Robert Thomas, Y Ffridd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o [[Ffridd Baladeulyn]], gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn ncynnwys y gweinidogion enwog [[John Roberts, Llangwm]] a [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf]].
Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o [[Ffridd Baladeulyn]], gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn ncynnwys y gweinidogion enwog [[John Roberts, Llangwm]] a [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf]].


Ni wyddys pryd y sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Yn sicr, fodd bynnag, roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu ama bennau'r ffydd.<ref>Gwynfryn Richards, ''The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle'', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254</ref>
Tua 1768, sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Roedd achos a dyfodd wedyn yn achos [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]] wedi ei sefydlu ym 1766, ac ymunodd Robert Thomas a Chatrin Sion (neu Catherine Jones) yn fuan wedyn. Mae stori troedigaeth Robert yn cael ei adrodd gan William Hobley, ac er efallai y gwelir rhywfaint o ddychymyg yn y dweud, nid ellid gwneud yn well na dyfynnu ei ddisgrifiad yma:
 
Roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu ama bennau'r ffydd, a hynny'n fuan ar ôl ei droedigaeth. Cynhaliai sesiynau nos Sul ac ar nosweithiau gwaith hefyd, a phan dyfodd ei fab hynaf John yn ddigon hen, cynorthwyai hwnnw ei dad. Ceisid sefydlu ysgol Sul yn Llanllyfni tua 1796, ac yn weddol, fuan wedyn - ac yn sicr bron cyn 1804 - roedd Robert Thomas yn cynnal ysgol Sul yn y Ffridd hefyd<ref>Gwynfryn Richards, ''The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle'', Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254; W. Hobley, ''Hanes Methodistiaeth Arfon'', Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.115</ref>  


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 19:40, 30 Ionawr 2021

Gwyddom ychydig am Robert Thomas trwy gofiant John Roberts, Llangwm, un o'i feibion: dyn digon ddistadl ei stad oedd o, mae'n debyg; arferai fyw ym Mlaen-y-garth a gweithio yng Ngwaith copr Drws-y-coed. Fe'i ddisgrifwyd fel "gŵr ystwythgryf", ac yn arweinydd dynion plwyf Llanllyfni ym mhob gornest yn erbyn cryfion y plwyfi cyfagos, hyd nes iddo gael troedigaeth.[1]

Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o Ffridd Baladeulyn, gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn ncynnwys y gweinidogion enwog John Roberts, Llangwm a Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf.

Tua 1768, sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Roedd achos a dyfodd wedyn yn achos Capel Salem (MC), Llanllyfni wedi ei sefydlu ym 1766, ac ymunodd Robert Thomas a Chatrin Sion (neu Catherine Jones) yn fuan wedyn. Mae stori troedigaeth Robert yn cael ei adrodd gan William Hobley, ac er efallai y gwelir rhywfaint o ddychymyg yn y dweud, nid ellid gwneud yn well na dyfynnu ei ddisgrifiad yma:

Roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu ama bennau'r ffydd, a hynny'n fuan ar ôl ei droedigaeth. Cynhaliai sesiynau nos Sul ac ar nosweithiau gwaith hefyd, a phan dyfodd ei fab hynaf John yn ddigon hen, cynorthwyai hwnnw ei dad. Ceisid sefydlu ysgol Sul yn Llanllyfni tua 1796, ac yn weddol, fuan wedyn - ac yn sicr bron cyn 1804 - roedd Robert Thomas yn cynnal ysgol Sul yn y Ffridd hefyd[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. G.T. Roberts, Arfon (1759-1822), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 1 (1939), tt.57-8
  2. Gwynfryn Richards, The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254; W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.115