Chatham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Mae tarddiad yr enw'n peri sawl cwestiwn, gan nad yw (i bob ymddangosiad) yn hen nac yn Gymreig. Ceir cyfeiriad at ''Tyddyn Chatham'' am y tro cyntaf mewn dogfen dyddiedig 1808, pan sonnir am ''parcel of land henceforth to be called Tyddyn Chatham'' yn y trosgwyddiad o dir morfa a gaewyd o'r comin, a drosglwyddwyd i Richard Roberts, masnachwr o Gaernarfon;<ref>Archifdy Caernarfon XD2/7441</ref> ac wedyn ym 1813 pan sonnir am ''parcel of land...now known as Tyddyn Chatham ''mewn trosglwyddiad o'r eiddo i John Richards, yswain, o Benybryn, Sir Feirionnydd gan Roberts.<ref>Archifdy Caernarfon X/POOLE/4014</ref>

Pam y mabwysiadwyd enw mor ddiarth, tybed? Roedd John Richards yn dod o deulu morwrol, a rhaid cofio bod Chatham (yn Swydd Caint) yn enwog fel poprthladd aman adeiladu llongau'r Llynges. Ac mae Chatham ger aber [[Afon Carrog]] (neu [[Afon Wyled]]), lle gallai cychod bas gyrraedd ar lanw uchel. Ai enw ffraeth sydd yma yn cymharu mawredd prysur Dociau Chatham a "phorthladd" Aber Carrog?
Pam y mabwysiadwyd enw mor ddiarth, tybed? Roedd John Richards yn dod o deulu morwrol, a rhaid cofio bod Chatham (yn Swydd Caint) yn enwog fel porthladd a man adeiladu llongau'r Llynges. Ac mae Chatham ger aber [[Afon Carrog]] (neu [[Afon Wyled]]), lle gallai cychod bas gyrraedd ar lanw uchel. Ai enw ffraeth sydd yma yn cymharu mawredd prysur Dociau Chatham a "phorthladd" Aber Carrog?

Ym 1915 fe werthwyd Chatham, ynghyd â Bryn Trefeilir neu Belan Las i [[Ystad Glynllifon]] gan deulu Capten David Richards o Borthmadog.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/11536</ref>
Ym 1915 fe werthwyd Chatham, ynghyd â Bryn Trefeilir neu Belan Las i [[Ystad Glynllifon]] gan deulu Capten David Richards o Borthmadog.<ref>Archifdy Caernarfon XD2/11536</ref>

Fersiwn yn ôl 20:05, 6 Chwefror 2021

Defnyddir yr enw Chatham erbyn heddiw ar gyfer y casgliad o dai a hen adeiladau milwrol ym mhlwyf Llanwnda o bobtu'r ffordd rhwng pentrefi Saron a Llandwrog. Mae nifer o fusnesau yn yr hen gytiau milwrol - hen bethau, cyfrifiaduron ac ati a hefyd pencadlys a stiwdio recordio Cwmni Sain.

Mae tarddiad yr enw'n peri sawl cwestiwn, gan nad yw (i bob ymddangosiad) yn hen nac yn Gymreig. Ceir cyfeiriad at Tyddyn Chatham am y tro cyntaf mewn dogfen dyddiedig 1808, pan sonnir am parcel of land henceforth to be called Tyddyn Chatham yn y trosgwyddiad o dir morfa a gaewyd o'r comin, a drosglwyddwyd i Richard Roberts, masnachwr o Gaernarfon;[1] ac wedyn ym 1813 pan sonnir am parcel of land...now known as Tyddyn Chatham mewn trosglwyddiad o'r eiddo i John Richards, yswain, o Benybryn, Sir Feirionnydd gan Roberts.[2]

Pam y mabwysiadwyd enw mor ddiarth, tybed? Roedd John Richards yn dod o deulu morwrol, a rhaid cofio bod Chatham (yn Swydd Caint) yn enwog fel porthladd a man adeiladu llongau'r Llynges. Ac mae Chatham ger aber Afon Carrog (neu Afon Wyled), lle gallai cychod bas gyrraedd ar lanw uchel. Ai enw ffraeth sydd yma yn cymharu mawredd prysur Dociau Chatham a "phorthladd" Aber Carrog?

Ym 1915 fe werthwyd Chatham, ynghyd â Bryn Trefeilir neu Belan Las i Ystad Glynllifon gan deulu Capten David Richards o Borthmadog.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon XD2/7441
  2. Archifdy Caernarfon X/POOLE/4014
  3. Archifdy Caernarfon XD2/11536