Bod Gybi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bod Gybi oedd enw cartref Eben Fardd yng Nghlynnog o 1833 tan ei farwolaeth ym 1863. Mae'r tŷ, sydd ynghanol y rhes o dai cerrig dros y ffordd i wal mynw...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Bod Gybi oedd enw cartref Eben Fardd yng Nghlynnog o 1833 tan ei farwolaeth ym 1863. Mae'r tŷ, sydd ynghanol y rhes o dai cerrig dros y ffordd i wal mynwent yr eglwys, yno o hyd heb ei newid fawr ddim a chyda'r un enw. Hefyd mae llechen fechan wrth y drws yn nodi mai yno oedd cartref y bardd.  
'''Bod Gybi''' oedd enw cartref [[Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] o 1833 tan ei farwolaeth ym 1863. Mae'r tŷ, sydd ynghanol y rhes o dai cerrig dros y ffordd i wal mynwent yr [[Eglwys Sant Beuno|Clynnog Fawr|eglwys]], yno o hyd heb ei newid fawr ddim a chyda'r un enw. Hefyd mae llechen fechan wrth y drws yn nodi mai yno oedd cartref y bardd.  

Daeth Eben Fardd i Glynnog gyntaf i gadw ysgol ym 1827 ac aeth i letya i fferm fechan Cae'r Pwsan, ar gyrion yn y pentref. Yno cyfarfu â Mary Williams, merch ei lety, a phriododd y ddau yn Nhachwedd 1830. Yn dilyn eu priodas buont yn byw am gyfnodau byr mewn gwahanol fannau, cyn symud i Bod Gybi, a oedd yn dŷ newydd ar y pryd, ar 29 Hydref 1833. Dywed Eben yn ei ddyddiadur mai dim ond tridiau ynghynt y gorffennwyd y tŷ, a rhoddodd yr enw Bod Gybi arno i gofio ei wreiddiau yn ardal Llangybi a Llanarmon yn Eifionydd. Yn wir, yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel bardd, Cybi o Eifion y galwai ei hun; yn ddiweddarach y mabwysiadodd yr enw Eben Fardd.  
Daeth Eben Fardd i Glynnog gyntaf i gadw ysgol ym 1827 ac aeth i letya i fferm fechan [[Cae'r Pwsan], ar gyrion yn y pentref. Yno cyfarfu â Mary Williams, merch ei lety, a phriododd y ddau yn Nhachwedd 1830. Yn dilyn eu priodas buont yn byw am gyfnodau byr mewn gwahanol fannau, cyn symud i Bod Gybi, a oedd yn dŷ newydd ar y pryd, ar 29 Hydref 1833. Dywed Eben yn ei ddyddiadur mai dim ond tridiau ynghynt y gorffennwyd y tŷ, a rhoddodd yr enw Bod Gybi arno i gofio ei wreiddiau yn ardal Llangybi a Llanarmon yn Eifionydd. Yn wir, yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel bardd, Cybi o Eifion y galwai ei hun; yn ddiweddarach y mabwysiadodd yr enw Eben Fardd.  

Dridiau cyn iddo ef, Mary, a'u plentyn cyntaf, Ellen (neu Elin), symud i mewn i Bod Gybi, noda Eben iddo fynd i Bwllheli i weld cyfreithiwr i sicrhau prydles ar y tŷ. Ac yn fuan iawn ar ôl iddynt symud i mewn dechreuodd Mary gadw siop fechan yn y tŷ ac mae llawer o gyfeiriadau yn nyddiaduron Eben at deithiau i Gaernarfon yn arbennig i brynu stoc o fwydydd a defnyddiau i'w gwerthu yn y siop. Weithiau, fodd bynnag, ai'r bardd tipyn ymhellach i geisio stoc, ac mae'n cyfeirio at deithiau cyn belled â Manceinion i brynu brethynau. (Teithiai i'r fan honno ran o'r ffordd mewn car a cheffyl neu goets fawr, a gweddill y daith ar y trên, a oedd yn ffordd newydd ac arloesol o deithio ddiwedd y 1830au a dechrau'r 1840au.)  

Nid oedd fawr o libart yng nghefn Bod Gybi, ond roedd yno iard fechan, twlc mochyn a llain o ardd, lle byddai'n plannu tatws yn arbennig - roedd yn cael plannu tatws hefyd ar fferm Tyddyn Hen, Gurn Goch, yn gyfnewid am helpu yno gyda chodi tatws y fferm a goruchwylion achlysurol eraill. Mae'n amlwg ei fod yn cadw mochyn yn gyson yn Bod Gybi, oherwydd cofnoda yn ei ddyddiadur iddo ladd y mochyn (cael rhywun i wneud ar ei ran mae'n fwy na thebyg) ar ddydd Nadolig 1837!   
Nid oedd fawr o libart yng nghefn Bod Gybi, ond roedd yno iard fechan, twlc mochyn a llain o ardd, lle byddai'n plannu tatws yn arbennig - roedd yn cael plannu tatws hefyd ar fferm Tyddyn Hen, [[Gurn Goch]], yn gyfnewid am helpu yno gyda chodi tatws y fferm a goruchwylion achlysurol eraill. Mae'n amlwg ei fod yn cadw mochyn yn gyson yn Bod Gybi, oherwydd cofnoda yn ei ddyddiadur iddo ladd y mochyn (cael rhywun i wneud ar ei ran mae'n fwy na thebyg) ar ddydd Nadolig 1837!   

Roedd Eben Fardd yn ddyn pur ofnus a nerfus o ran ei natur. Ar 6 Mehefin 1835, torrodd lladron i mewn i Gapel Beuno yn yr eglwys, lle cynhaliai ei ysgol a dwyn ychydig arian o'r drôr yno. Yn syth wedyn, trefnodd Eben i weithwyr osod barrau haearn trwm ar ffenestri Bod Gybi rhag ofn i'r un peth ddigwydd yno - tybed am faint y bu'r barrau hynny yn eu lle?  
Roedd Eben Fardd yn ddyn pur ofnus a nerfus o ran ei natur. Ar 6 Mehefin 1835, torrodd lladron i mewn i [[Capel Beuno|Gapel Beuno]] yn yr eglwys, lle cynhaliai ei [[Ysgol Eben Fardd|ysgol]] a dwyn ychydig arian o'r drôr yno. Yn syth wedyn, trefnodd Eben i weithwyr osod barrau haearn trwm ar ffenestri Bod Gybi rhag ofn i'r un peth ddigwydd yno - tybed am faint y bu'r barrau hynny yn eu lle?  

Roedd Bod Gybi'n sicr yn lle prysur. Yn ogystal â'r siop, a oedd dan ofal Mary yn bennaf, byddai pobl yn galw yno i ofyn i Eben rwymo llyfrau iddynt, gwneud cyfrifon gwahanol fusnesau (roedd yn fedrus iawn fel mathemategydd) a llunio ambell i englyn neu gywydd am dâl ar achlysuron fel priodas, genedigaeth neu farwolaeth. Yn ogystal, byddai cyfeillion i'r bardd yn galw'n gyson i'w weld hefyd - amryw ohonynt yn bobl amlwg ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ymysg yr ymwelwyr byddai Siôn Wyn o Eifion, Morris Williams (Nicander), Ellis Owen, Cefnymeusydd, Dic Aberdaron, Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon, a sgweier rhadlon Madryn, Syr Love Jones Parry, i enwi dim ond rhai.  
Roedd Bod Gybi'n sicr yn lle prysur. Yn ogystal â'r siop, a oedd dan ofal Mary yn bennaf, byddai pobl yn galw yno i ofyn i Eben rwymo llyfrau iddynt, gwneud cyfrifon gwahanol fusnesau (roedd yn fedrus iawn fel mathemategydd) a llunio ambell i englyn neu gywydd am dâl ar achlysuron fel priodas, genedigaeth neu farwolaeth. Yn ogystal, byddai cyfeillion i'r bardd yn galw'n gyson i'w weld hefyd - amryw ohonynt yn bobl amlwg ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ymysg yr ymwelwyr byddai Siôn Wyn o Eifion, Morris Williams (Nicander), Ellis Owen, Cefnymeusydd, Dic Aberdaron, [[Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon]], a sgweier rhadlon Madryn, Syr Love Jones Parry, i enwi dim ond rhai.  

Er mai yng Nghapel Beuno y cynhaliai Eben ei ysgol am y rhan fwyaf o'r amser y bu'n athro arni, eto bu'n ei chadw am gyfnod yn Bod Gybi, gan y cofnoda yn ei ddyddiadur ar 8 Ionawr 1838 iddo symud yr ysgol am gyfnod o'r eglwys i'w dŷ ei hun. Yn ogystal byddai rhai o'r disgyblion a oedd dan ei ofal yn yr ysgol yn lletya yn Bod Gybi a bu trychineb enbyd yn gysylltiedig ag un ohonynt ar 4 Mehefin 1844. Roedd John Jones, bachgen ifanc o Lanberis, yn lletya yno ar y pryd, a dywed Eben iddo gael ei ddeffro gan sŵn dychrynllyd am hanner awr wedi tri y bore. Roedd John yn cael ffit epileptig enbyd a bu'r truan farw mewn poenau mawr rhyw bedair awr yn ddiweddarach, gyda'i frawd ac eraill yn dod yno drannoeth i nôl y corff.  

Nid oedd aelwyd Bod Gybi yn un hapus yn aml. Yn un peth roedd tensiynau cyson yno rhwng Eben a Mary, a hynny'n deillio'n bennaf oherwydd ei or-hoffter o'r ddiod a hithau'n dwrdio ei fod yn gwastraffu ei amser a'i arian yn llymeitian yn y Sportsman yng Ngurn Goch, y Plas yng Nghlynnog, a thafarnau yng Nghaernarfon a Phwllheli pan fyddai'n mynd i'r trefi hynny. Ond hyd yn oed yn waeth na'r ffraeo, roedd salwch cyson yn Bod Gybi a phrin bod tudalen o ddyddiaduron Eben Fardd nad oes gyfeiriad ynddi at rhyw salwch neu gilydd arno ef, Mary neu un o'r plant. (Yn ogystal ag Elin, a oedd ganddynt cyn symud i Bod Gybi, ganwyd tri phlentyn arall yno, Catherine, Elizabeth a'r unig fab, James Ebenezer.) Roedd llawer o'r anhwylderau hyn yn bethau difrifol iawn a phrin oedd y moddion a oedd ar gael bryd hynny i'w trin. Rhwng 1855 a 1861 bu farw Catherine, Elizabeth, Mary a James Ebenezer ac roedd iechyd Eben ei hun yn prysur ddadfeilio. Bu colli ei fab disglair yn ddeunaw oed yn ergyd arbennig o drom iddo - roedd James wedi dechrau fel myfyriwr mewn ysgol yng nghyffiniau Caer ac roedd yn datblygu'n fathemategydd medrus iawn. Noda Eben ym 1855 mai o'r "madredd" y bu farw Catherine, wedi hir ddihoeni, ond mae'n ymddangos mai'r hen elyn - y dicïau - a gipiodd weddill y teulu. Yn Bod Gybi y bu Eben yntau farw ar 17 Chwefror 1863 yn 61 oed ac oddi yno yr hebryngwyd ef i'w orffwysfa derfynol dros y ffordd ym mynwent eglwys Beuno Sant (fel gweddill ei deulu) ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.  
Nid oedd aelwyd Bod Gybi yn un hapus yn aml. Yn un peth roedd tensiynau cyson yno rhwng Eben a Mary, a hynny'n deillio'n bennaf oherwydd ei or-hoffter o'r ddiod a hithau'n dwrdio ei fod yn gwastraffu ei amser a'i arian yn llymeitian yn y [[Tafarn y Sportsman|Sportsman]] yng Ngurn Goch, ['[Tafarn y Plas]] yng Nghlynnog, a thafarnau yng Nghaernarfon a Phwllheli pan fyddai'n mynd i'r trefi hynny. Ond hyd yn oed yn waeth na'r ffraeo, roedd salwch cyson yn Bod Gybi a phrin bod tudalen o ddyddiaduron Eben Fardd nad oes gyfeiriad ynddi at rhyw salwch neu gilydd arno ef, Mary neu un o'r plant. (Yn ogystal ag Elin, a oedd ganddynt cyn symud i Bod Gybi, ganwyd tri phlentyn arall yno, Catherine, Elizabeth a'r unig fab, James Ebenezer.) Roedd llawer o'r anhwylderau hyn yn bethau difrifol iawn a phrin oedd y moddion a oedd ar gael bryd hynny i'w trin. Rhwng 1855 a 1861 bu farw Catherine, Elizabeth, Mary a James Ebenezer ac roedd iechyd Eben ei hun yn prysur ddadfeilio. Bu colli ei fab disglair yn ddeunaw oed yn ergyd arbennig o drom iddo - roedd James wedi dechrau fel myfyriwr mewn ysgol yng nghyffiniau Caer ac roedd yn datblygu'n fathemategydd medrus iawn. Noda Eben ym 1855 mai o'r "madredd" y bu farw Catherine, wedi hir ddihoeni, ond mae'n ymddangos mai'r hen elyn - y dicïau - a gipiodd weddill y teulu. Yn Bod Gybi y bu Eben yntau farw ar 17 Chwefror 1863 yn 61 oed ac oddi yno yr hebryngwyd ef i'w orffwysfa derfynol dros y ffordd ym mynwent eglwys Beuno Sant (fel gweddill ei deulu) ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.<ref>Am fwy o wybodaeth, gweler ''Detholion o Ddyddiaduron Eben Fardd'', E.G. Millward (gol.), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).</ref>

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Am fwy o wybodaeth, gweler ''Detholion o Ddyddiaduron Eben Fardd'', E.G. Millward (gol.), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).
[[Categori:Anheddau]]
[[Categori:Siopau]]

Fersiwn yn ôl 13:39, 12 Chwefror 2021

Bod Gybi oedd enw cartref Eben Fardd yng Nghlynnog o 1833 tan ei farwolaeth ym 1863. Mae'r tŷ, sydd ynghanol y rhes o dai cerrig dros y ffordd i wal mynwent yr Clynnog Fawr|eglwys, yno o hyd heb ei newid fawr ddim a chyda'r un enw. Hefyd mae llechen fechan wrth y drws yn nodi mai yno oedd cartref y bardd.

Daeth Eben Fardd i Glynnog gyntaf i gadw ysgol ym 1827 ac aeth i letya i fferm fechan [[Cae'r Pwsan], ar gyrion yn y pentref. Yno cyfarfu â Mary Williams, merch ei lety, a phriododd y ddau yn Nhachwedd 1830. Yn dilyn eu priodas buont yn byw am gyfnodau byr mewn gwahanol fannau, cyn symud i Bod Gybi, a oedd yn dŷ newydd ar y pryd, ar 29 Hydref 1833. Dywed Eben yn ei ddyddiadur mai dim ond tridiau ynghynt y gorffennwyd y tŷ, a rhoddodd yr enw Bod Gybi arno i gofio ei wreiddiau yn ardal Llangybi a Llanarmon yn Eifionydd. Yn wir, yn ystod ei flynyddoedd cynnar fel bardd, Cybi o Eifion y galwai ei hun; yn ddiweddarach y mabwysiadodd yr enw Eben Fardd.

Dridiau cyn iddo ef, Mary, a'u plentyn cyntaf, Ellen (neu Elin), symud i mewn i Bod Gybi, noda Eben iddo fynd i Bwllheli i weld cyfreithiwr i sicrhau prydles ar y tŷ. Ac yn fuan iawn ar ôl iddynt symud i mewn dechreuodd Mary gadw siop fechan yn y tŷ ac mae llawer o gyfeiriadau yn nyddiaduron Eben at deithiau i Gaernarfon yn arbennig i brynu stoc o fwydydd a defnyddiau i'w gwerthu yn y siop. Weithiau, fodd bynnag, ai'r bardd tipyn ymhellach i geisio stoc, ac mae'n cyfeirio at deithiau cyn belled â Manceinion i brynu brethynau. (Teithiai i'r fan honno ran o'r ffordd mewn car a cheffyl neu goets fawr, a gweddill y daith ar y trên, a oedd yn ffordd newydd ac arloesol o deithio ddiwedd y 1830au a dechrau'r 1840au.)

Nid oedd fawr o libart yng nghefn Bod Gybi, ond roedd yno iard fechan, twlc mochyn a llain o ardd, lle byddai'n plannu tatws yn arbennig - roedd yn cael plannu tatws hefyd ar fferm Tyddyn Hen, Gurn Goch, yn gyfnewid am helpu yno gyda chodi tatws y fferm a goruchwylion achlysurol eraill. Mae'n amlwg ei fod yn cadw mochyn yn gyson yn Bod Gybi, oherwydd cofnoda yn ei ddyddiadur iddo ladd y mochyn (cael rhywun i wneud ar ei ran mae'n fwy na thebyg) ar ddydd Nadolig 1837!

Roedd Eben Fardd yn ddyn pur ofnus a nerfus o ran ei natur. Ar 6 Mehefin 1835, torrodd lladron i mewn i Gapel Beuno yn yr eglwys, lle cynhaliai ei ysgol a dwyn ychydig arian o'r drôr yno. Yn syth wedyn, trefnodd Eben i weithwyr osod barrau haearn trwm ar ffenestri Bod Gybi rhag ofn i'r un peth ddigwydd yno - tybed am faint y bu'r barrau hynny yn eu lle?

Roedd Bod Gybi'n sicr yn lle prysur. Yn ogystal â'r siop, a oedd dan ofal Mary yn bennaf, byddai pobl yn galw yno i ofyn i Eben rwymo llyfrau iddynt, gwneud cyfrifon gwahanol fusnesau (roedd yn fedrus iawn fel mathemategydd) a llunio ambell i englyn neu gywydd am dâl ar achlysuron fel priodas, genedigaeth neu farwolaeth. Yn ogystal, byddai cyfeillion i'r bardd yn galw'n gyson i'w weld hefyd - amryw ohonynt yn bobl amlwg ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Ymysg yr ymwelwyr byddai Siôn Wyn o Eifion, Morris Williams (Nicander), Ellis Owen, Cefnymeusydd, Dic Aberdaron, Robert Hughes Uwchlaw'rffynnon, a sgweier rhadlon Madryn, Syr Love Jones Parry, i enwi dim ond rhai.

Er mai yng Nghapel Beuno y cynhaliai Eben ei ysgol am y rhan fwyaf o'r amser y bu'n athro arni, eto bu'n ei chadw am gyfnod yn Bod Gybi, gan y cofnoda yn ei ddyddiadur ar 8 Ionawr 1838 iddo symud yr ysgol am gyfnod o'r eglwys i'w dŷ ei hun. Yn ogystal byddai rhai o'r disgyblion a oedd dan ei ofal yn yr ysgol yn lletya yn Bod Gybi a bu trychineb enbyd yn gysylltiedig ag un ohonynt ar 4 Mehefin 1844. Roedd John Jones, bachgen ifanc o Lanberis, yn lletya yno ar y pryd, a dywed Eben iddo gael ei ddeffro gan sŵn dychrynllyd am hanner awr wedi tri y bore. Roedd John yn cael ffit epileptig enbyd a bu'r truan farw mewn poenau mawr rhyw bedair awr yn ddiweddarach, gyda'i frawd ac eraill yn dod yno drannoeth i nôl y corff.

Nid oedd aelwyd Bod Gybi yn un hapus yn aml. Yn un peth roedd tensiynau cyson yno rhwng Eben a Mary, a hynny'n deillio'n bennaf oherwydd ei or-hoffter o'r ddiod a hithau'n dwrdio ei fod yn gwastraffu ei amser a'i arian yn llymeitian yn y Sportsman yng Ngurn Goch, ['[Tafarn y Plas]] yng Nghlynnog, a thafarnau yng Nghaernarfon a Phwllheli pan fyddai'n mynd i'r trefi hynny. Ond hyd yn oed yn waeth na'r ffraeo, roedd salwch cyson yn Bod Gybi a phrin bod tudalen o ddyddiaduron Eben Fardd nad oes gyfeiriad ynddi at rhyw salwch neu gilydd arno ef, Mary neu un o'r plant. (Yn ogystal ag Elin, a oedd ganddynt cyn symud i Bod Gybi, ganwyd tri phlentyn arall yno, Catherine, Elizabeth a'r unig fab, James Ebenezer.) Roedd llawer o'r anhwylderau hyn yn bethau difrifol iawn a phrin oedd y moddion a oedd ar gael bryd hynny i'w trin. Rhwng 1855 a 1861 bu farw Catherine, Elizabeth, Mary a James Ebenezer ac roedd iechyd Eben ei hun yn prysur ddadfeilio. Bu colli ei fab disglair yn ddeunaw oed yn ergyd arbennig o drom iddo - roedd James wedi dechrau fel myfyriwr mewn ysgol yng nghyffiniau Caer ac roedd yn datblygu'n fathemategydd medrus iawn. Noda Eben ym 1855 mai o'r "madredd" y bu farw Catherine, wedi hir ddihoeni, ond mae'n ymddangos mai'r hen elyn - y dicïau - a gipiodd weddill y teulu. Yn Bod Gybi y bu Eben yntau farw ar 17 Chwefror 1863 yn 61 oed ac oddi yno yr hebryngwyd ef i'w orffwysfa derfynol dros y ffordd ym mynwent eglwys Beuno Sant (fel gweddill ei deulu) ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.[1]

Cyfeiriadau

  1. Am fwy o wybodaeth, gweler Detholion o Ddyddiaduron Eben Fardd, E.G. Millward (gol.), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1968).