Teulu'r Darbishires: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
Ada 1883-197? David Kerr | Ada 1883-197? David Kerr | ||
Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a [[ | Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a [[C.S.Darbishire|Charles Steven]] (Stufn Darbi neu'r Hen Ddarbi ar dafod leferydd yn Nhrefor), gyda'r olaf yn Reolwr Cyffredinol [[Chwarel yr Eifl]], Trefor, o 1918 hyd 1948. Trigai ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a ddaeth, ganol y 1970au, yn dŷ tafarn a bwyty. Bu C.S.Darbishire yn ffermio [[Elernion]] a Nant Bach (dan ofal hwsmon) o ddechrau'r 50au ymlaen, dwy fferm deuluol yn Nhrefor. | ||
Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod. | Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod. |
Fersiwn yn ôl 18:11, 12 Chwefror 2021
Patriarch teulu cefnog a dylanwadol y Darbishires, fu'n rheoli chwareli ithfaen Trefor a Phenmaen-mawr am flynyddoedd maith, oedd Samuel Dukinfield Darbishire, gŵr Mary (nee Blackmore). Priodwyd y ddau 10 Hydref 1825. Ganwyd Samuel ar yr 28ain o Chwefror 1796 yn Bolton-le-Moors, swydd Gaerhirfryn yn Lloegr, yn fab i Robert a Sarah Kay Darbishire (1774-1817). Roedd Robert Darbishire (1769-1840) yn fab i James Darbishire (1729-1790) ac Anne Dukinfield (1732-1802), a'r James hwn yn fab i Samuel Darbishire (1695-1748) a Rebecca Crompton (? - 1737).
Roedd S.D.D. yn gyfreithiwr llwyddiannus a chefnog yn ninas Manceinion ac yn gyfreithiwr Cwmni Rheilffyrdd Caer a Chaergybi,a Swyddi Caerhirfryn ac Efrog. Roedd â chefndir teuluol mewn cloddio am lechi yng Nghymru. Yn grefyddol, Undodwr ydoedd ac yn un o ymddiriedolwyr Capel Cross Street ym Manceinion. Dyna pryd a phle y daeth yn gyfaill mynwesol i William Gaskell. Bu'n un o sylfaenwyr allweddol Coleg Newydd Manceinion yn ogystal ag Athenaeum Manceinion sydd heddiw'n rhan o Oriel Gelf Dinas Manceinion. Trigai'r teulu yn Greenheyes. Samuel oedd sefydlydd ac adeiladydd Ysgol Chorlton ym 1836.
Enillodd ei fab hynaf, Robert Dukinfield, ryddfraint Dinas Manceinion ym 1899 am ei waith dyngarol. Trwy etifeddu rhan o gyfoeth Syr Joseph Whitworth, fe sefydlodd Robert Barc ac Oriel Gelf Whitworth, a sefydlodd ei wraig, Harriet, y Manchester High School for Girls. Trigai Robert a Harriet ym Mharc Fictoria.
Ffrind mynwesol i wraig Samuel, oedd Elizabeth Gaskell, y nofelydd poblogaidd a gwraig William Gaskell, a byddai'r pedwar yn treulio gwyliau'n aml gyda'i gilydd yn Llundain neu yn ail gartref y Darbishires 'yn y wlad'. Y tŷ hwn oedd Pendyffryn, Dwygyfylchi, rhwng Penmaen-mawr a Chonwy.
Bu farw yng Nghonwy ar y 5ed o Awst, 1870, a'i gladdu yn Eglwys Dwygyfylchi.
Cafodd Samuel a Mary 13 o blant :
PLANT EU GŴYR/GWRAGEDD Robert Dukinfield 1826-1908 Harriet Ann Cobb Marianne 1827-1853 Edward Rigby William Arthur 1829-1916 Ellen Taylor Russel 1830-1831 marw'n faban Vernon 1832-1878 Marie Biller Louisa 1834-1911 Samuel Smith Travers Emily 1836-1837 marw'n faban Emily 1837-1857 marw'n ifanc Sarah Agnes 1839-1917 dibriod Francis 1841-1881 Elsa Kate Todhunter CHARLES HENRY 1844-1929 Mary Lillian Eckersley Samuel Dukinfield 1846-1892 Florence Eckersley Mary 1847-1848 marw'n faban
Charles Henry Darbishire, yr unfed plentyn ar ddeg, yw'r gŵr sydd â chysylltiad allweddol â phentref Trefor (yn dad i Charles Stephen Darbishire, Plas yr Eifl). Dyma'i deulu o :
RHIENI CHARLES HENRY DARBISHIRE MARY LILIAN ECKERSLEY PLANT GŴYR/GWRAGEDD Charles William 1875-1925 (50) Fanny Davidson Henry Watkin 1880-1964 (83) Blossom Severs Harold Dukinfield 1881-1951 (70) Hester Elizabeth Bright Hugh Charles 1885-1963 (78) Kathleen Isabel Priestman Charles Stephen 1886-1971 (85) Evangeline Priestman Mary Lilian 1876-1956 (80) Graeme Hamilton Louisa 1878-1972 (94) Elliot Dunville Herman Ada 1883-197? David Kerr
Dau frawd o deulu Cyrnol C.H.Darbishire ddaeth i fyw i Drefor a'r cyffiniau oedd Hugh Charles (Hughie) a Charles Steven (Stufn Darbi neu'r Hen Ddarbi ar dafod leferydd yn Nhrefor), gyda'r olaf yn Reolwr Cyffredinol Chwarel yr Eifl, Trefor, o 1918 hyd 1948. Trigai ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a ddaeth, ganol y 1970au, yn dŷ tafarn a bwyty. Bu C.S.Darbishire yn ffermio Elernion a Nant Bach (dan ofal hwsmon) o ddechrau'r 50au ymlaen, dwy fferm deuluol yn Nhrefor.
Roedd y ddau frawd wedi priodi dwy chwaer, Kathleen ac Eva, fel y gwelir uchod.
Diarddelwyd Hughie Darbishire gan y teulu oherwydd ei fod yn heddychwr brwd, ac yn ffrind mynwesol i George M.Ll.Davies, y Crynwr a'r heddychwr adnabyddus Roedd GMLlD yn ŵyr i'r pregethwr mawr, y Parchedig John Jones, Tal-y-sarn, ac yn frawd i John Glyn Davies, awdur Cerddi Portin-llaen a Cherddi Huw Puw. Yn wir, bu George yn byw am gyfnod gyda theulu Hughie Darbishire ym Moelfre Mawr a Maes Cwm, Llanaelhaearn. Merch i HD oedd Beryl Owen, Trefor, un o'r merched cyntaf un yng Nghymru i gystadlu mewn Rasus Cŵn Defaid.