Gwaith llechi Inigo Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gwaith Llechi Inigo Jones''' ar fin ffordd fawr Caernarfon-Porthmadog (A487), tua hanner ffordd rhwng [[Y Groeslon]] a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]]. Sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol ym 1861, yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Roedd hwnnw'n fusnes mawr yn ei ddydd ac, yn wir, am ddegawdau lawer wedyn gan i lechi (yn hytrach na phapur) gael eu defnyddio gan blant mewn llawer o ysgolion tan ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif. Roedd nifer o gwmnïau eraill yn ardaloedd y llechi yng Ngogledd Cymru hefyd yn creu llechi ysgrifennu o'r fath.  

Fe elwir y Gwaith yn aml yn ''Ffatri Grafog'' neu ''Injian Grafog'' gan ei fod ar bwys fferm y Grafog rhwng Y Groeslon a phentref Pen-y-groes. Ar un adeg, fe'i adnabyddid hefyd fel ''Gwaith Llechi Tudor'' neu ''Tudor Slate Works''.
Enw'r perchennog cyntaf, mae'n debyg, oedd Inigo Jones, ac nid oes cysylltiad efo pensaer enwog y 17g o'r un enw. Fe elwir y Gwaith yn aml yn ''Ffatri Grafog'' neu ''Injian Grafog'' gan ei fod ar bwys fferm y Grafog rhwng Y Groeslon a phentref Pen-y-groes. Ar un adeg, fe'i adnabyddid hefyd fel ''Gwaith Llechi Tudor'' neu ''Tudor Slate Works''.
 
Hyd nes i'r rheilffordd gerllaw gau, roedd gan y gwaith ei seidin breifat,

Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio'r un deunydd crai, sef llechen Gymreig 500 miliwn o flynyddoedd oed, i greu cynnyrch pensaernïol, cerrig coffadwriaethol a chrefftau i’r tŷ ac i'r ardd. Erbyn hyn mae'r safle wedi datblygu'n atyniad pwysig i ymwelwyr, gydag ystafell arddangos a siop sylweddol yn gwerthu'r cynnyrch, yn ogystal â chaffi, siop fferm ac atyniadau i blant.

Fersiwn yn ôl 16:57, 24 Chwefror 2021

Mae Gwaith Llechi Inigo Jones ar fin ffordd fawr Caernarfon-Porthmadog (A487), tua hanner ffordd rhwng Y Groeslon a Phen-y-groes. Sefydlwyd y cwmni'n wreiddiol ym 1861, yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Roedd hwnnw'n fusnes mawr yn ei ddydd ac, yn wir, am ddegawdau lawer wedyn gan i lechi (yn hytrach na phapur) gael eu defnyddio gan blant mewn llawer o ysgolion tan ymhell i mewn i'r ugeinfed ganrif. Roedd nifer o gwmnïau eraill yn ardaloedd y llechi yng Ngogledd Cymru hefyd yn creu llechi ysgrifennu o'r fath.

Enw'r perchennog cyntaf, mae'n debyg, oedd Inigo Jones, ac nid oes cysylltiad efo pensaer enwog y 17g o'r un enw. Fe elwir y Gwaith yn aml yn Ffatri Grafog neu Injian Grafog gan ei fod ar bwys fferm y Grafog rhwng Y Groeslon a phentref Pen-y-groes. Ar un adeg, fe'i adnabyddid hefyd fel Gwaith Llechi Tudor neu Tudor Slate Works.

Hyd nes i'r rheilffordd gerllaw gau, roedd gan y gwaith ei seidin breifat,

Heddiw, mae’r cwmni yn defnyddio'r un deunydd crai, sef llechen Gymreig 500 miliwn o flynyddoedd oed, i greu cynnyrch pensaernïol, cerrig coffadwriaethol a chrefftau i’r tŷ ac i'r ardd. Erbyn hyn mae'r safle wedi datblygu'n atyniad pwysig i ymwelwyr, gydag ystafell arddangos a siop sylweddol yn gwerthu'r cynnyrch, yn ogystal â chaffi, siop fferm ac atyniadau i blant.

Gwaith Llechi Inigo Jones a luniodd y llechen a welir yn yr Ysgoldy yng Clynnog FawrNghlynnog a ddadorchuddiwyd pan agorwyd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yno ym mis Ebrill 2006.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau