C.H. Darbishire: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Ym Mhenmaenmawr, fodd bynnag, y treuliodd C.H. Darbishire ei oes, i ddechrau ym Mhendyffryn, ac wedyn ym Mhlas Mawr. Roedd y teulu'n weithgar iawn fel noddwyr achosion da cymunedol yn y cylch, gan godi neuadd  ac ysgol, a bu'r Cyrnol yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon am 25 mlynedd. Mynychai wasanaeth Saesneg gynhelid yng nghapel bychan Horeb, Dwygyfylchi, oedd yn rhan o ofalaeth yr enwog Edward Stephen (Tanymarian). Fel cyn-filwr bu'n gefnogwr brwd i'r Fyddin Diriogaethol (y "Territorials"). Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau erbyn hynny'n 70 oed, ceisiodd ail-ymuno â'r Fyddin ac, ar ôl cael ei wrthod gartref, teithiodd i'r Aifft a cheisio ymuno yn y fan honno - ond fe'i gwrthodwyd drachefn! Roedd hefyd yn gefnogwr brwd i Fudiad y Sgowtiaid, a hynny'n deillio efallai o'i ddiddordebau milwrol. Roedd yn gapten cyntaf Clwb Golff Penmaenmawr, ac yn aelod brwd o'r Clwb Miwsig lleol. Fe'i hystyrid yn gyflogwr teg oedd â diddordeb byw yn ei weithlu. Yn ôl ei gofiant, dyn plaen ei dafod a hynod ymarferol ydoedd.  

Ysgrifennwyd cerdd goffa Saesneg iddo gan neb llai na Cynan (a oedd yn weinidog ym Mhenmaenmawr bryd hynny), lle disgrifir yr hen Gyrnol yn cyrraedd y nefoedd ac yn bur anfodlon ystyried derbyn tragwyddoldeb o orffwys a chanu'r delyn yno!<ref>''Welsh Outlook", Cyf.xvii, rhif 10, (1930), tt.268-70</ref>:
Bu un mab iddo, Charles William Darbishire (1875-1925), yn aelod seneddol Rhyddfrydol yn Wiltshire, 1922-5. Cyn hynny, roedd wedi bod yn ddyn busnes yn Singapôr a Malaya.<ref>Erthygl Wikipedia ar Charles Darbishire, [https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_Darbishire], cyrchwyd 22.01.2021</ref> Ei fab ieuengaf, [[Charles Stephen Darbishire]] oedd rheolwr [[Chwarel yr Eifl]] o 1918 hyd 1946.
 
Collodd CHD ei wraig, Mary Lilian (''nee'' Eckersley) ar yr 20fed o Ragfyr, 1927. Buont yn briod am 52 mlynedd. Bu farw'r Cyrnol ei hun ar y 23ain o Ragfyr, 1929, yn 85 oed. Claddwyd y ddau ohonynt ym mynwent Dwygyfylchi.
 
Ysgrifennwyd marwnad goffa Saesneg iddo gan neb llai na Cynan (a oedd yn weinidog ym Mhenmaenmawr bryd hynny), lle disgrifir yr hen Gyrnol yn cyrraedd y nefoedd ac yn bur anfodlon ystyried derbyn tragwyddoldeb o orffwys a chanu'r delyn yno!<ref>''Welsh Outlook", Cyf.xvii, rhif 10, (1930), tt.268-70</ref>:
  When they brought him his golden lyre,
  When they brought him his golden lyre,
  The Colonel reached for his hat:
  The Colonel reached for his hat:
  "I had rather go straight to the fire
  "I had rather go straight to the fire
  Than strum on a thing like that."
  Than strum on a thing like that."
Bu un mab iddo, Charles William Darbishire (1875-1925), yn aelod seneddol Rhyddfrydol yn Wiltshire, 1922-5. Cyn hynny, roedd wedi bod yn ddyn busnes yn Singapôr a Malaya.<ref>Erthygl Wikipedia ar Charles Darbishire, [https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_Darbishire], cyrchwyd 22.01.2021</ref> Ei fab ieuengaf, [[Charles Stephen Darbishire]] oedd rheolwr [[Chwarel yr Eifl]] o 1918 hyd 1946.
Collodd CHD ei wraig, Mary Lilian (''nee'' Eckersley) ar yr 20fed o Ragfyr, 1927. Buont yn briod am 52 mlynedd. Bu farw'r Cyrnol ei hun ar y 23ain o Ragfyr, 1929, yn 85 oed. Claddwyd y ddau ohonynt ym mynwent Dwygyfylchi.

Collodd Cynan druan ei ben yn lân pan gyfansoddodd ei farwnad Saesneg ugain pennill ''IN MEMORIAM'' ar farwolaeth Cyrnol Darbishire, marwnad ryfedd dros ben o law gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Sonia, yn gwbl anysgrythurol, am y Tad a'r Mab yn bwriadu adeiladu ffordd newydd o'r nefoedd i uffern, gyda'r amcan o achub y rhai hynny oedd wedi eu condemnio i Uffern! Rhaid fyddai cael arbenigedd y Cyrnol, i gyflawni hynny!

Fersiwn yn ôl 14:53, 12 Chwefror 2021

Roedd y Cyrnol Charles Henry Darbishire (1844-1929) yn un o reolwyr a pherchnogion Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig Cyf (Penmaenmawr and Welsh Granite Company Ltd.). Fe'i ganed i deulu Undodaidd ym Manceinion, ac roedd ei dad yn gyfreithiwr i Gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi. Fe'i ganwyd yn Embden Street, Manceinion ar y 9fed o Fai, 1844. Roedd W.A. Darbishire, perchennog Chwareli Pen-y-orsedd yn frawd iddo.

Bu cysylltiad rhwng chwareli Penmaenmawr ac ardal Trefor ers i Samuel Holland agor Chwarel y Gwylwyr yn y 1830-1840au, gan gyflogi gweithwyr o chwareli Penmaenmawr ar y dechrau.

Ym 1878, cymerodd teulu Darbishire chwareli Penmaenmawr drosodd trwy brynu Ystad Pendyffryn, Dwygyfylchi, lle roeddynt wedi byw er 1854. Cymerodd y Cyrnol C.H. Darbishire y swydd o reolwr y chwarel. Roedd ganddo gymwysterau priodol gan ei fod wedi bod yn brentis Peiriannydd Sifil gyda'r cwmni a oedd yn adeiladu Rheilffordd Mynydd Genis rhwng Ffrainc a'r Eidal. Cynyddodd gweithgaredd y chwareli o'r flwyddyn honno. Roedd gan y teulu ddwy chwarel - Graiglwyd, neu'r Hen Chwarel dan Darbishire ei hun, a Chwarel Penmaenmawr. Parhaodd y rhain i fod dan reolaeth y teulu ei hun hyd at 1911 pan ffurfiwyd cwmni newydd ar gyfer chwareli ithfaen Penmaenmawr a Threfor, sef y Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd. Bu hwn dan gadeiryddiaeth y Cyrnol Darbishire hyd ei farwolaeth ym 1929.[1]

Ym Mhenmaenmawr, fodd bynnag, y treuliodd C.H. Darbishire ei oes, i ddechrau ym Mhendyffryn, ac wedyn ym Mhlas Mawr. Roedd y teulu'n weithgar iawn fel noddwyr achosion da cymunedol yn y cylch, gan godi neuadd ac ysgol, a bu'r Cyrnol yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon am 25 mlynedd. Mynychai wasanaeth Saesneg gynhelid yng nghapel bychan Horeb, Dwygyfylchi, oedd yn rhan o ofalaeth yr enwog Edward Stephen (Tanymarian). Fel cyn-filwr bu'n gefnogwr brwd i'r Fyddin Diriogaethol (y "Territorials"). Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau erbyn hynny'n 70 oed, ceisiodd ail-ymuno â'r Fyddin ac, ar ôl cael ei wrthod gartref, teithiodd i'r Aifft a cheisio ymuno yn y fan honno - ond fe'i gwrthodwyd drachefn! Roedd hefyd yn gefnogwr brwd i Fudiad y Sgowtiaid, a hynny'n deillio efallai o'i ddiddordebau milwrol. Roedd yn gapten cyntaf Clwb Golff Penmaenmawr, ac yn aelod brwd o'r Clwb Miwsig lleol. Fe'i hystyrid yn gyflogwr teg oedd â diddordeb byw yn ei weithlu. Yn ôl ei gofiant, dyn plaen ei dafod a hynod ymarferol ydoedd.

Bu un mab iddo, Charles William Darbishire (1875-1925), yn aelod seneddol Rhyddfrydol yn Wiltshire, 1922-5. Cyn hynny, roedd wedi bod yn ddyn busnes yn Singapôr a Malaya.[2] Ei fab ieuengaf, Charles Stephen Darbishire oedd rheolwr Chwarel yr Eifl o 1918 hyd 1946.

Collodd CHD ei wraig, Mary Lilian (nee Eckersley) ar yr 20fed o Ragfyr, 1927. Buont yn briod am 52 mlynedd. Bu farw'r Cyrnol ei hun ar y 23ain o Ragfyr, 1929, yn 85 oed. Claddwyd y ddau ohonynt ym mynwent Dwygyfylchi.

Ysgrifennwyd marwnad goffa Saesneg iddo gan neb llai na Cynan (a oedd yn weinidog ym Mhenmaenmawr bryd hynny), lle disgrifir yr hen Gyrnol yn cyrraedd y nefoedd ac yn bur anfodlon ystyried derbyn tragwyddoldeb o orffwys a chanu'r delyn yno![3]:

When they brought him his golden lyre,
The Colonel reached for his hat:
"I had rather go straight to the fire
Than strum on a thing like that."

Collodd Cynan druan ei ben yn lân pan gyfansoddodd ei farwnad Saesneg ugain pennill IN MEMORIAM ar farwolaeth Cyrnol Darbishire, marwnad ryfedd dros ben o law gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Sonia, yn gwbl anysgrythurol, am y Tad a'r Mab yn bwriadu adeiladu ffordd newydd o'r nefoedd i uffern, gyda'r amcan o achub y rhai hynny oedd wedi eu condemnio i Uffern! Rhaid fyddai cael arbenigedd y Cyrnol, i gyflawni hynny!

  But the King and his Son they would sally
  To rescue those spirits in pain ;
  And they look for a good Roadmaker, 
  That can make rough places plain,
  To pave a way for their Chariot,
  And a way for the children of hate
  To march in the Royal Triumph,
  When the crooked has been made straight.
  Then the old man's face flashed glory
  As he winked at St. Peter's smile ;
  They can keep their blessed harpstrings,
  But this is a job worth while.
  So give me my old Welsh quarrymen,
  - All that in Heaven do dwell,
  And give me your Holy Dynamite,
  And we'll blast you a road to Hell.
  And we'll pave with Eternal Granite ;
  - You shall hear our sledgehammers ring,
  Till the Desert carries a Highway
  For the Chariot of the King !
       . . . . . . . . . . . .  
  And I saw him march out his workmen
  With theodolite and sword,
  Still on his grand old mission,
  - Preparing the Way of the Lord.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Haydn Mather, rhagymadrodd i restr o ddogfennau Chwarel Penmaenmawr, 2007
  2. Erthygl Wikipedia ar Charles Darbishire, [1], cyrchwyd 22.01.2021
  3. Welsh Outlook", Cyf.xvii, rhif 10, (1930), tt.268-70