, cafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, un o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi hynny cafodd ail yrfa fel unawdydd bas, ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran. Mae hefyd yn arweinydd côr ym Meirionnydd.