Y Goeden Eirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yw'r Goeden Eirin. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro John Rowlands, ac mae ei briod, E...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yw'r Goeden Eirin. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro John Rowlands, ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy.  
Tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yw'r Goeden Eirin. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro John Rowlands, ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy.  


Mae ''Y Goeden Eirin'' hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd John Gwilym Jones (1904-1988) o bentref Y Groeslon, gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i weld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn ''apologia'' mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel ''The Plum Tree and Other Short Prose'' (Seren Classics 2004). <sup>[1]</sup>  
Mae ''Y Goeden Eirin'' hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd John Gwilym Jones (1904-1988) o bentref Y Groeslon, gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i'w gweld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn ''apologia'' mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel ''The Plum Tree and Other Short Prose'' (Seren Classics 2004). <sup>[1]</sup>  


== Cyfeiriadau ==  
== Cyfeiriadau ==  


Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 223; gwybodaeth bersonol
[1] Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 223; gwybodaeth bersonol

Fersiwn yn ôl 16:44, 4 Chwefror 2021

Tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yw'r Goeden Eirin. Bu'n gartref am flynyddoedd i'r ysgolhaig a'r llenor, y diweddar Athro John Rowlands, ac mae ei briod, Eluned, yn byw yno o hyd. Am flynyddoedd buont yn cadw bwyty a gwesty bychan o safon uchel yn Y Goeden Eirin, gan gyflawni'r holl waith coginio ar y cyd. Roeddent yn nodedig am arbrofi gyda gwahanol gyfuniadau o fwydydd i greu seigiau arbennig, gyda gwinoedd addas i gyd-fynd â hwy.

Mae Y Goeden Eirin hefyd yn deitl i gyfrol o chwe stori fer gan yr awdur a'r dramodydd John Gwilym Jones (1904-1988) o bentref Y Groeslon, gerllaw. Fe'u cyhoeddwyd ym 1946 gan Wasg Gee. Er bod y teitl fel pe bai'n cyfeirio at y goeden eirin a safai ar dir y tŷ uchod, ac a oedd yn hysbys iawn i'r awdur wrth gwrs, eto nid yw'r storïau wedi eu lleoli mewn unrhyw ardal arbennig. Ystyrid bod y storïau hyn yn torri tir newydd yn hanes datblygiad y stori fer yn y Gymraeg, gan fod elfennau megis llif-yr-ymwybod i'w gweld ynddynt, gan ymdebygu i weithiau rhai fel Virginia Woolf a James Joyce yn Saesneg. Er enghraifft, mae'r stori gyntaf yn y casgliad yn dadlennu meddyliau saith o gymeriadau mewn gwasanaeth priodas. Roedd yr awdur yn ymwybodol ei fod yn creu deunydd arloesol a gwahanol yn y Gymraeg a derbyniad cymysg a gafodd y casgliad; yn wir, roedd y wasg wedi petruso tipyn cyn cyhoeddi'r gyfrol. Roedd rhai darllenwyr yn cael trafferth i ddirnad ystyr a neges y storïau, ac mae stori olaf y casgliad, "Cerrig y Rhyd" yn apologia mewn gwirionedd gan yr awdur dros ei ddull. Cyhoeddwyd trosiad Saesneg o'r storïau, ynghyd â pheth deunydd ychwanegol (yn cynnwys storïau anghyhoeddedig) gan Meic Stephens fel The Plum Tree and Other Short Prose (Seren Classics 2004). [1]

Cyfeiriadau

[1] Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986), t. 223; gwybodaeth bersonol